Hanes Swydd Lincoln

Poblogwyd y rhan o Loegr a elwir heddiw yn Swydd Lincoln yn ystod yr oesoedd cynhanesyddol. Roedd ucheldiroedd yr ardal yn darparu safleoedd sych ar adeg pan orchuddiwyd y Ffendiroedd gan gorsydd a gwastatiroedd llifwaddodol. Cynyddodd y niferoedd o aneddiadau wrth i fasnach datblygu ar draws Môr y Gogledd, ac yn ardal Ingoldmells bu diwydiant halen. Yn oesoedd y Celtiaid, y Corieltauvi a'r Iceni oedd y llwythau a drigasant yn yr ardal. Codwyd sawl safle yno gan y Rhufeiniaid hefyd, ac yr oedd Lindum Colonia, Lincoln bellach, yn un o drefi pwysig Britannia. Sefydlwyd Teyrnas Lindesege gan yr Eingl-Sacsoniaid, a bu'r Daniaid hefyd yn goresgyn yr ardal.

Map o Swydd Lincoln yn niwedd yr 17g.

Crewyd y sir drwy gyfuno tiriogaeth Lindesege â bwrdeistref Stamford yn y Ddaenfro. Lindsey oedd enw'r sir am ryw amser, a dyna'r enw a geir yn Llyfr Dydd y Farn. Rhennid y sir yn draddodiadol yn draeannau: Lindsey yn y gogledd, Holland yn y de ddwyrain, a Kesteven yn y de orllewin. Adeiladwyd nifer o eglwysi, abatai, a mynachlogydd yn Swydd Lincoln yn ystod yr Oesoedd Canol. Sir amaethyddol oedd Swydd Lincoln, a bu trefi Lincoln a Stamford a phorthladd Boston yn ffynnu o ganlyniad i'r diwydiant gwlân. Cynyddodd cynnyrch amaethyddol y sir yn sgil draenio'r Ffendiroedd yn yr 17g. Dirywiodd masnach o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol a mudo dynol i'r dinasoedd a'r meysydd glo.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Lincolnshire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mawrth 2019.