Incwm sylfaenol cyffredinol
Mae incwm sylfaenol cyffredinol (UBI), yn rhaglen gyhoeddus gan lywodraeth ar gyfer taliad ariannol cyfnodol a gaiff ei ddosbarthu i holl ddinasyddion y wlad, heb brawf modd na gofyniad gwaith.[1] Mae'r rhaglen yma'n debyg iawn i'r hyn a elwir yn 'dreth incwm negyddol', ond ei bod yn mynd gam ymhellach.
Ar 4 Hydref 2013, trefnodd ymgyrchwyr yn Bern, y Swistir ddympio 8 miliwn o ddarnau arian, un darn arian yn cynrychioli poblogaeth y Swistir, ar sgwâr cyhoeddus. Gwnaethpwyd hyn i ddathlu'r casglu dros 125,000 o lofnodion, gan orfodi'r llywodraeth i gynnal refferendwm yn 2016 ynghylch a ddylid ymgorffori'r cysyniad o incwm sylfaenol yn y cyfansoddiad ffederal ai peidio. Ni phasiodd y mesur, gyda 76.9% yn pleidleisio yn erbyn newid y cyfansoddiad ffederal i gefnogi incwm sylfaenol. | |
Enghraifft o'r canlynol | policy option, cysyniad gwleidyddol |
---|---|
Math | Incwm, nawdd cymdeithasol |
Y gwrthwyneb | conditional basic income |
Dyddiad cynharaf | 16 g |
Rhan o | polisi cymdeithasol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir yr enwau canlynol hefyd mewn rhai gwledydd: incwm sylfaenol, incwm dinasyddiaeth, incwm sylfaenol dan warant, cyflog byw sylfaenol, incwm blynyddol gwarantedig, neu ddemogrant cyffredinol.
Esboniad pellach
golyguGellir gweithredu incwm sylfaenol yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol ar raddfa sir neu ddinas fawr). Weithiau gelwir incwm diamod sy'n ddigonol i ddiwallu anghenion sylfaenol unigolyn (hy ar y llinell dlodi neu'n uwch na hynny) yn incwm sylfaenol llawn; os yw'n llai na'r swm hwnnw, gellir ei alw'n incwm sylfaenol rhannol. Mae'r trosglwyddiadau a effeithir gan incwm sylfaenol yr un fath neu'n debyg i'r rhai a gynhyrchir gan dreth incwm negyddol.
Mae treth incwm negyddol yn system sy'n gwrthdroi'r cyfeiriad y telir treth am incwm islaw lefel benodol; mewn geiriau eraill, mae enillwyr uwchlaw'r lefel honno'n talu arian i'r wladwriaeth tra bod enillwyr oddi tani (a rhai nad ydynt yn ennill incwm) yn derbyn arian gan y wladwriaeth.
Gellir ystyried rhai systemau lles, mewn rhai gwledydd, fel camau ar y ffordd i incwm sylfaenol, ond oherwydd bod ganddynt amodau ynghlwm iddyn nhw, nid ydynt yn incwm sylfaenol go-iawn. Enghraifft o hyn yw'r cymhorthdal cyflog, sy'n gynnig tebyg ond llai uchelgeisiol; un arall yw isafswm incwm gwarantedig (guaranteed minimum income), sy'n codi incwm cartrefi i isafswm penodol.
Yng Nghymru, y ddau ladmerydd mwyaf dros incwm sylfaenol cyffredinol yw Tegid Roberts a Mark Hooper.
Mae polisïau sy'n seiliedig ar incwm sylfaenol yn cael cefnogaeth byd-eang gan economegwyr proffesiynol. Canfu arolwg ym 1995 fod 78% o economegwyr America yn cefnogi (gyda neu heb amodau) y cynnig 'y dylai'r llywodraeth ailstrwythuro'r system les yn debyg i dreth incwm negyddol'.[2]
Hyd yn hyn, nid oes yr un wlad wedi cyflwyno incwm sylfaenol diamod fel cyfraith. Cynhaliwyd y refferendwm cenedlaethol cyntaf a’r unig un ynghylch incwm sylfaenol yn y Swistir yn 2016. Y canlyniad oedd gwrthod y cynnig incwm sylfaenol mewn pleidlais o 76.9% i 23.1%.
