LHDT yng Nghymru
Mae agweddau cymdeithasol yng Nghymru tuag at gyfunrywioldeb, deurywioldeb a thrawsrywedd yn weddol ryddfrydol, yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig a Gorllewin Ewrop. Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yng Nghymru yn llai parod i dderbyn pobl LHDT na phobl yn rhannau eraill o Brydain.
Darganfu arolwg yn 2006 gan y mudiad Stonewall fod 25% o bobl LHD yng Nghymru wedi cael eu diswyddo oherwydd eu rhywioldeb – canran uwch o lawer na'r cyfartaledd trwy Brydain – er gwaethaf deddf gwrth-wahaniaethu a ddaeth i rym yn 2003.[1]
Yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru yn 2007 roedd y nifer o droseddau casineb yn erbyn cyfunrywiolion yng Nghymru ar gynnydd, gyda phedwar o bob pump o aelodau'r gymuned hoyw yn dioddef ymosodiadau geiriol tra bod un o bob tri yn dioddef ymosodiad treisgar; yn ôl amcangyfrif gan y Swyddfa Gartref dim ond 10% o'r rhai sy'n dioddef ymosodiadau am eu bod yn hoyw sy'n riportio'r trosedd i'r heddlu.[2]
Cynhelir Gŵyl Mardi Gras yng Nghaerdydd yn flynyddol (er ni fydd yn debygol o gael ei chynnal yn 2008) ers 1999, pan oedd 6000 o fynychwyr; yn 2007 cynyddodd nifer y mynychwyr i 40 000.[3] Ym Mehefin 2009, cynhaliwyd Gŵyl Balchder Abertawe yn ninas Abertawe am y tro cyntaf erioed. Mynychodd dros 3,000 o bobl yr ŵyl hon.
Rhestr Cymry LHDT
golygu- Gweler hefyd: Rhestr pobl hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol.
- Ron Davies, gwleidydd
- Russell T. Davies, cynhyrchydd ac ysgrifennwr teledu
- Aled Haydn Jones, cynhyrchydd radio
- Jan Morris, awdures a hanesydd
- Ivor Novello, cyfansoddwr, canwr, ac actor
- Nigel Owens, dyfarnwr rygbi'r undeb
- Adam Price, gwleidydd
- Gareth Thomas, chwaraewr rygbi
- Ian Watkins, canwr
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 'Llai parod i dderbyn hoywon'. BBC Cymru'r Byd (25 Mehefin, 2006). Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
- ↑ Mwy o droseddu yn erbyn hoywon. BBC Cymru'r Byd (25 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
- ↑ Mardi Gras yn y brifddinas. BBC Cymru'r Byd (1 Medi, 2007). Adalwyd ar 27 Mai, 2008.
Dolenni allanol
golygu- Stonewall Cymru Archifwyd 2008-07-24 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Mardi Gras Caerdydd Archifwyd 2008-05-31 yn y Peiriant Wayback