Ekaterinburg
Un o brif ddinasoedd gorllewin Siberia (Rwsia) a chanolfan weinyddol Oblast Sverdlovsk a'r dalaith ffederal Ural yw Ekaterinburg (Rwsieg Екатеринбу́рг). Lleolir y ddinas i'r dwyrain i'r mynyddoedd Ural, ar lannau Afon Iset. Hon yw'r pedwaredd ddinas o ran maint poblogaeth yn Rwsia, a chanddi boblogaeth o 1,336,500 (amcangyfrif Ionawr 2006). Adnabyddid y ddinas fel Sverdlovsk rhwng 1924 a 1991, ar ôl yr arweinydd Bolsheficaidd Yakov Sverdlov.
![]() | |
![]() | |
Math | y ddinas fwyaf, tref neu ddinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Catrin I, tsarina Rwsia ![]() |
Poblogaeth | 1,468,833 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Alexey Orlov ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yekaterinburg Municipality ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 468 km² ![]() |
Uwch y môr | 237 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Iset ![]() |
Yn ffinio gyda | Pervouralsk Urban Okrug, Degtyarsk Urban Okrug, Sredneuralsk Urban Okrug, Borough Upper Pyshma, Beryozovsky, Beryozovsky Urban Okrug, Beloyarsky District, Sysertsky District, Polevskoy Urban Okrug, Revda Urban Okrug ![]() |
Cyfesurynnau | 56.8356°N 60.6128°E ![]() |
Cod post | 620000–620999 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Yekaterinburg City Duma ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexey Orlov ![]() |
![]() | |

Atyniad enwocaf y ddinas yw'r Eglwys ar y Gwaed (Eglwys yr Holl Seintiau), eglwys a adeiladwyd yn 2003 ar y man lle saethwyd tsar Rwsia olaf a'i deulu yn farw ym 1918. Y person enwocaf gyda chysylltiadau â'r ddinas oedd Boris Yeltsin, cyn-arlywydd Rwsia, oedd yn hanu o'r ardal ac a fu'n fyfyriwr mewn athrofa yno.
Lleolir nifer o gonsyliaethau tramor yn Ekaterinburg, rhai i'r Almaen, Fwlgaria, Prydain, Cirgistan, y Weriniaeth Tsiec, Tsieina a'r Unol Daleithiau.
Cludiant
golyguMae Ekaterinburg yn sefyll ar Ffordd Ewropeaidd yr E22, sy'n ei chysylltu ag Ishim i'r dwyrain a Perm Moscow, Riga, Malmö, Hamburg, Amsterdam, Leeds a Chaergybi draw yng Nghymru i'r gorllewin.
Gefeilldrefi
golygu
|