Blaen-y-coed

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Blaen-y-coed.[1] Fe'i lleolir ar ffordd wledig tua 9 milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin a thua 4 milltir i'r gorllewin o bentref Cynwyl Elfed, yng ngogledd y sir.

Blaen-y-coed
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9158°N 4.4028°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN348271 Edit this on Wikidata
Cod postSA33 Edit this on Wikidata
Map

Gwybodaeth am y pentref golygu

Mae'r pentref yn cynnwys 17 tŷ, Capel, blwch post a chwpwl o ffermydd cyfagos. Mae hefyd yn gartref i safle gwersylla a charafanio Woodland Rise.[2]

Enwogion golygu

 
Capel a festri Blaen-y-coed a leolir yn y pentref

Ganed y bardd Howell Elvet Lewis (Elfed) tua 2 filltir o'r pentref yn 1860. Roedd yn byw yn ei phlentyndod mewn bwthyn o'r enw 'Y Gangell', sydd nawr yn amgueddfa o'i fywyd. Roedd yn pregethu yn yr ardal a chapel Blaen-y-coed oedd capel y teulu. Pregrethwyd ei pregeth gyntaf yng nghapel Pen-y-bont. Roedd Elfed yn derbyn ei addysg gynnar yn festri'r Capel a cyn hynny yn derbyn ei addysg mewn llofft stabl un o'r ffermydd.[3]

Mae gan y capel ffenestr coffa oedd yn rhodd o Gapel Gymraeg Annibynwyr Kings Cross (Llundain) a gaeodd i lawr. Mae Elfed wedi cael ei gladdu yn fynwent y capel.[4][5]


Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Sir Gâr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-24. Cyrchwyd 2010-01-19.
  2. "Gwefan Woodland rise".
  3. Morgan, Vona (Merch Elfed) (1984). ELFED 1860-1953.
  4. WalesOnline (2008-11-13). "Cadw Elfed yn fyw yn y cof". walesonline. Cyrchwyd 2020-04-02.
  5. "Cartre newydd i ffenest Elfed" (yn Saesneg). 2008-02-16. Cyrchwyd 2020-04-02.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato