Heledd ap Gwynfor
Trefnydd a rheolwraig yw Heledd ap Gwynfor (ganed 1977). Mae'n Gydlynydd Cyfathrebu gyda Mentrau Iaith Cymru ers 2017, cyn hynny bu'n rheoli siop a llety ym mhentref Tresaith, Ceredigion a Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro.
Heledd ap Gwynfor | |
---|---|
Ganwyd | 1977 |
Teulu
golyguMae Heledd yn chwaer aelod Senedd Cymru, Dwyfor Meirionnydd dros Blaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Maent ill dau yn blant i'r Gweinidog gyda'r Annibynwyr a'r heddychwr, y Parch. Guto Prys ap Gwynfor, mab y gwleidydd, Gwynfor Evans a Siân Elis ap Gwynfor. Derbyniodd Heledd ei haddysg cynradd yn ysgolion Tal y Bont, Ceredigion ac yn Ysgol Coedmor, Cwmann ger Llanbedr Pont Steffan - bellach Ysgol Carreg Hirfaen. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi [bellach Bro Teifi], St Roses (Georgetown, Gaiana, de America), Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ystalyfera. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth.
Personol
golyguMudodd y teulu o 4 pan oedd Heledd yn 12 oed, i Gaiana / Guyana, de America fel cenhadon. Buont yn byw ym mhentref Buxton nepell o'r brif ddinas Georgetown, a mynychodd Heledd a'i brawd yr ysgol uwchradd St Roses, yn y brif ddinas. Dyma hau yr hedyn teithio ym mol Heledd. Bu Heledd yn byw am gyfnod ar kibbuts yn Israel pan yn 18 oed, a gweithio yn Tsieina fel athrawes Saesneg gyda mudiad y VSO am ddwy flynedd yn nhref Lishi, talaith Shanxi. Mae Heledd yn byw yn nhref Caerfyrddin ac yn briod â Rhys ac yn fam i Meredydd Prys. Mae'n aelod o Gôr Seingar yn y dref; yn aelod o Gapel Annibynnol Hermon ger Cynwyl Elfed ac yn aelod o glwb darllen (a gwin!) yn y dref. Sefydlodd Heledd a'i gŵr Sesiwn Werin y Baedd - sesiynau gwerin Cymraeg sy'n cwrdd unwaith pob mis yn nhafarn y Baedd, Heol Awst, Caerfyrddin. Mae Heledd hefyd yn aelod ac yn chwarae i glwb criced merched Bronwydd ers eu sefydlu yn 2020. Yn mis Mai 2022 etholwyd Heledd yn gynghorydd tref Caerfyrddin dros Blaid Cymru.