John Evans (Eglwysbach)

gweinidog Wesleaidd

Roedd John Evans (28 Medi 184023 Hydref 1897) a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel John Evans, Eglwysbach yn weinidog Cristionogol Cymreig gydag enwad y Wesleaid.[1][2]

John Evans
Ganwyd28 Medi 1840 Edit this on Wikidata
Eglwys-bach Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1897 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcrefyddwr, ysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Evans yn y Tŷ Du, fferm yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy. Roedd yn fab hynaf Dafydd a Jane (née Davies) Evans, deiliaid y fferm. Ym 1846, symudodd y teulu o Dŷ Du i Goleugell, Eglwysbach ac fel John y Gly'gell roedd yn cael ei adnabod yn ei fro enedigol.[3]

Derbyniodd addysg elfennol yn Ysgol Genedlaethol y pentref. Ysgolion a oedd yn cael eu rhedeg gan Eglwys Loegr oedd yr Ysgolion Cenedlaethol ac roedd David Owen, offeiriad y plwyf, yn awyddus i Evans aros ymlaen yn yr ysgol fel disgybl athro [4] (sef athro dan hyfforddiant). I wneud hynny byddai'n rhaid iddo fod yn aelod o Eglwys Loegr. Roedd Evans eisoes wedi ymuno a'r Wesleaid, a heb awydd troi cefn ar ei enwad, ymadawodd a'r ysgol gan ddod yn fugail ar y fferm deuluol.

Gyrfa golygu

Yn un ar bymtheg oed, pregethodd am y tro cyntaf i gynulleidfa o wyth yng Nghapel Garmon, ac yn fuan daeth yn bregethwr adnabyddus a phoblogaidd gyda'r cynulleidfaoedd lleol.[3] Yng Nghyfarfod Taleithiol Llanfyllin 21 Mehefin, 1860 fe'i derbyniwyd fel ymgeisydd ar gyfer y weinidogaeth ond oherwydd iechyd bregus nid oedd modd iddo fynd ymlaen i goleg diwinyddol.[5]

Dechreuodd ei yrfa yn Nhregele, Cylchdaith Amlwch fel gwas cylchdaith am flwyddyn ac yna fel gweinidog ar brawf. Ym 1863 ymadawodd Môn am yr Wyddgrug, lle cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth ym 1865. Y drefn i weinidogion Wesleaidd ar y pryd oedd symud cylchdaith (ardal gweinidogaeth) pob tair blynedd. Bu Evans yn gwasanaethu yng Nghylchdeithiau Lerpwl (1866 - 1869); Tregarth (1869 - 1872); Chester Street Lerpwl (1872 -1875); Shaw Street Lerpwl (1875 - 1878) Llundain (1878-1886); Bangor (1886-1889); Croesoswallt (1889 - 1890); a chylchdaith Saesneg Islington, Llundain (1890 - 1893). Bu hefyd ar deithiau pregethu hir yn yr Unol Daleithiau ym 1873 a 1887.

Ym 1884 etholwyd ef yn un o Gant Cyfreithiol y Gynhadledd Wesleaidd, sef cant o weinidogion blaenllaw oedd yn gyfrifol am lywodraethu'r enwad.

Ym 1895 daeth yn gadeirydd talaith De Cymru gyda chyfrifoldeb am arolygu holl gylchdeithiau'r ardal. Swydd debyg, o ran ei gyfrifoldeb, i un esgob yn Eglwys Loegr.

Yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd, trefnodd genhadaeth flaengar ym Morgannwg, a'i phencadlys ym Mhontypridd. Profodd y genhadaeth i fod mor lwyddiannus, gwnaed trefniadau i'w alluogi i'w gyfnewid ar gyfer swydd efengylwr peripatetig Cymru gyfan, ond roedd straen cenhadaeth Morgannwg yn rhy fawr a bu farw cyn gallu ymgymryd â'r swydd newydd.