Hanes
golyguMae'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 16g pan ddarluniodd Syr Thomas More, yn ei gyfrol Utopia, gymdeithas lle mae pawb yn derbyn incwm gwarantedig.[3] Ar ddiwedd y 18g, datganodd y radical Seisnig Thomas Spence a’r chwyldroadwr Americanaidd Thomas Paine eu cefnogaeth i system les a oedd yn gwarantu incwm sylfaenol sicr i bob dinesydd.
Ychydig iawn o drafodaethau ar incwm sylfaenol a fu yn y 19g, ond yn gynnar yn yr 20g, trafodwyd incwm sylfaenol o'r enw "bonws y wladwriaeth" yn eang. Ym 1945, gweithredodd y Deyrnas Unedig lwfansau teulu diamod ar gyfer ail blant a phlant dilynol pob teulu. Yn y 1960au a'r 1970au, cynhaliodd yr Unol Daleithiau a Chanada sawl arbrawf gyda threthi incwm negyddol a'i system les gysylltiedig.
O'r 1980au ac ymlaen, cychwynnodd y ddadl yn Ewrop yn ehangach, ac ers hynny, mae wedi ehangu i lawer o wledydd ledled y byd. Mae rhai gwledydd wedi gweithredu systemau lles ar raddfa fawr sydd â rhai tebygrwydd ag incwm sylfaenol, fel Bolsa Família ym Mrasil. O 2008 ymlaen, cynhaliwyd sawl arbrawf gydag incwm sylfaenol a systemau cysylltiedig.
Datblygodd y mudiad cymdeithasol cyntaf ar gyfer incwm sylfaenol tua 1920 yn y Deyrnas Unedig. Roedd ei wrthwynebwyr yn cynnwys:
- Dadleuodd y Cymro Bertrand Russell (1872–1970) dros fodel cymdeithasol newydd a gyfunodd fanteision sosialaeth ac anarchiaeth, ac y dylai incwm sylfaenol fod yn rhan hanfodol o'r gymdeithas newydd honno.
- Cyhoeddodd y par Dennis a Mabel Milner, Crynwyr o'r Blaid Lafur, bamffled byr o'r enw "Scheme for a State Bonus" (1918) a oedd yn dadlau dros "gyflwyno incwm a delir yn ddiamod yn wythnosol i holl ddinasyddion y DU." Roeddent o'r farn ei bod yn hawl foesol i bawb gael cynhaliaeth, ac felly ni ddylai fod yn amodol ar waith na pharodrwydd i weithio.
- Roedd C. H. Douglas yn beiriannydd a ddaeth yn bryderus na allai'r mwyafrif o ddinasyddion Prydain fforddio prynu'r nwyddau a gynhyrchwyd, er gwaethaf y cynnydd yng nghynnyrch diwydiant gwledydd Prydain. Ei ateb i'r paradocs hwn oedd system gymdeithasol newydd a alwodd yn gredyd cymdeithasol, cyfuniad o ddiwygio ariannol ac incwm sylfaenol.
