Honoré de Balzac

nofelydd a dramodydd Ffrengig (1799-1850)

Llenor o Ffrainc oedd Honoré de Balzac (20 Mai 179918 Awst 1850) a arbenigai yn y ddrama a'r nofel. Ei ' fagnwm opws' oedd nofel-ddilyniant o storiau byrion a nofelau a gasglwyd ynghyd dan y teitl La Comédie humaine, sy'n cynnig panorama o fywyd Ffrengig yn dilyn marw Napoleon Bonaparte yn 1815.

Honoré de Balzac
FfugenwHorace de Saint-Aubin, Lord R’Hoone, Viellerglé, Saint Aubin Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Mai 1799 Edit this on Wikidata
Tours Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 1850 Edit this on Wikidata
o madredd Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
AddysgBagloriaeth yn y Gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, beirniad llenyddol, llenor, rhyddieithwr, newyddiadurwr, beirniad celf, awdur ysgrifau, dramodydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Swyddpresident of the Société des gens de lettres Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPère Goriot, The human comedy, Illusions perdues, Eugénie Grandet, Splendeurs et misères des courtisanes, La Peau de chagrin, Les Chouans Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWalter Scott, Georges-Louis Leclerc, Comte de Buffon Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
TadBernard-François Balzac Edit this on Wikidata
MamAnne-Charlotte-Laure Sallambier Edit this on Wikidata
PriodEwelina Hańska Edit this on Wikidata
PartnerOlympe Pélissier, Maria du Fresnay, Caroline Marbouty, Laure de Berny, Henriette de Maillé de La Tour-Landry Edit this on Wikidata
PlantMarie-Caroline Du Fresnay Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Q130762055 Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Balzac yn hoff o'r manylyn lleiaf a disgrifiadau cignoeth o gymdeithas, gelwir ef yn un o bobl blaenllaw'r mudiad 'Realaeth' o fewn llenyddiaeth Ewropeaidd. Mae sawl ochr i'w gymeriadau, haenau o gymhlethdodau - sy'n aml yn bobl ag iddynt foesau amwys, anghonfensiynol. Dylanwadodd ar lawer, gan gynnwys y nofelwyr: Marcel Proust, Émile Zola, Charles Dickens, Anthony Trollope, Edgar Allan Poe, Eça de Queirós, Fyodor Dostoyevsky, Oscar Wilde, Gustave Flaubert, Benito Pérez Galdós, Marie Corelli, Henry James, William Faulkner, Jack Kerouac, a Italo Calvino, a'r athronwyr Friedrich Engels a Karl Marx. Trowyd llawer o'i waith yn ffilmiau ac fe'i cyfieithwyd i nifer o ieithoedd.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Nofelau

golygu

Dramâu

golygu
  • Cromwell (1820)
  • Ressources de Quinola (1842)
  • Paméla Giraud (1843)
  • La Marâtre (1848)
  • Mercadet ou le Faiseur (1848)

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.