Cwmni darnau a gwelliannau ceir a beiciau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw Halfords Group plc. Mae hefyd siopau yn y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl ond bydd rheiny yn cael eu cau. Mae cwmni arall yn rhedeg siopau dan yr enw Halfords yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Rhestrir Halfords ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ac mae'n ran o'r FTSE 250 Index. Defnyddir y brand 'Bikehut' ar gyfer adran beiciau'r busnes.

Halfords
Math
siopau cadwyn
Diwydiantmanwerthu
Sefydlwyd1892
PencadlysRedditch
Gwefanhttps://www.halfords.com Edit this on Wikidata
 
Halfords yn Kirkstall, Leeds.

Sefydlwyd y cwmni gan Frederick Rushbrooke yn Birmingham ym 1892 fel cyfanwerthwyr nwyddau haearn.[1] Ym 1902 symudodd Rushbrooke i siop yn Halford Street, Leicester, enwyd y cwmni ar ôl y stryd hwn, a dechreuont werthu nwyddau seiclo.[1]

Agorwyd y 200fed siop ym 1931, a prynnwd y Birmingham Bicycle Company ym 1945.[1] Ym 1968, agorwyd y 300fed siop.[1]

Daeth y cwmni'n ran o Burmah Oil ym 1969, yn dilyn brwydr trosfeddiant rhwng Burmah Oil a Smiths Industries.[1] Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Denis Thatcher yn un o gyfarwyddwyr an-weithredol Halfords, sef gŵr Margaret Thatcher, a ddaeth yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach.[2]

Prynwyd y cwmni gan y Ward White Group ym 1983[1] ac yn ddiweddarach, gan y Boots Group ym 1991.[1] Cymerwyd ef drosodd gan CVC Capital Partners yn 2002[1] ac yn 2004 lansiwyd y cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.[1] Ar 11 Gorffennaf 2005 aeth Halfords i Gytundeb Cydweithrediad gyda Autobacs Seven Co.,[3] sef cwmni ategolion ceir Siapaneaidd sydd â siopau yn fyd eang, ac yn fwyaf adnabyddus mewn gwledydd lle nad oedd siop Autobacs, fel noddwr y Super GT a'r D1 Grand Prix. Ar 13 Rhagfyr 2005, caffaelodd Autobacs 5% (11,400,000 cyfran) o'r cwmni, gwerth tua ¥7.5 biliwn.[4]

Ar 18 Chwefror 2010, datganodd y cwmni eu bod wedi cytuno i brynu cadwyn MOT Nationwide Autocentre gan Phoenix. Eu bwriad yw i ail-frandio'r canghennau dan enw Halfords ac agor 200 ychwanegol, gan greu tua 1,000 o swyddi newydd.[5] Ar 24 Mai 2010, agorwyd y pedwar Halfords Autocentres cyntaf yn Derby, ac un arall ger eu pencadlys yn Solihull.[6]

Arferai Halfords noddi tîm rasio ceir Team Dynamics BTCC, Team Halfords oedd enw'r tîm pryd hynny.[7] Enillodd y tîm bencampwriaeth gyrwyr BTCC yn 2005 a 2006 gyda Matt Neal.[8] Bu Halfords hefyd yn noddi'r rhaglennu gyrru ar sianel deledu Dave am gyfnod.

Yn 2008 a 2009, noddodd Halfords dîm seiclo proffesiynol ar gyfer dynion a merched, sef Team Halfords Bikehut, a arweiniwyd gan y Gymraes Nicole Cooke.[9] Maent hefyd yn noddi'r gyfres o rasys seiclo cylchffordd, Halfords Tour Series, ers 2010.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am gwmni Prydeinig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.