Hawliau Pobl Frodorol Rhyngwladol

sefydliad

Sefydliad byd-eang, dielw yw Hawliau Pobl Frodorol Rhyngwladol (Indigenous Peoples Rights International; IPRI) sy'n gweithio i amddiffyn amddiffynwyr sy'n ymladd dros hawliau pobl frodorol; mae'r mudiad yn galw am gyfiawnder a pharch at hawliau pobl frodorol.[1]

Hawliau Pobl Frodorol Rhyngwladol
Math o gyfrwngsefydliad hawliau dynol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://iprights.org/ Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Fe'i sefydlwyd yn 2019 i fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang cynyddol o'r trais yn erbyn arweinwyr brodorol gan gynnwys carcharu amddiffynwyr tir oherwydd cyhuddiadau ffug, lladd, dadleoli, bachu tir, a throseddau hawliau dynol eraill.[2]

Mae IPRI yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr, sy'n cynnwys nifer o bobl o dreftadaeth frodorol o sawl gwlad wahanol, gan gynnwys Canada, Awstralia, Sweden, Kenya, Colombia, y Philipinau, Rwsia ac Indonesia. Rheolir y sefydliad o ddydd i ddydd gan yr Ysgrifenyddiaeth Fyd-eang (Global Secretariat)[1]

Cyn Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig (CU) ar Hawliau Pobl Gynhenid, Victoria Tauli Corpuz,[3] a Dyfarnwr Pencampwyr y Ddaear y Cenhedloedd Unedig, Joan Carling, [4] oedd prif sefydlwyr yr IPRI.[2] Mae'r gwleidydd Mónica Chuji (o Ecwador) yn ddirprwy gyfarwyddwry sefydliad.[5]

Gweithgareddau

golygu

Mae IPRI yn arwain y Fenter Fyd-eang i Fynd i'r Afael â Throseddu, Trais ac Iawndal yn Erbyn Pobl Frodorol, gyda ffocws yr IPRI ar gynnal hawliau pobl frodorol ym myd busnes, lleihau troseddoli hawliau pobl frodorol a lleihau'r nifer y pobl frodorol sy'n cael eu carcharu, gan gynnwys menywod a phlant. Mae IPRI yn cefnogi symudiad tuag at ddiwygio cenedlaethol a mecanweithiau gorfodi rhyngwladol, sydd eu hangen i sicrhau bod hawl pobl frodorol i fyw ar eu tir, ac amddiffyn eu tir yn cdigwydd.[6] Mae'r prif ffocws ar chwe gwlad lle mae trais yn erbyn pobloedd brodorol yn arbennig o ddifrifol: Brasil, Colombia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, India, Mecsico a'r Philipinau.[7]

Mae IPRI yn gweithio i:

  • Ddod â sylw byd-eang i faterion lleol.
  • Gynnal gweithgareddau ar y cyd â phobl frodorol a sefydliadau hawliau dynol i fynd i'r afael â'r sefyllfa o droseddoli a chosb ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang.
  • Rwydweithio a phartneru â sefydliadau a chynghreiriau pobl frodorol a sefydliadau hawliau dynol perthnasol.[8]
  • Ddatblygu deunyddiau eiriolaeth, gan gynnwys crynodebau, i wella'r ymwybyddiaeth o Hawliau Pobl Frodorol.[7]

Cyhoeddiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Indigenous Peoples Rights International". Indigenous Peoples Rights International. Cyrchwyd 10 May 2022.
  2. 2.0 2.1 "Launching of the Indigenous Peoples Rights International-IPRI" (PDF). University of New South Wales. Cyrchwyd 10 May 2022.
  3. "Special Rapporteur on the rights of indigenous peoples". United Nations. Cyrchwyd 10 May 2022.
  4. "Joan Carling is the winner of the Champions of the Earth Award, for lifetime achievement". UNEP. Cyrchwyd 10 May 2022.
  5. "Ecuador: Entrevista a Mónica Chuji sobre derechos de la naturaleza". Indymedia Argentina Centro de Medios Independientes (( i )) (yn Sbaeneg). 2022-08-09. Cyrchwyd 2022-08-11.
  6. "Indigenous Endorois fight for their land and rights at UN". Grist. Cyrchwyd 10 May 2022.
  7. 7.0 7.1 "Brochure - About IPRI" (PDF). Indigenous Peoples Rights International. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-04-19. Cyrchwyd 10 May 2022."Brochure - About IPRI" Archifwyd 2022-04-19 yn y Peiriant Wayback (PDF). Indigenous Peoples Rights International. Retrieved 10 May 2022.
  8. "Indigenous Peoples Rights International (IPRI)". ESCR-Net. Cyrchwyd 10 May 2022.

Dolenni allanol

golygu