Hen wrach (gwyfyn)

(Ailgyfeiriad o Hen wrach)
Callistege mi
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Callistege
Rhywogaeth: C. mi
Enw deuenwol
Callistege mi
Clerck, 1759
Cyfystyron
  • Euclidia mi var. extrema
  • Euclidia extrema
  • Euclidia mi
  • Phalaena litterata
  • Callistege litterata
  • Callistege mi elzei
  • Callistege elzei

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw hen wrach, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy hen wrachod; yr enw Saesneg yw Mother Shipton, a'r enw gwyddonol yw Callistege mi (neu Euclidia mi).[1][2][3] Cafodd ei adnabod a'i ddosbarthu gyntaf gan Carl Alexander Clerck yn 1759. Mae ei diriogaeth yn cwmpasu llawer o Ewrop, Siberia, y Dwyrain Pell ac Asia Leiaf. Yn ynysoedd Prydain, mae'n eitha niferus yn Lloegr a Chymru; a cheir heidiau bychan yn yr Alban ac Iwerddon.[4]

Yn ystod y dydd mae'n hedfan: teithiau byr a chwim fel arfer a hynny ar dir gwastraff, agored.

Rhwng Mai a Medi mae'r wyau'n cael eu dodwy. O Fehefin i Fedi fe'i gwelir ar ffurf siani flewog a rhwng Gorffennaf a Mai fel chwiler. Rhwng Mai a Gorffennaf, yn ddibynol ar leoliad, daw'r oedolyn allan o'i blisg. Fel chwiler mae'n cysgu'r gaeaf a hynny ar lafn o laswellt neu yn y pridd.

Bwyd golygu

Y prif fwyd ydy teulu'r meillionen.

Yr enw golygu

Mae'r patrwm ar adenydd yr oedolyn yn symbol eiconig o Ursula Southeil, a adnabyddwyd hefyd dan yr enw "Mother Shipton", hen wrach chwedlonol. Yn ôl y traddodiad fe ragwelodd hi farwolaeth Thomas Wolsey yn 1530.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r hen wrach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Kellett, Arnold. The Yorkshire Dictionary of Dialect, Tradition and Folklore (arg. 2nd). Otley: Smith Settle. tt. 117–8. ISBN 1-85825-016-1.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. Kimber, Ian. "Mother Shipton Callistege mi". UK Moths. Cyrchwyd 2008-10-23.