Agor y brif ddewislen

Howell Elvet Lewis (Elfed)

gweinidog (A); emynydd, bardd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Howell Elvet Lewis)

Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (14 Ebrill 186010 Rhagfyr 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Fe'i ganed yn y Gangell, Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn weinidog ac yn Archdderwydd rhwng 1924 a 1928. Mae ei waith barddonol yn nodweddiadol o gynnyrch y Bardd Newydd.

Howell Elvet Lewis
Ganwyd 14 Ebrill 1860 Edit this on Wikidata
Blaen-y-coed Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Ionawr 1953 Edit this on Wikidata (92 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Elfed.

BywgraffiadGolygu

Ef oedd yr hynaf o ddeg o blant. Bu ei frawd Tom yn Athro Hebraeg ym Manceinion ac yn brifathro Coleg Diwynyddol Aberhonddu am 39 mlynedd. Roedd brawd arall, Dan, yn newyddiadurwr yn Lerpwl ac wedyn yn olygydd y Glamorgan Free Press ym Mhontypridd. Efallai mai'r enwocaf y tu allan i Gymru oedd y pensaer a pheirianwr sifil Lewis Holme Lewis. Teilwr oedd John Lewis tadcu Lefed Lewys, ac yr unig un o'r brodyr a chwiorydd a fagodd blant yn Gymraeg.[1]

Gwaith llenyddolGolygu

Ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus Elfed mae 'Gwyn ap Nudd' (telyneg telyneg am frenin y Tylwyth Teg) a'r 'Ddau Frawd'. Ar y cyfan ni phrisir ei farddoniaeth lawer heddiw oherwydd tuedd y bardd at sentimentaliaeth ramantaidd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891, a'r Gadair yn 1894.

Ysgrifennodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg. Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.

Llyfryddiaeth ddetholGolygu

Gwaith ElfedGolygu

  • My Christ and other poems (1891). Cerddi.
  • Planu Coed (1894). Ysgrifau.
  • Caniadau (2 gyfrol: 1895, 1901). Cerddi.
  • Songs of Assisi (1938). Cerddi.
  • Gyda'r Hwyr (1945). Ysgrifau.

CofiantGolygu

Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Emlyn G. Jenkins yn 1957.

CyfeiriadauGolygu

  1. Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000