Henry Lloyd (ap Hefin)
Bardd, newyddiadurwr ac argraffydd o Islaw'r Dref, ardal orllewinol blwyf Dolgellau yn enedigol, oedd Henry Lloyd (23 Mehefin 1870 – 14 Medi 1946).[1] Ei enw barddol oedd ap Hefin.
Henry Lloyd | |
---|---|
ap Hefin 1914 | |
Ffugenw | ap Hefin |
Ganwyd | 23 Mehefin 1870 Dolgellau |
Bu farw | 14 Medi 1946 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, argraffydd |
Mae'n cael ei gofio'n bennaf fel awdur geiriau'r emyn dirwestol I bob un sy'n ffyddlon, emyn sydd, yn fwyaf eironig, yn cael ei ganu'n amlach mewn tafarnau [2] a chlybiau na mewn capeli Cymru bellach.
Cefndir
golyguGanwyd ap Hefin yn Nhyddyn Ifan, Islaw'r Dref, yn fab i David Lloyd, a Margaret (née Owen) ei wraig. Derbyniodd addysg elfennol yn ysgol Arthog.
Ym 1896 priododd â Sarah Ann Gravell a chawsant bedwar o blant. Bu Sarah farw ym 1919.[3]
Roedd yn hen ewyrth i'r bardd Eingl-Gymreig David Annwn (David James Jones g 1953).[4]
Gyrfa
golyguCafodd ei brentisio yn swyddfa'r Dydd, Dolgellau, un o argraffdai Cymraeg pwysicaf Cymru'r cyfnod, wedi darfod ei brentisiaeth symudodd i Aberdâr ym 1891 i weithio fel cysodydd yn argraffdy'r Darian. Wedi dwy flynedd yn gweithio i'r Darian symudodd i argraffdy'r Tyst ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i'r Darian ym 1902. Yn ddiweddarach sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun a pharhau ynddi nes ymddeol yn 1940. Bu'n is olygydd Y Tyst ac yn olygydd Y Darian. Golygodd golofn farddol Y Darian am ugain mlynedd.
Bu'n bregethwr cynorthwyol yn yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaid) am dros hanner canrif ac yn ddarlithydd poblogaidd mewn cyfarfodydd llenyddol a chrefyddol.[5]
Gyrfa lenyddol
golyguRoedd ap Hefin yn fardd a llenor poblogaidd ac yn enillydd llawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol; bu'n athro cerdd dafod. Mae'n cael ei gofio'n bennaf bellach am ei sloganau cynganeddol i hysbysebu cwmni diodydd dirwestol Corona, Thomas ac Evans, Porth y Rhondda a'i emyn dirwestol I bob un sydd ffyddlon a genir ar y dôn Rachie fel arfer
Corona yw coron pob Croeso
Mwyn yw dŵr yn mynd i waered,- a mwyn
Yw y medd yn cerdded
Os achos torri syched,
Y mwyna yw lemwnêd.[6]
I bob un sydd ffyddlon
I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.
- I bob un sydd ffyddlon,
- Dan Ei faner Ef
- Mae gan Iesu goron
- Fry yn nheyrnas nef.
Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd.
Cyhoeddiadau
golyguYsgrifennodd ap Hefin deunaw o lyfrau gan gynnwys
- Mafon duon y deau : Pant yr Onen, ac odlau eraill 1899
- Y briodasferch, gwraig yr Oen, (pryddest cadair Arthog, Hydref 31, 1903), Coffa John Evans (Eglwysbach), Marwnad Esyllwg, a darnau byrion eraill 1903
- Y twyni grug a'r goeden las, a chathlau ereill 1910
- Yr Allor deuluaidd : Awdl cadair Eisteddfod Cwmaman 1911 gydag atodiad : Er cof 1911?
- Dwy wraig o'r wlad : neu, dro i'r amser 1914
- Merch y Brenin, ac ereill o deulu'r glyn 1923?
- Dwr o bydew Bethlehem a darnau eraill 1926
- Stori'r dyn dwad, a straeon eraill 1932
- Dringo'r bannau ac awdlau eraill 1934
- Cofiant a gweithiau y Parchedig David Silyn Evans : gweinidog Eglwys Siloa, Aberdâr gan ddeugain o sgrifenwyr, yn cynnwys llith gan R. Ifor Parry ; casglwyd gan Ap Hefin 1937
- Cywyddau Ap Hefin.1946 [7]
Marwolaeth
golyguBu farw ar 14 Medi 1946 yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur, LLOYD , HENRY (‘ Ap Hefin ’; 1870 - 1946 ), bardd ac argraffydd
- ↑ Caneuon Tafarn Gwasg Y Lolfa 1968 ISBN 0950017817
- ↑ "Notitle - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1919-07-17. Cyrchwyd 2016-07-18.
- ↑ International Who's Who in Poetry 2005 Europa Publications
- ↑ "AP HEFIN - Y Dydd". William Hughes. 1896-03-06. Cyrchwyd 2016-07-18.
- ↑ "Advertising - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-08-20. Cyrchwyd 2016-07-18.
- ↑ Catalog LlGC[dolen farw]