Addasiad llwyfan o ffilm gan Emyr Humphreys yw'r ddrama Hualau. Cyflwynwyd y ddrama gan gwmni theatr Hwyl A Fflag ym 199. Rhyddhawyd y ffilm ym 1984 gan Ffilmiau Bryngwyn, cwmni cynhyrchu ei fab, Siôn Humphreys. Siôn fu'n gyfrifol am gyfarwyddo'r ddrama lwyfan. Ni chafodd y ddrama ei chyhoeddi.

Hualau
Dyddiad cynharaf1991
AwdurEmyr Humphreys
GwladCymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaHwyl A Fflag
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
GenreDramâu Cymraeg

Disgrifiad byr

golygu

Drama am ferch sy'n gyndyn i 'adael diffeithwch Birmingham i ddychwelyd adref i'w chartref ar Ynys Môn.

Disgrifiwyd y ddrama yn rhaglen y cynhyrchiad llwyfan fel "Drama rymus a chyfoethog gan un o brif lenorion Cymru yn trin a thrafod y berthynas rhwng pobol â'u cynefin. A'i trap yntau nyth clyd yw cartref, ac a oes modd dianc rhag y gorffennol? Dyma'r cwestiynau sy'n rheoli bywydau'r cymeriadau."[1]

Cawn fwy o flas y ddrama gan Alun Ffred Jones yn ei adolygiad yn Barn (Tachwedd 1991) "Stori syml sydd yma ar yr un wedd am wraig fferm yn dial am anffyddlondeb ei gŵr gyda'i chwaer fach trwy ei 'sbaddu' ac yna trwy ddal ei chwaer mewn 'magl' sy'n ei chlymu i'r fferm." [2]

Cefndir

golygu

Addasiad o ffilm deledu 50 munud ar gyfer S4C, yw Hualau, a ddarlledwyd ym 1984.[3] Cyflwynwyd y ddrama fer wreiddiol gan Hwyl A Fflag yn eu Gŵyl Ddrama flynyddol - Codi'r Hwyl 4, yn Theatr Gwynedd, Bangor. Mae'r fersiwn llwyfan a gyflwynwyd ym 1991 yn ymestyniad a datblygiad o'r ddrama fer honno.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Richie
  • Sioned

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Cyflwynwyd y ddrama gan Hwyl A Fflag ym 1991, fel rhan o'u Gŵyl Codi'r Hwyl 4, gan fynd â'r cynhyrchiad ar daith yn yr Hydref. Cyfarwyddwr Siôn Humphreys; cynllunydd John Jenkins; goleuo Bobi Jones; cast: Elliw Haf, Iola Gregory, Danny Grehan, Tom Richmond a Nia Williams.

"Profiad braf iawn oedd gadael cynhyrchiad theatr heb fod wedi gorfod straenio'r llygaid drwy'r düwch i weld faint o'r gloch oedd hi", medde'r llenor Angharad Jones yn Barn (Ebrill 1991) "Yn wir, prin hanner can munud oedd Hualau, addasiad o ffilm i'r theatr. Mi weithiodd hefyd: digon sionc, heb unrhyw Neges Fawr. Nid annheg chwaith fyddai galw Hualau yn sebon seicotig: cymeriadau sinistr, dyfynnu Beiblaidd tywyll, naws fygythiol. Rhyw gyffyrddiad bach o'r Twin Peaks mewn gwirionedd."[4]

"Mae'r cyfan yn cael ei adrodd yn glasurol gynnil, yn foel os dymunwch", oedd barn Alun Ffred Jones, "mewn cynhyrchiad di-ffrils gan fab yr awdur, Siôn Humphreys. Mae'r celfi llwyfan llwm yn awgrymu carchar ac mae hualau'r teitl yn dod yn real iawn wrth i'r stori ddatblygu. Mae rhywbeth moeswersol yn y cyfan a'r tri babi sy'n dod ac, yn bwysicach, yn mynd, yn atgoffa rhywun o rai o ddramâu Cymraeg dechrau'r ganrif."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Rhaglen cynhyrchiad llwyfan Hwyl A Fflag o Hualau. 1991.
  2. 2.0 2.1 Jones, Alun Ffred (Tachwedd 1991). "Diddorol, ond...". Barn 346.
  3. "Hualau". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-11.
  4. Jones, Anghard (Ebrill 1991). "Problem Adolygu". Barn 339.