Nia Williams
Actores o Gymru fu'n rhan o'r gyfres Rownd a Rownd o'i chychwyn, yw Nia Williams. Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au, gan ddechrau ei gyrfa gyda Hwyl a Fflag.
Nia Williams | |
---|---|
Ganwyd | Llanfaelog, Ynys Môn |
Alma mater | Ysgol Uwchradd Bodedern a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
Yn enedigol o Lanfaelog, Ynys Môn, a thra'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern y penderfynodd ddilyn y trywydd actio. Aeth yn ei blaen i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[1]
Wedi graddio, bu'n gweithio gyda chwmnïau theatr amrywiol fel Theatr Masquerade, Theatr Bara Caws, Hwyl a Fflag a Cwmni Theatr Gwynedd.
Ym 1995, ymunodd â chast Rownd a Rownd yn portreadu Nia Carter, perchennog caffi 'Sgram' sy'n ganolbwynt i lawer o ddrama'r gyfres.[1]
Gyrfa
golyguDetholiad
Theatr
golygu- Duges Amalffi - Hwyl a Fflag
- Janine (1989) - Hwyl a Fflag
- Y Gelli Geirios (1991) - Cwmni Theatr Gwynedd
- Hualau (1991) - Hwyl a Fflag
- Excelsior (1992) - Cwmni Theatr Gwynedd
- Cameo - Hwyl a Fflag
- Dyrnod Branwen - Hwyl a Fflag
- Io, To a'r Twrci - Bara Caws
- Y Claf Diglefyd a Doctor Di-glem (1994) - Cwmni Theatr Gwynedd
- Un o'r Teulu - Cwmni Theatr Gwynedd
Teledu / Ffilm
golygu- Brodyr a Chwiroydd
- Rownd a Rownd [2]
- Hualau
- Cyw Haul
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Nia Williams". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-24.
- ↑ Moffitt, Dominic (2021-10-03). "The original cast of Rownd a Rownd and where they are now". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.