Gwyn bach

(Ailgyfeiriad o Iâr fach wen)
Pieris rapae
Benyw
Gwryw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Genws: Pieris
Rhywogaeth: P. rapae
Enw deuenwol
Pieris rapae
(Linnaeus, 1758)[1]

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn bach, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion bach; yr enw Saesneg yw Small White, a'r enw gwyddonol yw Pieris rapae.[2][3]

Mae i'w ganfod yn Ewrop, gogledd Affrica, Asia a gwledydd Prydain. Yn ddiweddar cludwyd ef i diriogaethau newydd Gogledd America, Seland Newydd ac Awstralia, ble mae'n gwneud drwg mawr i blanhigion mwstad (Sisybrium officinale) a bresych.

Lled ei adenydd yw 32–47 mm (1.25–2 modfedd). Yng ngwledydd Prydain ceir dwy genhedlaeth ac fe'u gwelir yn hedfan rhwng Ebrill a Mai ac yna rhwng Gorffennaf ac Awst.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn byw gwyn bach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Pieris
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.