Hiclys Bantry

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Hiclys Bantry
Leiocolea bantriensis

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Mesoptychiaceae
Genws: Leiocolea
Rhywogaeth: L. bantriensis
Enw deuenwol
Leiocolea bantriensis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys Bantry (enw gwyddonol: Leiocolea bantriensis; enw Saesneg: Bantry notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Roedd Ellen Hutchins (1785–1815) yn fotanegydd, a hanai o Ballylickey, Swydd Corc, Iwerddon, lle roedd gan ei theulu ystâd fach ym mhen Bae Bantry. Canfuwyd y rhywogaeth hon ganddi, gan ei gofnodi, ac fe'i henwodd ar ôl Bae Bantry.

Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban ac yng ngogledd Lloegr.

Mae gan L. bantriensis goesyn gwyrdd golau neu frown, sydd ychydig yn dryloyw, 2.5–4 mm o led; mae'n aml yn gorwedd yn wastad ar glustogau o fwsoglau pleurocarpous. Mae ganddyn nhw ddail wedi'u pwyntio yn eithaf pigfain sy'n 2–2.5 mm o led a hyd.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Hiclys Bantry gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.