Mortimer (teulu)
(Ailgyfeiriad o Iarll y Mers)
Teulu o Arglwyddi'r Gororau o darddiad Normanaidd oedd teulu Mortimer neu'r Mortimeriaid. Eu prif ganolfan oedd Castell Wigmore yn Swydd Henffordd. Bu ganddynt ran bwysig yn hanes Cymru a Lloegr a gwleidyddiaeth Y Mers yn yr Oesoedd Canol.
Enghraifft o'r canlynol | teulu |
---|
Ymhlith aelodau'r teulu roedd:
- Ranulph de Mortimer, arglwydd Castell Wigmore a St. Victor-en-Caux yn Normandi
- Hugh de Mortimer, arglwydd Castell Wigmore
- Roger Mortimer o Wigmore
- Ralph de Mortimer, ail ŵr Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr
- Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer
- Edmund Mortimer, 2il Farwn Mortimer
- Roger Mortimer, Iarll 1af March, rheolwr de facto Lloegr am dair blynedd
- Roger Mortimer, 2il Iarll March
- Edmund Mortimer, 3ydd Iarll March
- Roger Mortimer, 4ydd Iarll March
- Edmund Mortimer, 5ed Iarll March
- Thomas Mortimer o Toton
- Edmund Mortimer (1376 - 1409), ail fab Edmund Mortimer, 3ydd Iarll March, a wnaeth gynghrair ag Owain Glyndŵr ac a briododd ei ferch Catrin.