Siloa, Aberdâr
Siloa, Aberdâr yw capel Annibynnol mwyaf Aberdâr. Cynhelir gwasanaethau y capel yn y Gymraeg. Wedi'i sefydlu ym 1844, Siloa yw un o'r ychydig gapeli Cymraeg yn yr ardal sy'n parhau ar agor heddiw. Roedd Siloa yn nodedig am wasanaeth hir ei weinidogion. Rhwng 1843 a 1964 dim ond tri fu'n gweinidogaethu yno: David Price (1843-78), D. Silyn Evans (1880-1930) ac R. Ifor Parry (1933-64) .
Math | eglwys, capel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberdâr |
Sir | Aberdâr, Dwyrain Aberdâr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 130 metr |
Cyfesurynnau | 51.713034°N 3.448852°W |
Cod post | CF44 7HU |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Sefydliad
golyguYm 1841, dechreuodd Thomas Rees, gweinidog Ebeneser, Trecynon gynnal ysgol Sul yn yr hyn oedd yna bentref cyfagos i Aberdâr ar y pryd. Dechreuodd bregethu yn Saesneg yno hefyd, gyda'r bwriad o sefydlu achos Saesneg.[1] Pan ymadawodd Rees i ddod yn weinidog Siloah, Llanelli, yn gynnar ym 1842, daeth ei gynlluniau i ben ond bu i grŵp bach o aelodau Ebeneser barhau i gynnal cyfarfodydd, ond yn yr iaith Gymraeg.[2] Y ffigwr blaenllaw oedd David Price, a oedd wedi symud i Aberdâr yn ddiweddar o Fro Nedd.[2] Ar gynnig Price ddechreuwyd cynnal oedfaon yn ystafell hir Tafarn y Boot, Aberdâr.[3] Ym 1843 gwnaed cais gan bedwar ar ddeg o aelod Ebeneser, Trecynon, yr eglwys annibynnol hynaf yn yr ardal, i gael eu rhyddhau i sefydlu eglwys newydd. Er gwaethaf amheuon rhai o'r aelodau hŷn, cymeradwywyd y cais a chafodd yr eglwys newydd ei enwi'n Siloa, er anrhydedd i eglwys newydd y cyn gweinidog yn Llanelli.[2] Ymhlith yr aelodau gwreiddiol oedd David Price, a chwaraeodd rôl weithredol ac uniongyrchol yn y gwaith o adeiladu'r adeilad gwreiddiol.[4] Roedd yr adeilad cyntaf yn costio £600.[3]
Gofalaeth David Price, 1843-78
golyguYn fuan wedi cychwyn yr achos ordeiniwyd David Price fel gweinidog Siloa, a bu'n gwasanaethu fel trysorydd yr achos am sawl blwyddyn hefyd.[4] Bu David Price gynt yn gweithio fel glowr. Yn ystod Streic Aberdâr 1857-8 fe ymddangosodd ar lwyfan ochr yn ochr â Henry Austin Bruce, gan gyfieithu ei sylwadau i'r Gymraeg a gan adrodd ei brofiadau ei hun fel glöwr ifanc ar streic flynyddoedd lawer cynt, mewn ymgais i berswadio'r glowyr i ddychwelyd i'r gwaith.[5] Roedd ei farn yn adlewyrchu agwedd llugoer arweinwyr anghydffurfiol tuag at undebaeth llafur ar y pryd.
