Hanumanasana (Y Mwnci)
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ymarferion ioga yw Hanumanasana (Sansgrit: हनुमानासन) neu'r Mwnci.[1] Gelwir y math hwn o osgo yn asana eistedd, neu asana anghymesur mewn ioga modern ac ymarfer corff. Dyma'r fersiwn ioga o'r hyn a elwir mewn gymnasteg yn hollt flaen (front splits).
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit Hanuman (endid dwyfol mewn Hindŵaeth sy'n ymdebygu, o ran pryd a gwedd, i fwnci) ac asana (osgo person),[2] ac mae'n coffau'r naid anferth a wnaeth Hanuman i gyrraedd ynysoedd Lanca o dir mawr India.[3]
Nid yw'r ystum yn cael ei ddisgrifio yn y testunau hatha yoga canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20fed ganrif mewn traddodiadau amrywiol o ioga modern , megis yn Camau Cyntaf i Ioga Uwch Swami Yogesvarananda ym 1970,[4] yn Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois,[4] yn yr Asana Pranayama Mudra Bandha, gan Swami Satyananda Saraswati (2003)[5] ac yn Light on Yoga (1966) gan BKS Iyengar.[6]
Gweler hefyd
golygu- Samakonasana, y ffurf ioga o holltau ochr
- Rhestr o safleoedd ioga
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yoga Journal - Monkey Pose". Cyrchwyd 2011-04-09.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Mead, Jean (2008). How and Why Do Hindus Celebrate Divali?. Evans Brothers. tt. 10–. ISBN 978-0-237-53412-7.
- ↑ 4.0 4.1 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. t. 96. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. tt. 340–341. ISBN 978-81-86336-14-4.
- ↑ Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. tt. 352–354. ISBN 978-1855381667.