Ieuan Evans

chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig yw Ieuan Evans, (ganed 21 Mawrth 1964). Enillodd 72 o gapiau dros Gymru, fel asgellwr yn bennaf, gan sgorio 33 cais. Er iddo chwarae mewn cyfnod pan nad oedd y tîm cenedlaethol yn llwyddiannus iawn, ystyrir ef yn un o chwaraewyr gorau Cymru.

Ieuan Evans
Ganwyd21 Mawrth 1964 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, entrepreneur Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau85 cilogram Edit this on Wikidata
PlantCai Evans Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bath Rugby, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd ef yn Mhontarddulais a dechreuodd chwarae rygbi yn yr ysgol ramadeg yng Nghaerfyrddin.

Gyrfa rygbi golygu

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli yn 19 oed, pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford. Yn 1997 aeth i chwarae i Gaerfaddon, gan ennill Cwpan Heineken gyda hwy yn 1998.

Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1987. Yn ystod ei yrfa, enillodd 72 cap dros Cymru, ac roedd ei 33 cais yn record ar y pryd. Bu'n gapten Cymru 28 o weithiau. Ef oedd capten tim Cymru a enillodd Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1994, ond nid oedd y tîm cenedlaethol yn arbennig o lwyddiannus yn y cyfnod yma. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn yr Eidal yn 1998.

Bu ar daith gyda'r Llewod dair gwaith; i Awstralia yn 1989, i Seland Newydd yn 1993 ac i Dde Affrica yn 1997. Ef oedd sgoriwr uchaf y Llewod yn erbyn y Crysau Duon yn 1993, gyda phedwar cais.