Sefydlwyd Siloa ar yr adeg pan oedd Aberdâr yn datblygu'n gyflym fel anheddiad diwydiannol o ganlyniad i dwf yn y fasnach glo stêm. Yn ystod y weinidogaeth Price, roedd nifer fawr o fewnfudwyr i'r ardal, yn enwedig o siroedd gwledig Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Brycheiniog. Ysgogodd y twf yn y boblogaeth twf tebyg yn aelodaeth Siloa. Cododd i dros 600, gan ei wneud yr eglwys fwyaf niferus yn y dyffryn yn nhermau aelodaeth yn y 1860au. Yn ogystal â'r cynnydd aelodaeth o ganlyniad i ddatblygiad diwydiannol, cafodd yr aelodaeth hwb sylweddol o ganlyniad i ddiwygiad 1849 a chafodd Siloa ei hailadeiladu a'i ehangu ym 1855 am gost o £719.[3] Ar ôl diwygiad pellach ym 1859, roedd hwb arall i'r aelodaeth a chliriwyd y dyledion adeiladu erbyn 1860.[3]
Roedd Siloa yn chwarae rhan bwysig yn y cynnydd o radicaliaeth wleidyddol yn y 19g, sef mudiad a oedd yn gysylltiedig yn agos â diffyg cydymffurfiaeth. Ym 1848 cynhaliwyd cyfarfod nodedig yn Siloa, dan gadeiryddiaeth David Williams (Alaw Goch) i brotestio yn erbyn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r comisiynwyr oedd yn paratoi Adroddiadau Addysg 1847 gan ficer Aberdâr, John Griffith. Chwaraeodd Thomas Price, gweinidog cyfagos Calfaria, ran amlwg yn y cyfarfod hwn.[6]
Sefydlwyd sawl eglwys fel canghennau o Siloa drwy weinidogaeth Price, gan gynnwys Bethesda, Abernant, lle bu hefyd yn weinidog, a Bryn Seion, Cwmbach .[7] Roedd aelodau Siloa hefyd yn ymwneud â ffurfio eglwysi yn Aberpennar, Aberaman, Cwmaman a Chwmdâr.[2]
Ym 1866, cyflwynodd yr eglwys anerchiad i Price a rhodd o £170, a godwyd gan aelodau'r eglwys, i gydnabod ei wasanaeth.[4]
Bu farw Price ym 1878 yn 68 oed.[8]
Gofalaeth Silyn Evans, 1880–1930
golyguSilyn Evans fu olynydd David Price i weinidogaeth Siloa, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd bywgraffiad er cof amdano.
Roedd gan Siloa 661 o aelodau ym 1899 ac, yn sgil y Diwygiad 1904-1905,[9] roedd hyn wedi cynyddu i 761 erbyn 1907.
Cynhaliwyd adnewyddiadau helaeth ym 1890 ar gost o £1,100. Cynhaliwyd gwasanaethau Jiwbilî i ddathlu clirio'r dyledion a daeth yn sgil y gwaith hwn ym mis Ionawr 1905 gan gyd-daro â'r Diwygiad.[9]
Ym 1918, cafwyd dadl dros benderfyniad gan yr eglwys i atal cyfraniadau i Goleg Diwinyddol Bala-Bangor oherwydd agweddau heddychlon ei brifathro, Thomas Rees ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.[10][11]
Erbyn 1923 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 645.[12]
20 Ganrif
golyguRoedd yr aelodaeth yn Siloa yn 501 ym 1933 pan ddechreuodd R. Ifor Parry ei weinidogaeth. Erbyn 1954 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 363, gyda dirywiad pellach i 191, pan ymddiswyddodd Parry o'r weinidogaeth.[12]
O 1980 cynhaliwyd gwasanaethau yn y festri oherwydd dirywiad sylweddol yn yr aelodaeth.[3] Yn wahanol i eglwysi eraill yn y dyffryn, fodd bynnag, mae Siloa wedi parhau i weithredu fel eglwys Gymraeg. Fe ddaeth yr achos i ben yn 2021.
Llyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt. 17–18
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "SILOA - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1883-04-12. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 GENUKI Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru - Aberdâr adalwyd 11 Ionawr 2019
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Jones. Chapels of the Cynon Valley. tt. 106–8.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "PRESENTATION TO THE REV D PRICE SILOA ABERDARE - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1866-10-20. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ "The Great Strike of the Colliers - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1857-12-12. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ Jones, Ieuan Gwynedd (1964). "Dr. Thomas Price and the election of 1868 in Merthyr Tydfil : a study in nonconformist politics (Part One)". Welsh History Review 2 (2): 147–172. https://datasyllwr.llgc.org.uk/journals/pdf/AWJAJ003030.pdf.
- ↑ "Old Aberdare - The Aberdare Leader". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1913-10-25. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "MARWOLAETH Y PARCH D PRICE SILOA ABERDAR - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-12-13. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ 9.0 9.1 "SiloaAberdar - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1905-05-04. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "Llythyrau at y Gol - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1918-05-30. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "O BOB PARTH - The Aberdare Leader". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1918-06-01. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ 12.0 12.1 Rees, D. Ben (1975). Chapels in the Valley. Gwasg y Ffynnon. ISBN 0-902158-08-2.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan y Capel Archifwyd 2017-09-19 yn y Peiriant Wayback
- Tudalen Facebook y Capel