Abertzale
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (Mai 2012) |
Defnyddir y gair Basgeg Abertzale (Cymraeg: "gwladgarwr")[1] i ddisgrifio cenedlaetholwyr Basgaidd, ac yn bennaf cenedlaetholwyr adain chwith Gwlad y Basg. Daeth y term o gyfuniad o aberri ("mamwlad", newyddair a greuwyd gan Sabino Arana) a'r ôlddodiad -(t)zale ("-garwr").
Mae'r sefydliad sy'n gyfrifol am arolygu geiriadur swyddogol y Sbaeneg, y Real Academia Española, wedi cydnabod yn swyddogol y gair addasedig aberzale (yn hytrach nag abertzale) fel gair Sbaeneg am genedlaetholwr Basgaidd adain chwith, er bod y ffurf wreiddiol abertzale yn cael ei ddefnyddio'n amlach hyd yn oed yn Sbaeneg.
Mae sawl sefydliad wedi defnyddio'r gair yn eu henwau Basgeg swyddogol:
- Abertzaleen Batasuna ("Undod y Gwladgarwyr"): plaid wleidyddol yn Iparralde.
- Emakume Abertzale Batza ("Sefydliad Merched Gwladgarwol"), adran y Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg ar gyfer merched a gafodd ei anghyfreithloni yn Rhyfel Gartref Sbaen.
- Euskal Abertzaletasunaren Museoa ("Amgueddfa Cenedlaetholdeb Basgaidd").
- Ezker Mugimendu Abertzalea ("Mudiad Gwladgarwyr y Chwith"): Plaid wleidyddol yn Iparra.
- Aralar, Plaid adain chwith a ffurfwyd gan rhai cyn-aelodu o Batasuna sy'n gwrthwynebu'r defnydd o drais i gyrraedd dibenion gwleidyddol.
- Gazte Abertzaleak ("Gladgarwyr Ifanc"): grŵp ieuenctid y blaid Eusko Alkartasuna
- Koordinadora Abertzale Sozialista neu KAS ("Cyngor Cyd-drefnol Gwladgarwyr Sosialaidd").
- Mae'r enwau "Ezker Abertzalea" ("Y Chwith Gwladgarwol"), "Nafarroako Sozialista Abertzaleak" ("Gwladgarwyr Sosialaidd Navarra") ac "Araba, Bizkai eta Gipuzkoako Sozialista Abertzaleak" ("Gwladgarwyr Sosialaidd Araba, Bizkaia a Gipuzkoa") wedi cael eu defnyddio gan grwpiau seneddol amrywiol yn perthyn i Herri Batasuna ac Euskal Herritarrok.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ the Spanish-Basque dictionary Zehazki, by the Basque Language Academy member Ibon Sarasola Geiriadur ar-lein Prifysgol Pais Vasco; adalwyd 3/06/2012]