Hutan mynydd

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Hutan y Mynydd)
Hutan mynydd
Eudromias morinellus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadriidae
Genws: Charadrius[*]
Rhywogaeth: Charadrius morinellus
Enw deuenwol
Charadrius morinellus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Hutan mynydd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: hutanod mynydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Eudromias morinellus; yr enw Saesneg arno yw Dotterel. Mae'n perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu yma yn aderyn sydd i'w weld yn amlach yn y mynyddoedd nag ar lan y môr.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn E. morinellus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia, o Norwy i ddwyrain Siberia, a hefyd ymhellach i'r de lle mae mynyddoedd digon uchel i gynnig yr un math o gynefin, er enghraifft yn Yr Alban a'r Alpau. Mae'n nythu ar lawr ac yn dodwy 2 - 4 wy. Pryfed yw'r prif fwyd. Mae'n aderyn mudol yn gaeafu yng ngogledd Affrica a gorllewin Asia cyn belled ag Iran.

Gellir adnabod Hutan y Mynydd yn weddol hawdd. Mae'n aderyn gweddol fychan, llai na'r Cwtiad Aur er enghraifft, ac mae ganddo linell wen darawiadol uwchben y llygad. Yn y tymor nythu mae gan yr iâr a'r ceiliog fron frowngoch gyda gwyn o'i chwmpas, bol du a chefn brown, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar mae'r iâr yn fwy lliwgar na'r ceiliog. Mae hyn yn gysylltiedig a'r ffaith mai'r ceiliog sy'n gyfrifol am ori'r wyau ac edrych ar ôl y cywion. Yn y gaeaf mae'r patrwm yn debyg on yn fwy llwyd.

Mae cofnod bod Hutan y Mynydd wedi nythu unwaith neu ddwy yng Nghymru ar y Carneddau. Fel rheol gellir ei weld mewn lleoedd traddodiadol, un ai yn y mynyddoedd neu ar ambell benrhyn, pan mae'n pasio trwodd yn mis Mai neu'n dychwelyd rhwng diwedd Awst a dechrau Hydref.

Teulu golygu

Mae'r hutan mynydd yn perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cornchwiglen Vanellus vanellus
 
Cornchwiglen adeinbigog Vanellus spinosus
 
Cornchwiglen adeinddu Vanellus melanopterus
 
Cornchwiglen dagellgoch Vanellus indicus
 
Cornchwiglen dagellog Jafa Vanellus macropterus
 
Cornchwiglen fronfraith Vanellus melanocephalus
 
Cornchwiglen fygydog Vanellus miles
 
Cornchwiglen goronog Vanellus coronatus
 
Cornchwiglen gynffonwen Vanellus leucurus
 
Cornchwiglen heidiol Vanellus gregarius
 
Cornchwiglen hirfys Vanellus crassirostris
 
Cornchwiglen labedog Vanellus albiceps
 
Cornchwiglen yr Andes Vanellus resplendens
 
Hutan gyddfgoch Oreopholus ruficollis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Hutan mynydd gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.