Agor y brif ddewislen

Illtyd Harrington

gwleidydd o Gymro

Roedd Illtyd Harrington (14 Gorffennaf 19311 Hydref 2015) yn athro, yn wleidydd y Blaid Lafur ac yn golofnydd a wasanaethodd fel dirprwy arweinydd Cyngor Llundain Mwyaf (GLC)[1][2]

Illtyd Harrington
Ganwyd 14 Gorffennaf 1931 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Hydref 2015 Edit this on Wikidata (84 oed)
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Harrington yn Nowlais yn fab i Timothy Harrington a Sarah (née Burchel) ei wraig. Roedd Timothy Harrington yn Gomiwnydd a ymladdodd yn erbyn lluoedd Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen.

Nai i Illtyd Harrington yw'r actor Richard Harrington.[3]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol St Illtyd, Dowlais, Ysgol Sir Merthyr a Choleg y Drindod Caerfyrddin lle gymhwysodd yn athro.

Roedd yn byw efo'i bartner, Chris Downes, gwisgwr theatrig i actorion megis Laurence Olivier, Maggie Smith a Billy Wilder a'r ysbrydoliaeth ar gyfer drama Ronald Harwood, The Dresser; bu Downes farw yn 2003.[4]

GyrfaGolygu

Wedi ymadael a'r coleg bu Harrington yn gweithio fel athro yn Llundain gan ddyfod yn bennaeth adran Saesneg Ysgol Daneford, Bethnal Green

Gyrfa WleidyddolGolygu

Ym 1959 cafodd Harrington ei ethol fel Cynghorydd Llafur ar Gyngor Paddington ac ym 1964 cafodd ei ethol i Gyngor San Steffan a'r GLC[5]. Ceisiodd am enwebiad Llafur ar gyfer etholaeth Merthyr ym 1972 gan golli allan i Ted Rowlands.

Rhwng 1974 1 1976 roedd yn aelod o Gabinet Cegin Harold Wilson, sef grŵp o ymgynghorwyr agos y Brif Weinidog. Cafodd ei benodi i drefnu dathliadau gwladol ar adeg Jiwbilî Arian y Frenhines Elisabeth ym 1976. Gwasanaethodd fel dirprwy arweinydd y GLC rhwng 1973 a 1977. Ym 1980 safodd fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth grŵp Llafur y GLC gan golli i Andrew MacIntosh, ond cafodd ei ethol fel y dirprwy arweinydd eto. Ym 1981 llwyddodd yr ymgeisydd asgell chwith Ken Livingstone i gipio'r arweinyddiaeth oddi wrth Macintosh ond roedd yn awyddus i gadw Harrington fel ei ddirprwy er mwyn cael "wyneb cymedrol" ar arweinyddiaeth y cyngor. O dan arweinyddiaeth Livingstone a Harrington daeth y GLC yn ddraenen yn ystlys Llywodraeth Ceidwadol Margaret Thatcher a'r corff etholedig mwyaf grymus i wrthwynebu ei pholisïau; o ganlyniad penderfynodd Thatcher i ddiddymu'r Cyngor ym 1986 a daeth gyrfa wleidyddol Harrington i ben.[6]

Wedi diddymu'r GLC daeth Harrington yn golofnydd i'r New Camden Journal gan ysgrifennu am y celfyddydau a gwleidyddiaeth.

CyfeiriadauGolygu

  1. The Guardian 1 Hydref 2015 Illtyd Harrington obituary [1] adalwyd 2 Hydref 2015
  2. Philpot, T. (2019, January 10). Harrington, Illtyd (1931–2015), teacher and local politician. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 23 Jan. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-109839.
  3. Wales Online 28 Rhagfyr 2007 Welsh politician’s ‘bitter disappointment’ at not becoming Merthyr MP [2] adalwyd 2 Hydref 2015
  4. The Guardian 29 Tachwedd 2003 Obituary: Christopher Downes [3] adalwyd 2 Hydref 2015
  5. London Wikia Illtyd Harrington [4] adalwyd 2 Hydref 2015
  6. Electoral History of the Greater London Council [5] adalwyd 2 Hydref 2015