Roedd y Comander Harold Godfrey Lowe RD RNR (21 Tachwedd 188212 Mai 1944) yn Bumed Swyddog ar fwrdd yr RMS Titanic ar adeg ei suddo ym 1912.[1]

Harold Lowe
Ganwyd21 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Llanrhos Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Degannwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmorwr Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar golygu

Ganwyd Harold Lowe yn Eglwys Rhos, ger Conwy ym 1882 y pedwerydd o wyth o blant a anwyd i George a Harriet Lowe. Bwriad y tad oedd i Harold cael ei brentisio i ddyn busnes llwyddiannus yn Lerpwl ond roedd Harold yn benderfynol o fynd i'r môr. Yn 14, rhedodd i ffwrdd o'i gartref yn y Bermo lle'r oedd wedi mynychu'r ysgol ac ymunodd â'r Llynges Fasnachol, yn gwasanaethu ar hyd Arfordir Gorllewin Affrica. Dechreuodd Lowe fel bachgen ar fwrdd sgwneri arfordirol Cymru wrth weithio i ennill ei ardystiadau. Ym 1906, llwyddodd yn yr ardystiadau i ddyfod yn ail fêt. Ym 1908, fe enillodd dystysgrif mêt cyntaf.[2]

Wedi ennill tystysgrif Meistr ymunodd Lowe a chwmni White Star ym 1911. Gwasanaethodd fel trydydd swyddog ar longau'r Belgic a'r Tropic cyn cael ei drosglwyddo i'r Titanic fel y pumed swyddog ym 1912. Er gwaethaf ei flynyddoedd niferus ar y môr, mordaith y Titanic oedd y tro cyntaf iddo wneud taith trawsatlantig.

Ar fwrdd y Titanic golygu

 
RMS Titanic

Rhagbaratoi golygu

Fel swyddogion iau eraill y llong, adroddodd Lowe i swyddfeydd White Star, Lerpwl, am naw o gloch y bore ar 26 Mawrth 1912, cyn teithio i Belfast y diwrnod canlynol er mwyn dod yn rhan o staff y Titanic. Ar y diwrnod hwylio (10 Ebrill), bu Lowe yn cynorthwyo (ymhlith pethau eraill) i ostwng dau o'r badau achub er mwyn bodloni'r Bwrdd Masnach fod y Titanic yn bodloni'r rheoliadau diogelwch.[3].

Y suddo golygu

 
Y mynydd rhew â suddodd y Titanic

Ar 14 Ebrill 1912, noson y suddo, cafodd Lowe ei rhyddhau am 8.00 pm gan y Chweched Swyddog Moody ac yn cysgu pan darodd y llong mynydd iâ am 11.40 o'r gloch. Parhaodd i gysgu drwy'r gwrthdrawiad gan ddeffro tua hanner awr ar ôl y digwyddiad.[4].

Wedi deffro a chael ei hysbysu o'r sefyllfa gwisgodd gafaelodd yn ei ddryll ac aeth ati yn syth i weithio. Ei dasg gyntaf oedd llenwi a gollwng bad achub rhif 5 i'r môr, wedi gwneud hynny aeth ef a'r swyddog Moody i lenwi badau rhif 12 i 16 ar ochr port y llong. Gan nad oedd Swyddog gyda'r grŵp hwn o fadau awgrymodd Moody mae da o beth byddai i Lowe mynd ar un o'r badau er mwyn derbyn cyfrifoldeb dros eu diogelwch ar y môr. Erbyn i fad rhif 14 cael ei lansio roedd y sefyllfa ar ddec y prif lestr yn troi'n banig wrth i'r rhan fwyaf o'r teithwyr sylwi bod y llong ar fin darnio, a bu'n rhaid i Lowe tanio tair ergyd o'i gŵn[5] i'w rhwystro rhag gorlwytho'r bad a lladd ei holl deithwyr.[6]

Achub bywydau golygu

 
Un o fadau achub y Titanic

Ar ôl cyrraedd y dŵr, gorchmynnodd Lowe i'w bad achub i gael ei rwyfo tua 150 llath (140m) i ffwrdd o'r Titanic. Pan suddodd y llong tua 2:20, dechreuodd Lowe i gasglu nifer o gychod achub yng nghyd. Roedd yn dymuno dychwelyd i godi goroeswyr ond roedd ofnau o gael eu llethu gan ormodedd o bobl. Fe ail ddosbarthodd y goroeswyr yn y grŵp o fadau achub oedd wedi casglu ynghyd er mwyn sicrhau bod o leiaf un o'r badau yn wag i chwilio am oroeswyr ychwanegol i'w hachub o ddŵr y môr, ei fad ef oedd un o ddau yn unig a fentrodd i ail chwilio am oroeswyr, a'r unig un i godi'r hwyliau oedd ar bob bad achub er mwyn cyflymu'r gwaith o gyrraedd at bobl oedd ar fin trengi.