Yn 2002, comisiynwyd papur gwyrdd ar y pwnc gan Lywodraeth Iwerddon.[4]
Er 2010, daeth incwm sylfaenol yn bwnc poblogaidd eto mewn sawl gwlad. Ar hyn o bryd, trafodir incwm sylfaenol o ran amryw o safbwyntiau, gan gynnwys yng nghyd-destun otomeiddio a roboteiddio parhaus, yn aml gyda'r ddadl bod y tueddiadau hyn yn golygu llai o waith a llai o gyflog yn y dyfodol. Byddai hyn yn creu angen am fodel lles newydd. Mae sawl gwlad yn arbrofi'n lleol neu'n rhanbarthol gydag incwm sylfaenol neu systemau lles cysylltiedig. Er enghraifft, ceir arbrofion yng Nghanada, y Ffindir, India a Namibia wedi cael sylw cyfryngau rhyngwladol. Trafodwyd y polisi gan Weinyddiaeth Gyllid India mewn arolwg economaidd yn 2017.[5]
Yn ystod Pandemig COVID-19 yn 2020, gwrthododd Canghellor Trysorlys y DU Rishi Sunak alwadau am weithredu incwm sylfaenol, gan nodi nad oedd y llywodraeth “o blaid incwm sylfaenol cyffredinol.” [6][7] Rhaid cofio yma mai plaid Ceidwadol oedd yn y Llywodraeth, ac mai pobl gyoethog fyddai'r unig grwp na fyddai'n elwa.
Beirniadaeth
golyguUn feirniadaeth o'r incwm sylfaenol yw'r ddadl y byddai rhai derbynwyr yn gwario incwm sylfaenol ar alcohol a chyffuriau eraill.[8][9] Fodd bynnag, mae astudiaethau o effaith rhaglenni trosglwyddo arian parod uniongyrchol yn darparu tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Daw adolygiad Banc y Byd yn 2014 o 30 astudiaeth wyddonol i'r casgliad canlynol: "Mae pryderon ynghylch defnyddio trosglwyddiadau arian parod ar gyfer yfed alcohol a thybaco yn ddi-sail." [10]
Dadl arall yn erbyn incwm sylfaenol yw, os oes gan bobl arian am ddim a diamod, yna byddent yn "mynd yn ddiog" a pheidio â gweithio cymaint.[11][12][13] Dadleua beirniaid fod llai o waith yn golygu llai o refeniw treth ac felly llai o arian i'r wladwriaeth a'r dinasoedd i ariannu prosiectau cyhoeddus. Byddai graddfa unrhyw anghymhelliant i gyflogaeth oherwydd incwm sylfaenol yn debygol o ddibynnu ar ba mor hael oedd yr incwm sylfaenol.
Cydraddoldeb rhyw
golyguMae'r economegydd yr Alban Ailsa McKay wedi dadlau bod incwm sylfaenol yn ffordd i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw.[14][15] Nododd yn 2001 y dylai "diwygio polisi cymdeithasol ystyried yr holl anghydraddoldebau rhyw ac nid dim ond y rhai sy'n ymwneud â'r farchnad lafur draddodiadol" ac y gall "model incwm sylfaenol y dinasyddion fod yn offeryn ar gyfer hyrwyddo hawliau dinasyddiaeth gymdeithasol niwtral o ran rhyw".[16]
Lleihau tlodi
golyguMae eiriolwyr incwm sylfaenol yn aml yn dadlau bod ganddo'r potensial i leihau neu hyd yn oed ddileu tlodi .[17]
Yn ôl astudiaeth reoledig ar hap yn Ardal Rarieda yn Kenya a redir gan Abdul Latif Jameel Poverty Action Lab yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ar y rhaglen Give Directly, effaith trosglwyddiad arian diamod oedd hyn: am bob $1,000 a ddosbarthwyd, bu cynnydd o $270 mewn enillion, cynnydd o $430 mewn asedau, a chynnydd o $330 mewn gwariant ar faeth, heb unrhyw gynnydd ar wariant alcohol neu dybaco.[18]
Cefnogodd yr economegydd Milton Friedman UBI trwy resymu y byddai'n helpu i leihau tlodi. Meddai: "Gogoniant treth incwm negyddol yw ei fod yn trin pawb yr un ffordd. . . a hynny heb y gwahaniaethu annheg ymhlith pobl." [19]
Credai Martin Luther King Jr fod incwm sylfaenol yn anghenraid a fyddai’n helpu i leihau tlodi, waeth beth fo’i hil, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Yn llyfr olaf King cyn ei lofruddio, Where Do We Go from Here: Chaos or Community?, meddai: "Rwyf bellach wedi fy argyhoeddi mai'r dull symlaf fydd y mwyaf effeithiol - yr ateb i dlodi yw ei ddiddymu'n uniongyrchol trwy fesur a drafodir yn eang erbyn hyn: yr incwm gwarantedig." [20]
Lleihau costau meddygol
golyguPasiodd Cymdeithas Feddygol Canada gynnig yn 2015 i gefnogi incwm sylfaenol ac ar gyfer treialon incwm sylfaenol yng Nghanada.[21]
Mae'r newyddiadurwr o wledydd Prydain, Paul Mason, wedi nodi y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn ôl pob tebyg yn lleihau'r costau meddygol uchel sy'n gysylltiedig â chlefydau tlodi. Yn ôl Mason, mae'n debyg y byddai afiechydon straen fel pwysedd gwaed uchel, diabetes math II a'u tebyg yn dod yn llai cyffredin.[22]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BIEN | Basic Income Earth Network". BIEN. Cyrchwyd 8 Ionawr 2019.
