Howell Evans
Roedd Howell Evans (3 Mawrth 1928 – 9 Medi 2014) yn actor, digrifwr, a chanwr o Gymrubu'n gweithio yn helaeth ym myd teledu a'r theatr mewn gyrfa a pharodd am dros 60 mlynedd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel "Dad" yn y rhaglen gomedi Stella ar sianel deledu Sky1.[1]
Howell Evans | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1928 Maesteg |
Bu farw | 9 Medi 2014 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Priod | Patricia Kane |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni ym Maesteg, a dechreuodd perfformio fel dynwaredwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, ymunodd â'r Carroll Levis Discovery Show, a ffurfiodd deuawd comedi gyda'i wraig, Pat Kane. Bu Evans a Kane yn gweithio gyda'i gilydd am nifer o flynyddoedd mewn sioeau adloniant y neuadd cerddoriaeth, a phantomeim. Ymddangosodd mewn nifer o sioeau teledu gan gynnwys Coronation Street, Casualty, Open all Hours, a The Story of Tracy Beaker a'r gyfres comedi Cymreig Satellite City. Bu hefyd yn actio mewn ffilmiau megis Mr Nice a The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain.
Bu farw yn Crowthorne, Berkshire ar 9 Medi 2014 yn 86 mlwydd oed.[2]
Gyrfa
golyguTheatr
golyguRoedd gyrfa theatr Evans yn cynnwys gweithio gyda phrif gwmnïau Cymru gan gynnwys Theatre Wales (Translations gan Brian Friel, 1982) a Theatr Clwyd (fel Malvolio yn Twelfth Night, 1984) a Theatr y Sherman, Caerdydd (Ed yn Entertaining Mr Sloane, 1988).
Yn Theatr Northcott, Exeter, chwaraeodd rhannau Uncle Vanya (1986) a Willy Loman yn The Death Of A Salesman (1987). Roedd ymddangosiadau eraill ar y llwyfan yn nrama Kander ac Ebb 70 Girls 70 gyda Dora Bryan (Theatre Royal Caerfaddon, 1992), School for Scandal (Salisbury Playhouse, 1996) a drama iasoer Patrick Hamilton Rope (Lyceum Theatre, Crewe, 1997)[3].
Teledu
golyguYmddangosodd Evans mewn nifer fawr o raglenni teledu dros gyfnod o 60 mlynedd, gan amlaf yn chware ran y Cymro ystrydebol[4], gan gynnwys (anghyflawn):
Blwyddyn | Teitl | Cymeriad | Cyhoeddwr | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
2012–15 | Stella | Daddy | Sky 1 | Cyfres 1, 2, 3 a 4 |
2013 | Holby City | Marc Greene | BBC | |
2012 | The Life and Adventures of Nick Nickleby | Mr. Bolder | BBC | |
2012 | Sadie J | Mr. Snodgrass | CBBC | |
2009 | Benidorm | Skipper | ITV | |
2007 | Doctors | Ernie Spencer | BBC | |
2006 | Young Dracula | Atilla | BBC Cymru | |
2005 | Casualty | Jeff | BBC | Thrown Out |
2005 | Little Britain | Mr. Jenkins | BBC | Pennod #2.6 (2004) |
2003–2004 | The Story of Tracy Beaker | Grandpa Jack | CBBC | Cyfres 3 a 4 |
2003 | My Family | Mr. Rhys | BBC | They Shoot Harpers, Don't They? |
2000 | Coronation Street | Tegwin Thomas | ITV | |
1997-1998 | Aquila | Mr. Evans | BBC | |
1997 | The Bill | Eric Harkness | ITV | Pennod Auld Lang Syne (1997) |
1997 | Satellite City | Alf | BBC Cymru | Pennod With a Face Like Mine |
1995 | Wales Playhouse | Peg Evans | BBC Cymru | Pennod Princess of Wales (1995) |
1994 | The Sherman Plays | HTV Cymru | Pennod The Sisters Three | |
1994 | The Lifeboat | Doc Lewis | Bloom Street Productions | Pennod Homecomings |
1989–1991 | We Are Seven | William Price | ITV | |
1993 | You, Me and It | Dr. Burgess | BBC | 2 bennod |
1992 | The Old Devils | Garth Pumphrey | BBC | 3 Pennod |
1991 | Old Scores | Lloyd Thomas | South Pacific Pictures Seland Newydd a HTV Cymru | |
1989 | The Play on One | Sid | BBC | Pennod Unexplained Laughter |
1989 | Screen Two | Chief Buffalo Coach | BBC 2 | Pennod Defrosting the Fridge |
1987 | First Sight | Des | pennod Who's Our Little Jenny Lind? | |
1987 | The District Nurse | Phil Howells | BBC Cymru | 2 bennod |
1985 | Open All Hours | Victor | BBC | Pennod The Errand Boy Executive |
1984 | The Magnificent Evans | Mr Jenkins | BBC | |
1981 | A Spy at Evening | Jones | BBC | Pennod #1.1 |
1975 | Z Cars | Prif Uwch-arolygydd Norton | BBC | Pennod Thanks But... No Thanks |
1973 | The Regiment | Dilawar Khan | BBC | Pennod North West Frontier |
1971 | Brett | Darrell | BBC | Pennod The Ruined Valley |
1970 | Play for Today | Bob | BBC | Pennod The Hallelujah Handshake |
1970 | Never Say Die | Probert | Yorkshire Television | Pennod The Criminal |
1970 | Shine a Light | Capt. Taffy Lewis | Yorkshire Television | 4 pennod |
1970 | Parkin's Patch | Arthur Jackson | Yorkshire Television | Pennod Wisemen |
1968 | For Amusement Only | Dyn yn y dafarn #5 | London Weekend Television (LWT) | Pennod Time for the Funny Walk |
1967 | Micky Man | Mr. Moriarty | BBC | ffilm teledu |
1967 | The Newcomers | Tocynnwr | BBC | Pennod #1.138 Bus conductor |
1967–69 | Softly, Softly | DC Morgan/PC Thomas | BBC1 | |
1964 | Crossroads | Dudley Scrivens | ITV | |
1964 | Davy Jones | Frankie the Wern | BBC Cymru | 7 pennod |
1961 | The World of Tim Frazer | Gwas sifil | BBC | Pennod The Mellin Forrest Mystery: Part 1 |
1960 | BBC Sunday-Night Play | Iorwerth | BBC | Pennod The Squeeze |
1960 | How Green Was My Valley | Glowr | BBC | Pennod The First Rift |
1959 | The Davy Jones Saga | Frankie the Wern | BBC Cymru | 5 pennod |
1953 | Behind the Headlines | BBC | Ffilm wedi selio ar y gyfres radio The Goons |
Ffilm
golyguBlwyddyn | Teitl | Cymeriad |
---|---|---|
2011 | The Shop | Scobie |
2010 | Bubbles | Taid |
2010 | Mr Nice | George y sgowt |
2009 | The Cornet Player | |
2002 | Plotz with a View | Dr Owen |
2001 | Arthur's Dyke | Retired Husband |
1995 | The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain | Thomas the Trains |
1964 | Under Milk Wood | Nogood Boyo |
1952 | Down Among the Z Men |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Primetime: Ruth Jones Comedy 'Stella' Gets A Second Series". UnrealityTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-11. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Wales Online, 10 Medi 2014 Tributes paid to actor Howell Evans who played Daddy in Ruth Jones' Sky 1 show Stella Archifwyd 2013-07-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28/5/2018
- ↑ The Stage Obituary: Howell Evans adalwyd 03/06/2018
- ↑ Golwg360 Actor ‘Stella’ wedi marw adalwyd 03/06/2018
Dolenni allanol
golygu- Howell Evans ar wefan Internet Movie Database