Hawliau LHDT ym Mrwnei

Mae sefyllfa hawliau LHDT ym Mrwnei yn un o'r waethaf yn Ne Ddwyrain Asia.

Gweithgareddau cyfunrywiol

golygu

Yn Ebrill 2018 daeth ddeddfau penyd i rym ym Mrwnei yn seiliedig ar sharia, y gyfraith Islamaidd. Mewn anerchiad i boblogaeth y wlad, meddai'r Swltan Hassanal Bolkiah: "Rwyf yn dymuno gweld dysgeidiaeth Islamaidd yn y wlad hon yn cryfhau."[1] Mae'r deddfau yn argymell dienyddio drwy labyddio yn gosb am ryw refrol rhwng dynion, a deugain gwialennod neu ddeng mlynedd o garchar yn gosb am lesbiaeth. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bedwar Mwslim fod yn dyst i'r troseddau gwaethaf, felly'n mae'n annhebyg byddai achosion o droseddau rhywiol yn mynd i'r llys. Nid yw Brwnei wedi dienyddio'r un troseddwr ers 1957, er bod y gosb eithaf yn gyfreithlon yn y wlad.[2]

Condemniwyd y deddfau gan sawl gwlad, gan gynnwys Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, a'r Almaen.[3] Ymbiliodd Michelle Bachelet, Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, ar lywodraeth Brwnei i ohirio'r ddeddfwriaeth.[4] Dywedodd Amnest Rhyngwladol bod y dedfrydau yn "greulon" ac mae'r gyfraith yn "cosbi ymddygiad na dylai fod yn droseddau o gwbl".[5] Gelwid y gyfraith yn "farbaraidd i'r bôn" gan Phil Robertson, dirprwy gyfarwyddwr Human Rights Watch yn Asia.[6] Datganwyd boicot gan sawl difyrrwr yn y Gorllewin, gan gynnwys yr actor George Clooney a'r canwr Elton John, yn erbyn gwestai a berchnogwyd gan Swltan Brwnei.[7][8] Cyhoeddodd y cwmni hedfan Virgin Australia y byddent yn diddymu cytundeb gyda Royal Brunei Airlines am ddisgowntiau i'w staff.[9]

Trawsrywedd

golygu

Nid oes hawl gan yr unigolyn trawsrywedd ym Mrwnei i newid ei enw nac ei rhywedd yn swyddogol.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Brunei Sultan calls for 'stronger' Islamic teachings, as syariah laws due to enter force", The Straits Times (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) "Brunei implements stoning to death under anti-LGBT laws", BBC (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  3. (Saesneg) "Brunei Stoning Punishment for Gay Sex and Adultery Takes Effect Despite International Outcry", The New York Times (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  4. (Saesneg) "Bachelet urges Brunei to stop entry into force of “draconian” new penal code", Y Cenhedloedd Unedig (1 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  5. (Saesneg) "Brunei must immediately halt plans to introduce stonings and other vicious punishments", Amnest Rhyngwladol (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  6. (Saesneg) "Brunei: New Penal Code Imposes Maiming, Stoning", Human Rights Watch (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  7. "Beirniadu cyfreithiau “creulon” Brunei yn erbyn hoywon", Golwg360 (3 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  8. (Saesneg) "Brunei hotels withdraw from social media amid anti-LGBT law backlash", BBC (5 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  9. (Saesneg) "Virgin Australia ends deal with Royal Brunei Airlines after country introduces anti-LGBT+ laws", The Independent (4 Ebrill 2019). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.
  10. (Saesneg) "Trans Legal Mapping Report Archifwyd 2019-04-03 yn y Peiriant Wayback", ILGA (2017). Adalwyd ar 5 Ebrill 2019.