- ↑ Alston, Richard M.; Kearl, J.R.; Vaughan, Michael B. (May 1992). "Is There a Consensus Among Economists in the 1990s?". The American Economic Review (American Economic Association) 82 (2): 203–09. http://www.weber.edu/wsuimages/AcademicAffairs/ProvostItems/global.pdf. Adalwyd 17 Hydref 2015.
- ↑ Bryce Covert, "What Money Can Buy: The promise of a universal basic income – and its limitations", The Nation, vol. 307, no. 6 (10 / 17 Medi 2018), p. 33.
- ↑ "Basic Income A Green Paper" (PDF). socialjustice.ie. September 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-11-24. Cyrchwyd 22 Mehefin 2020.
- ↑ "Chancellor rejects widespread calls for universal basic income, saying government 'not in favour'". The Independent. 24 Mawrth 2020.
- ↑ "Recap: Sky News' special report into coronavirus care home deaths". Sky News.
- ↑ Sheahen, Allan. Basic Income Guarantee: Your Right to Economic Security. New York: Palgrave Macmillan, 2012.
- ↑ Koga, Kenya. "Pennies From Heaven." Economist 409.8859 (2013): 67–68. Academic Search Complete. Web. 12 April 2016.
- ↑ Evans, David K.; Popova, Anna (1 Mai 2014) (PDF). Cash Transfers and Temptation Goods: A Review of Global Evidence. Policy Research Working Paper 6886.. The World Bank. Office of the Chief Economist.. pp. 1–3. http://documents.worldbank.org/curated/en/617631468001808739/Cash-transfers-and-temptation-goods-a-review-of-global-evidence. Adalwyd 18 December 2017.
- ↑ "urn:nbn:se:su:diva-7385: Just Distribution : Rawlsian Liberalism and the Politics of Basic Income". Diva-portal.org. Cyrchwyd 16 Chwefror 2014.
- ↑ Gilles Séguin. "Improving Social Security in Canada – Guaranteed Annual Income: A Supplementary Paper, Government of Canada, 1994". Canadiansocialresearch.net. Cyrchwyd 16 Awst 2013.
- ↑ The Need for Basic Income: An Interview with Philippe Van Parijs, Imprints, Vol. 1, No. 3 (March 1997). The interview was conducted by Christopher Bertram.
- ↑ McKay, Ailsa (2005). The Future of Social Security Policy: Women, Work and a Citizens Basic Income. Routledge. ISBN 9781134287185.
- ↑ McKay, Ailsa (2007). "Why a citizens' basic income? A question of gender equality or gender bias". Work, Employment & Society 21 (2): 337–348. doi:10.1177/0950017007076643.
- ↑ McKay, Ailsa (2001). "Rethinking Work and Income Maintenance Policy: Promoting Gender Equality Through a Citizens' