Edmund Meyricke
Roedd Edmund Meyricke (bu farw 1666) yn fân uchelwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirion ym 1660[1]
Edmund Meyricke | |
---|---|
Bu farw | 1666 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the April 1660 Parliament |
Bywyd personol
golyguDoes dim cofnod o enedigaeth Edmund Meyricke ond roedd yn fab i Peter Meyricke o'r Ucheldre, Gwyddelwern a Lowri merch Lewis Anwyl, Y Parc, Llanfrothen.
Bu'n briod ddwywaith: ei wraig gyntaf oedd Grace merch ac etifedd Cadwaladr ap Watkin, Garthllwyd, Llandderfel. Bu hi farw ym mis Awst 1629 a bu iddynt ddau fab a thair merch. Erbyn 1636 roedd wedi ail briodi a Janet, merch John Vaughan, Cefnbodig, Llanycil, a gweddw Thomas Oliver y Bala; bu iddynt un mab.
Roedd Edmund Meyricke yn perthyn i is-gangen o deulu mwy pwerus Meyrick, Bodorgan a ddaeth i fri yn ystod teyrnasiad y Tuduriaid[2].
Gyrfa
golyguEtifeddodd yr Ucheldre oddi wrth ei dad ym 1630.
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Feirionnydd o 1630 i 1650. Bu'n ddirprwy siryf Meirion ym 1660 a Siryf yn nhymor 1632-1633[3]. Bu'n gomisiynydd trefn rhwng 1642 a 1643 ac yn gomisiynydd asesiad rhwng 1647 a 1649, eto rhwng 1652 a 1657 ac eto byth rhwng 1660 a’i farwolaeth. Gwasanaethodd hefyd fel is-Raglaw Meirionnydd rhwng 1660 a’i farwolaeth.
Gyrfa wleidyddol
golyguCeisiodd Meyricke osgoi ymrwymiad i’r naill ochr na’r llall yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Cafodd ei ethol i Senedd y Confensiwn ym 1660, sef Senedd a alwyd ar ddiwedd cyfnod y Gymanwlad ond cyn ail adfer y goron i Siarl II. Mewn cyfnod pan oedd etholiad yn cael ei ddefnyddio i weld pa deulu oedd a’r dylanwad a’r grym fwyaf yn y Sir, yn hytrach na dewis yr unigolyn gorau i gynrychioli’r etholaeth, anghyffredin yn yr oes honno oedd ethol un o fân deulu. Mae’n debyg mai’r ffaith iddo beidio ag ymrwymo yn y rhyfel a sicrhaodd iddo gael ei ethol, yn y gobaith gan y naill ochr a’r llall na fyddai’n cefnogi mesurau rhy llym, beth bynnag oedd y setliad cyfansoddiadol. Ond ni fu yn aelod gweithgar, gan wasanaethu ar ddim ond saith pwyllgor di-nod. Er hynny fe fu yn gefnogol i blaid y goron gan arwyddo’r ddeiseb i ddwyn cyfiawnder ar John Jones, Maes y Garnedd a’r brenin leiddiaid eraill. Ni cheisiodd ei ail ethol yn etholiad 1661[1].
Marwolaeth
golyguDoes dim sicrwydd o union ddyddiad ei farwolaeth ond fe’i claddwyd yng Ngwyddelwern ar 9 Tachwedd 1666.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: neb |
Aelod Seneddol Meirionnydd 1660 – 1661 |
Olynydd: Henry Wynn |