Herriko taberna
Herriko taberna (Cymraeg: "tafarn y werin") yw'r enw Basgeg ar gyfer tafarnau'r mudiad abertzale, sef cenedlaetholwyr adain chwith Gwlad y Basg. Fe'u gwelir ym mhob tref yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Nodweddion y tafarnau yw eu baneri cenedlaetholgar, presenoldeb siaradwyr y Fasgeg, prisiau cymharol isel y diodydd a'r bwyd, ac arwyddion o gydgefnogaeth â charcharion cenedlaetholgar Basgaidd.
Erlyniad y tafarnau
golyguYm mis Ebrill 2002 gorchmynodd y barnwr Baltasar Garzón o'r Audiencia Nacional atafaelu 55 o'r tafarnau er mwyn codi'r € 24 miliwn y dylai'r blaid Batasuna dalu am y colledion economaidd achoswyd gan ymosodiadau kale borroka, gan honni mai y blaid abertzale oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau[1] a chyhuddo'r tafarnau o ariannu'r blaid. Gosodwyd y tafarnau dan reolaeth yr awdurdodau.[2]
Ar 23 Hydref 2006 yn neuadd 61 Uwch Dribiwnlys Sbaen, gorchmynnodd y llys i'r awdurdodau fynd i mewn i'r tafarnau a rhestru eu henillion.[3][4]. Rhestrodd swyddogion y Guardia Civil a'r Ertzaintza eiddo rhyw 120 o dafarnau herriko taberna.[5]
Cafodd y rhestru ei feirniadu gan bob un o'r pleidiau abertzale, gan gynnwys y blaid Aralar, a chynhaliwyd gwrthdystiadau ar draws Gwlad y Basg.[6]
Ar 12 Rhagfyr 2007, datganodd 16 barnwr neuadd 61 yr Uwch Dribiwnlys nad oeddent yn gallu profi bod y tafarnau'n perthyn i Batasuna.[1][2][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 «El Tribunal Supremo español rechaza el embargo de las "herriko tabernas"» Archifwyd 2007-12-14 yn y Peiriant Wayback, yn Gara: 12 Rhagfyr 2007.
- ↑ 2.0 2.1 «El Tribunal Supremo rechaza "en este momento" el cierre de las 'herriko tabernas'» Archifwyd 2007-12-13 yn y Peiriant Wayback, yn Público: 12 Rhagfyr 2007.
- ↑ «El Supremo ordena entrar en las herriko tabernas para inventariar los locales y enseres de Batasuna»[dolen farw], yn El Faro de Vigo: 23 Hydref 2006.
- ↑ 4.0 4.1 «El Supremo rechaza por 'improcedente' el embargo de las 'herriko tabernas'», yn El Mundo: 12 Rhagfyr 2007.
- ↑ «El Supremo pospone, sin fecha, la decisión sobre las "herrikos"»[dolen farw], yn Gara: 11 Gorffennaf 2007
- ↑ «La Guardia Civil registra 15 'herriko tabernas'», yn 20 Minutos: 24 Hydref 2007.