Cafodd Lowe a'i grŵp o fadau achub eu codi'r bore wedyn gan y RMS Carpathia.

Yr ymchwiliadau golygu

Glaniodd goroeswyr y Titanic ar Bier 54 yn Efrog Newydd ar 18 Ebrill. Galwyd Lowe yn fuan i dystio yn yr ymchwiliad yn America i mewn i'r suddo. Byrddiodd ar yr Adriatic ar 2 Mai i ddychwelyd i wledydd Prydain, a chafodd ei alw i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad Prydeinig. Bu cwyno bod tystiolaeth Lowe i'r ymchwiliad Americanaidd yn wamal a sarhaus er enghraifft pan ofynnwyd iddo ; O ba beth y gwnaed mynydd rhew ei ateb oedd rhew am wn i Syr cafodd ei feirniadu hefyd am fod yn hiliol a bu'n rhaid iddo ymddiheuro ddwywaith am ddefnyddio'r term Eidalwr fel mwys am lwfrgi.

Yn 2012 gwnaed traws ysgrifau o'r holl dystiolaeth a roddwyd gerbron ymchwiliad y Senedd yn yr UDA ac ymchwiliad Comisiynydd Llongddrylliadau Prydain a'u gosod ar y we. Mae tystiolaeth Lowe yn dechrau ar y pumed diwrnod o'r ymchwiliad Americanaidd ac ar ddiwrnod 13 o'r ymchwiliad yn Llundain.[7]

Bywyd wedi'r Titanic golygu

Wedi iddo ddychwelyd i'r Bermo mynychodd 1,300 o bobl dderbyniad dinesig a gynhaliwyd i'w anrhydeddu yn y Pavilion Picture House (safle clwb nos y Sandancer bellach). Cyflwynwyd oriawr aur iddo yn dwyn arysgrif Cyflwynwyd i Harold Godfrey Lowe, 5ed swyddog R.M.S. Titanic gan ei ffrindiau yn Abermaw ac mewn mannau eraill i gydnabod a gwerthfawrogi ei wasanaeth dewr ar ddarnio'r Titanic 15 Ebrill 1912.

Ym mis Medi 1913, priododd ag Ellen Marion Whitehouse, a bu iddynt ddau o blant, Florence Josephine a Harold William. Gwasanaethodd yn y Royal Naval Reserve yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu yn Vladivostok ar adeg Chwyldro a Rhyfel Cartref Rwsia; cafodd ei ddyrchafu i reng Is-gapten, RNR. Ar ôl y rhyfel dychwelodd i wasanaethu gyda llongau rhyngwladol y llynges fasnachol a chwmni White Star, gan ymddeol ym 1931 a symyd i Ddeganwy gyda'i deulu. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethu fel Warden Cyrchoedd Awyr hyd i'w iechyd dorri gan ei orfodi i ddefnyddio cadair olwyn.

Marwolaeth golygu

 
Cofeb Lowe yn y Bermo

Bu farw Harold Lowe o bwysedd gwaed uchel ar 12 Mai 1944 yn 61 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llandrillo-yn-rhos[8].

Gosodwyd plac o lechen er cof am Lowe ar furiau Tŷ'r Harbwrfeistr yn y Bermo yn 2012 gydag ysgrif yn dweud Er cof am arwr lleol y 5ed swyddog Harold Godfrey Lowe. Adawodd Abermaw yn 14 oed i fynd i'r môr. Bu ganddo ran arwrol yn achub rhai a oroesodd wedi suddo'r RMS Titanic ar 15 Ebrill 1912[9]. Ceir plac glas er cof amdano ar furiau ei gartref olaf yn Neganwy hefyd[10].

Portreadau golygu

Mae Lowe yn cael ei bortreadu gan yr actorion

Ysgrifennwyd cofiant i Lowe Titanic Valour: The Life of Fith Officer Harold Lowe gan Inger Shell yn 2011 [12]

Cyfeiriadau golygu