Bu peth beirniadaeth o'i waith ym Mhontypridd. Anfonwyd cwyn i Ysgrifennydd Cynhadledd yr Eglwys Wesleaidd am y ffordd y mae Cenhadaeth Wesleaidd Cymru, sy'n cael ei newid yn raddol i'r Saesneg, yn effeithio'n ddifrifol ar ein diddordeb ni. Cyn hyn roedd Evans wedi gweld argoelion fod pobl ieuainc yn prysur golli'r heniaith, ond pwysicach iddo na chadw'r Gymraeg oedd cadw eneidiau hyd yn oed pe bai hynny'n golygu troi i efengylu yn y Saesneg.[6]

Roedd yn bregethwr hynod boblogaidd gyda channoedd yn tyrru i bob oedfa lle fu'n pregethu, yn aml gyda mwy o wrandawyr tu allan i'r capel nag oedd tu mewn.[1]

Awdur golygu

Yn ogystal â phregethu bu Evans hefyd yn awdur nifer o lyfrau ar bynciau crefydd. Tra'n weinidog yn Nhregarth cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, sef "Ymchwiliad Roger Edwards i Ryddid yr Ewyllys" cyfieithiad o adolygiad Henry P Tappan A Review of Edwards's "Inquiry Into the Freedom of the Will." Cyhoeddodd bywgraffiad Cymraeg am sylfaenydd ei enwad John Wesley ei fywyd a'i Lafur a phedair cyfrol o gyfieithiadau o bregethau John Wesley. Cyhoeddwyd ei ddarlith daleithiol, Methiant Gwyddoniaeth Ddiweddar i gyfrif am ddechreuad pethau. Ym 1898, blwyddyn wedi ei farw cyhoeddwyd Pregethau a darlithiau John Evans.[3]

Bu'n olygydd cylchgrawn "Y Winllan" (1878–9), ei waith ef oedd y rhan fwyaf o'r cylchgrawn "Y Fwyell" (1894-97), cylchgrawn Cenhadaeth Pontypridd a bu'n cyfrannu erthyglau i'r Eurgrawn.

Teulu golygu

Priododd Evans ddwywaith: yn gyntaf, ym 1873, i Charlotte (bu farw 1884),[7] merch John Pritchard o Lerpwl bu iddynt dwy ferch. Ym 1886 priododd ei ail wraig Clara Kate, merch James Richardson o Duke Street, Manchester Square, Llundain,[8] bu iddynt bedwar plentyn.

Marwolaeth golygu

Pregethodd Evans ei bregeth olaf yn y Tabernacl, Capel Annibynwyr Treharris, ar nos Iau, 20 Hydref, 1897.[9] Aeth i Lerpwl y Sadwrn canlynol ar gyfer cyfarfod pregethu Eglwys Shaw Street, ond bu farw'r noson honno o drawiad y galon yn 57 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Anfield, Lerpwl.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Davies, E. T., (1953). EVANS, JOHN (‘Eglwys Bach’; 1840 - 1897), gweinidog Wesleaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 19 Ion 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-JOH-1840
  2. Thomas, D. (2004, September 23). Evans, John [known as John Evans Eglwysbach] (1840–1897), Wesleyan Methodist minister. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 18 Jan. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-8971.
  3. 3.0 3.1 3.2 Bathafarn Cyf 30 1989/90 J Alun Roberts John Evans, Eglwysbach adalwyd 19 Ionawr 2019
  4. "Y PARCH JOHN EVANS EGLWYSBACH - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1898-02-16. Cyrchwyd 2019-01-19.
  5. "YPARCH JOHN EVANS EGLWYSBACH WEDI MARW - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1897-10-29. Cyrchwyd 2019-01-19.[dolen marw]
  6. Cristion Rhif 60, Medi/Hydref 1993 Eric Edwards John Evans Eglwysbach adalwyd 19 Ionawr 2019
  7. "LIVERPOOL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1884-02-02. Cyrchwyd 2019-01-19.
  8. "PRIODAS Y PARCH JOHN EVANS - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1886-07-14. Cyrchwyd 2019-01-19.
  9. "Y DIWEDDAR BARCH JOHN EVANS EGLWYSBACH - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1897-11-03. Cyrchwyd 2019-01-19.
  10. "JOHN EVANS EGLWYSBACH - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1897-10-27. Cyrchwyd 2019-01-19.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: