Corona (diod ysgafn)

cwmni diodydd o Gymru

Roedd Corona yn gwmni cynnyrch diodydd meddal Cymreig a sefydlwyd yn wreiddiol ym Mhorth y Rhondda gan gwmni Bryniau Cymru Thomas & Evans. Cafodd y cwmni ei gychwyn ym 1884 gan ddau groser, William Thomas a William Evans, pan welsant gyfle i farchnata diodydd meddal mewn ymateb i ddylanwad cynyddol y mudiad dirwest yng Nghymru[1]. O'r ffatri gyntaf yn y Porth, ehangodd y cwmni yn y pen draw i 87 safle ledled Ynysoedd Prydain. Cafodd brand Corona ei werthu i grŵp Beecham yn y 1950au ac wedyn i Gwmni Britvic cyn i'r brand ddod i ben ar ddiwedd y 1990au.[2]

Corona
Math
busnes
Sefydlwyd1884
Daeth i ben1990s
Pencadlysy Porth
Ffatri Corona, Porth y Rhondda

Cwmni Thomas & Evans golygu

Cafodd William Thomas ei eni ym 1851 ym Mathri. Daeth o deulu amaethyddol. Yn bedair ar ddeg oed gadawodd gartref i fwrw prentisiaeth fel cigydd yng Nghasnewydd[3]. Ym 1874 priododd Rowena Rowlands gan symud i bentref Aber-big lle sefydlodd siop cigydd. Roedd y fenter yn llwyddiant, ychwanegwyd warws ac ehangwyd y siop[3].

Ym 1882 daeth William Evans (ganed 1864) o Sir Benfro i weithio yn y siop. Bu hefyd yn byw gyda theulu Thomas am dair blynedd. Daeth y ddau ddyn yn bartneriaid busnes gan sefydlu cadwyn o siopau groser. Cafodd Evans benthyciad ariannol ar log o 50% gan Thomas er mwyn cael prynu ei ran ef o’r busnes. Ym 1884 ehangwyd y busnes i gynnwys cynhyrchu diodydd ysgafn. Mae’n bosib bod y ddau wedi cael y syniad o baratoi diodydd di alcohol ar gyfer y farchnad dirwest gan ŵr Americanaidd, a fu yn rhedeg busnes tebyg yn yr UD ac oedd wedi ffoi i’r Rhondda rhag ei ddyledwyr[2][4].

Bu Williams ac Evans yn ymweld â ffatrïoedd diodydd ysgafn eraill drwy Brydain er mwyn canfod sut i wneud diodydd swigod a chawsant gymorth gan y fferyllydd ac Aelod Seneddol Howell Idris a oedd yn berchen ar gwmni diodydd Idris yn Llundain[4].

Ffatri Bryniau Cymru golygu

 
Hysbyseb yn cynnwys englyn gan apHefin

Ar y cychwyn bu Thomas & Evans yn cynhyrchu eu pop yng nghefn eu siop. Ym 1890 agorodd eu ffatri fawr gyntaf ym Mhorth y Rhondda. Enwyd y ffatri yn Ffatri Dŵr Mwynol Bryniau Cymru (Welsh Hills Mineral Water Factory)[5]. Roedd y ffatri yn cynnwys y peiriannau diweddaraf ar gyfer y diwydiant gan gynnwys peiriannau oedd yn caniatáu i lanhau'r poteli gwydr yn ddiogel. Roedd gallu golchi poteli yn alluogi codi blaendal ar y poteli i’w ad-dalu wedi i’r cwsmer dychwelyd y poteli i’w hailddefnyddio.

Yn wreiddiol defnyddiodd y cwmni boteli Hiram Cod oedd a thopyn ceramig yn cael ei ddal i lawr gan golfachau metel. Yn wreiddiol bu’r cwmni yn gwneud cwrw sinsir, yn y gobaith y gallent ei werthu mewn tafarndai fel dewis amgen i ddiodydd alcohol. Roedd hwn yn fenter aflwyddiannus, a bu raid i’r cwmni dod o hyd i farchnad arall ar gyfer ei diodydd. Tarodd Evans ar y syniad o werthu o ddrws i ddrws gan ddefnyddio ceffylau a wagen, ac yn fuan daeth ei fenter yn llwyddiant, gyda'r cwmni yn dechrau cynhyrchu blasau eraill oedd at ddant plant, megis oren, dant y llew a chacamwci, mafon a lemonêd.

Er mwyn apelio at gapelwyr Cymreig dirwestol bu hysbysebu trwy’r Gymraeg yn hanfodol i lwyddiant y cwmni. Comisiynwyd y bardd ap Hefin i ysgrifennu sloganau a cherddi i hyrwyddo’r cynnyrch[6]. Defnyddiwyd slogan ap Hefin Corona yw Coron pob Croeso gan y cwmni hyd ddiwedd y 1950au, pan werthwyd Corona i gwmni o Loegr. Erbyn troad y ganrif roedd gan y cwmni dros 200 o werthwr diodydd o gefn wagen oedd yn cael eu tynnu gan geffylau ar draws Cymru.

Corona golygu

Yn y 1920au cynnar penderfynodd Evans i ail enwi ei ddiodydd meddal a ddewisodd yr enw Corona. Dyfeisiwyd logo yn dangos saith pen botel ar siâp bwa i gynrychioli coron (corona yw’r gair Lladin am goron). Bu’n frand hynod lwyddiannus gan ehangu i 82 canolfan dosbarthu a ffatrïoedd ar draws y deheubarth. Yn ei anterth roedd gan y cwmni pum ffatri, yn y Porth, Tredegar, Pengam, Maesteg a Phen-y-bont. Daeth wagenni a cheffylau Corona yn olygfa gyffredin a phoblogaidd ledled Cymru. Yn ystod y 1930au cafodd y ceffylau eu graddol disodli gan fflyd o gerbydau modur. Roedd y cerbydau, a oedd yn enwog am eu lifrai coch ac aur a logo Corona, yn cael eu gwasanaethu a’u hatgyweirio gan siop beirianyddol y cwmni ei hun a oedd ynghlwm wrth y ffatri yn y Porth. Erbyn 1934 roedd 5 cerbyd modyr yn y Porth a thair blynedd yn ddiweddarach roedd y nifer wedi codi i 200[7].

Ym 1934 bu farw William Evans ac aeth rôl cadeirydd a rheolwr gyfarwyddwr i’w frawd Frank, rôl y byddai'n cadw hyd 1940. O dan reolaeth Frank Evans fu’r cwmni yn parhau i dyfu ac erbyn diwedd y degawd roedd ffatrïoedd Cymru yn cynhyrchu 170 miliwn o boteli'r flwyddyn.

Gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, cafodd llawer o gerbydau modur Corona eu meddiannu gan y llywodraeth at ddefnydd rhyfel. O ganlyniad i’r meddiannu a dogni petrol aeth y cwmni yn ôl at y wagenni ceffyl am gyfnod y rhyfel.

Ar ddiwedd y rhyfel ym 1945, aeth y cwmni yn ôl i gynhyrchiant llawn ac ailgyflwynwyd y fflyd modur. Ym 1950, lansiodd y cwmni Tango, brand o ddiod oren sydd yn dal i gael ei gynhyrchu[8].

Diwedd y cwmni golygu

 
Picnic teuluol ger Dolgellau, tua 1965; efo dau fotel o Corona a gobaith am 6d o bres poced yn ôl am y poteli!!

Ym 1958 cafodd y cwmni ei brynu gan y Grŵp Beecham, oedd a’u pencadlys yn St Helen’s swydd Caerhirfryn. Er bod y cynhyrchiant yn parhau i gael ei ganoli yn Sir Forgannwg, dechreuodd depos i ymddangos ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. O dan y rheolaeth newydd cyrhaeddodd Corona gynulleidfa newydd ac yn ystod y 1960au cafodd ei hyrwyddo gan gyfres o hysbysebion teledu yn serennu'r canwr a'r digrifwr Seisnig Dave King. Gyda'r cynnydd yn nifer yr archfarchnadoedd yn y 1960au hwyr a'r 1970au ac arferion siopa'r cyhoedd yn newid cafodd y gwerthu o ddrws i ddrws ei gollwng.

Yn ystod y 1970au bu un o ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf cofiadwy Corona gan ddefnyddio slogan oedd yn awgrymu bod pob swigen wedi pasio prawf FIZZical! (mae’r hysbyseb i’w gweld ar safle YouTube[9]).

Ym 1987 gwerthwyd y cwmni i Britvic Soft Drinks. Caeodd Britvic y ffatrïoedd Cymreig gan drosglwyddo’r cynhyrchu i Bolton yn Lloegr.[4][10]

Yn 2000 cafodd hen ffatri Corona y Porth ei drawsnewid i mewn i stiwdio recordio cerddoriaeth a alwyd Y Ffatri Bop, gan chwarae ar fwys y ddiod pop a pop yr arddull o gerddoriaeth cyfoes[10].

Cyfeiriadau golygu

  1. Western Morning News 28 Ebrill 1934 tud 8 Fruit Drinks
  2. 2.0 2.1 Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 171. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  3. 3.0 3.1 Bacchetta, Rudd (2000) p.63
  4. 4.0 4.1 4.2 "Man who put the fizz into the South Wales Valleys". walesonline.co.uk. 11 Hydref 2007. Cyrchwyd 7 Ebrill 2017.
  5. Welsh Hills Works -Cofline
  6. "Advertising - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-07-02. Cyrchwyd 2017-04-06.
  7. Carradice, Phil (26 Mehefin 2012). "The story of Corona pop". bbc.co.uk. Cyrchwyd 11 Ionawr 2014.
  8. Pearson, David (2013). The 20 Ps of Marketing: A Complete Guide to Marketing Strategy. Kogan Page Publishers. t. 81. ISBN 9780749471071.
  9. Hysbyseb Corona ar YouTube
  10. 10.0 10.1 Roberts, Andy (8 Gorffennaf 2011). "Rhondda Pop Factory taken over by Valleys Kids charity". bbc.co.uk. Cyrchwyd 07 Ebrill 2017. Check date values in: |accessdate= (help)