Huey, Dewey a Louie

Mae Huey, Dewey, a Louie Hwyaden  yn hwyaid wen anthropomorffig a grëwyd i Stiwdio Disney ym 1937 gan Ted Osborne ac Al Taliaferro. Mae'r tri yn neiaint i Donald Duck ac mae Scrooge McDuck yn hen ewyrth iddynt.

Chwith i'r dde: Louie, Dewey, a Huey
Ymddangosiad cyntafDonald Duck Cartŵn papur Sul, 1937
Donald's Nephews (1938)
Crewyd ganTed Osborne
Al Taliaferro
LlaisClarence Nash (1938–1965)
Russi Taylor (1987–presenol)
Tony Anselmo (1987, 1999–presenol)
Yn Quack Pack:
Huey: Jeannie Elias
Dewey: Pamela Adlon
Louie: Elizabeth Daily
Yn Duck Tales (2017):
Huey: Danny Pudi
Dewey: Ben Schwartz
Louie: Bobby Moynihan
Enw llawnHubert Duck, Deuteronomy Duck a Louis Duck (Quack Pack)
Hubert Duck, Dewford Duck, a Llewelyn Duck (DuckTales 2017)
RhywogaethAmerican Pekin duck
RhiwGwryw
GwaithMyfyrwyr / sgowtiaid
TeuluTeulu Duck
PerthnasauDonald Duck (ewyrth, gwarcheidwad)
Scrooge McDuck (hen ewyrth)
Della Duck (Mam)
Ludwig Von Drake (hen ewyrth)
Gladstone Gander (mab i gefnder)
DinasyddiaethAmericanaidd

Mae'r tri yn edrych yn union yr un spit. Yn eu hymddangosiad cyntaf cawsant eu portreadu fel poendod i'w hewyrth ond wrth i'w cymeriadau datblygu daethant yn gaffaeliad i'w teulu gan gynorthwyo Donald a Scrooge mewn sefyllfaoedd cyfyng. Mae'r tri yn aelodau o'r Junior Woodchucks, mudiad tebyg i'r sgowtiaid.

Creadigaeth ac esblygiad golygu

Ymddangosodd Huey, Dewey a Louie am y tro cyntaf mewn stribedyn comic o'r enw Silly Symphonies ar 17 Hydref 1937. Cafodd y comic ei haddasu ar gyfer y sinema o dan y teitl Donald's Nephews ar 15 Ebrill 1938[1]. Mae eu mam, Della Duck,[2] yn gofyn i'w brawd Donald i'w gwarchod am ychydig ddyddiau tra bod ei gŵr yn yr ysbyty. Y rheswm pam bod eu tad yn yr ysbyty yw gan ei fod wedi ei anafu gan dân gwyllt a roddwyd gan y tri o dan ei gadair. Er mae dim ond dros dro roedd Donald i fod i warchod ei neiaint ni chlywir son am ei rieni byth eto, gyda'r tri yn ymddangos fel eu bod yn byw yn barhaol gyda Donald. Ers hynny mae'r tri wedi ymddangos mewn 27 o ffilmiau byr rhwng 1938 a 1965 ac mewn 12 o ffilmiau a fideos hirach rhwng 1983 a 2017. Maent wedi ymddangos mewn nifer fawr o gomics, llyfrau a blwyddlyfrau Disney. Mae Huey, Dewey a Louie yn gymeriadau rheolaidd yn y gyfres teledu Duck's Tales a Quack Pack maent hefyd yn gwneud ymddangosiadau achlysurol gyda Mickey Mouse yn y cyfresi Mickey Mouse Works a House of Mouse.

Mae'r triawd yn ymddangos yn y drydedd gêm fideo yn y gyfres Magical Quest, wedi eu herwgipio gan y gelyn King Pete. Nod y gêm yw eu hachub. Maent wedi eu herwgipio eto yn y gêm The Luckey Dime Caper ac mae'n rhaid i Donald chwilio am arian lwcus Scrooge er mwyn talu pridwerth am eu rhyddid.

Tarddiad enwau cyntaf golygu

Yn ôl eu creawdwr, Al Taliaferro, mae Huey, Dewey a Louie wedi eu enwi ar ôl dau wleidydd ac animeiddiwr Americanaidd o'r 1930au [3]

Mewn cyfieithiadau o waith Disney mae gan y tri enw lleol sy'n dilyn y lled gynghanedd sydd yn yr enwau Saesneg. Er enghraifft: Hugo, Paco a Luis (Sbaeneg America Ladin); Jorgito, Juanito a Jaimito (Sbaeneg Ewropeaidd); Huguinho, Luizinho a Zezinho (Portiwgaleg Brasil); Billy, Willie a Dilly (Rwseg); Hyzio, Dyzio, a Zyzio (Pwyleg); Tick, Trick a Trak (Almaeneg); Riri, Fifi a Loulou (Ffrangeg); Qui, Quo e Qua (Eidaleg); Karkur, Farfur, a Zarzur (Arabeg). Er nad oes ganddynt enwau swyddogol yn y Gymraeg, mewn rhifyn o'r gyfres Quack Pack nodir mae enw llawn Louie yw Llewelyn.[5]

Lleisio golygu

Llesiwyd Huey, Dewey a Louie yn wreiddiol gan Clarence Nash [6], yr un dyn a oedd yn lleisio Donald; gan hynny roeddynt mor annealladwy â Donald yn y ffilmiau byr cyntaf. Ers hynny mae cymeriadau wedi cael eu lleisio gan Russi Taylor yn Duck Tales[7]. Yn Quack Pack, cawsant eu lleisio yn unigol gan Jeannie Elias, Pamela Segall, ac Elizabeth Daily. Lleisiodd Tony Anselmo y tri yn Down and Out with Donald Duck (1987), Mickey Mouse Works a Disney's House of Mouse, ond mae Russi Taylor yn dal i leisio'r trio mewn prosiectau eraill, megis y gemau fideo Donald Duck: Goin 'Quackers a Mickey's Speedway USA, a'r ffilmiau syth i fideo Mickey's Once & Twice On a Christmas. Ail gyfododd Russi Taylor ei rhôl hefyd fel y neiaint yn y gêm fideo Duck Tales Remastered a ffilmiau byr Mickey Mouse ar ôl 2013. Mae Danny Pudi, Ben Schwartz a Bobby Moynihan yn lleisio'r brodyr fel unigolion yn fersiwn 2017 o Duck Tales.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Dave Smith, Disney A to Z: The Updated Official Encyclopedia
  2. Disney Fandom Della Duck adalwyd 19 Hydref 2018
  3. Dana Coty, a gag man who later sold ideas to Barks for the comics, came up with the euphonious names Huey, Dewey and Louie, with the names taken from Huey Long, governor and later senator of Louisiana; Thomas Dewey, governor of New-York, and subsequently a presidential candidate; and Louis Schmitt, an animator at the Disney Studio in the 1930s and 1940s. Wedi ei ddyfynu yn Thomas Andrae, Carl Barks And the Disney Comic Book: Unmasking the Myth of Modernity, Univ. Press of Mississippi, 2006 ISBN 1-57806-858-4)
  4. Mae ffynonellau eraill yn sôn am y llyngesydd George Dewey (1837-1917).
  5. Rhestr llawn o'r enwau mewn gwahanol ieithoedd ar wefan InDucks adalwyd 19 hydref 2018
  6. Clarence Nash ar IMDb adalwyd 19 Hydref 2018
  7. Russi Taylor ar IMDb adalwyd 19 Hydref 2018