Heledd ferch Cyndrwyn

Heledd ferch Cyndrwyn (ganwyd tua 610[1]) oedd y ferch gyntaf i gael ei henwi o fewn llenyddiaeth Gymraeg.[2] Ni wyddwn ai merch real ynteu merch dychmygol ydoedd. Mae'n ymddangos fel tywysoges Teyrnas Powys ac Amwythig yng Nghanu Heledd, sy'n disgrifio Brwydr Maes Cogwy lle bu farw ei brawd Cynddylan (m. 655). Wedi'r frwydr enbyd hon, daeth terfyn ar reolaeth y teulu dros yr ardal. O'i genau hi y daw wylofain Canu Heledd.[3]

Heledd ferch Cyndrwyn
Ganwyd Teyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Tad Cyndrwyn Fawr Edit this on Wikidata

Cysylltir hi a Phengwern, a chred rhai haneswyr fod ei theulu hefyd wedi rheoli Dogfeiling. Yn y mynegai hwnnw a elwir yn Drioedd Ynys Prydain, caiff ei henwi fel 'un o dair gwestai llys Arthur', ond Heledd arall yw hon, sydd a'i gwreiddiau mewn chwedloniaeth llawer hŷn. Craidd Trioedd Ynys Prydain yw chwedlau neu draddodiadau am gymeriadau Cymreig neu Frythonaidd sy'n perthyn i fyd mytholeg, hanes traddodiadol Cymru ac Ynys Prydain o safbwynt Cymreig.[1]

TeuluGolygu

Mab Cynan Garwin oedd ei thad, Cyndrwyn ap Cynan Garwin, fel yr awgryma ei enw; credir iddo gael ei eni tua 580 a'i fod yn Arglwydd Tren, ardal rhwng Caer a'r Hafren. Dywedir iddo frwydr ym Mrwydr Caer yn 616. Ni wyddom ble yn union ym mhle mae 'Tren' nac a fu iddo fyw wedi'r frwydr. Roedd ganddo bedwar mab a thair merch:

Elfan Powys ap Cyndrwyn, ganwyd c. 610
Cynwraith ap Cyndrwyn, ganwyd c. 615
Cynon ap Cyndrwyn, ganwyd c. 615
Heledd ferch Cyndrwyn, ganwyd c. 610
Ffeuer ferch Cyndrwyn, ganwyd c. 610
Medlan ferch Cyndrwyn, ganwyd c. 615[1]

Tarddiad y gair 'Heledd'Golygu

Ystyr y gair 'Heledd' yn wreiddiol yw pwll o ddŵr hallt neu aber afon; ceir 'Ynysoedd Heledd' yn yr Alban. Mae'n bosib fod y gair yn dod o 'halen'. Yn ôl Koch, gall fod cysylltiad Celtiaid ag afonydd a llynnoedd a'u duwiesau. Yn ‘Englynion y Clyweid’ (Llanstephen MS.27) defnyddir y sillafiad Hyledd.[3]

Gweler hefydGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Jenny Rowland Early Welsh Saga Poetry: a study and edition of the englynion (Caergrawnt: D.S. Brewer, 1990)
  • Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)

CyfeiriadauGolygu

Dolen allanolGolygu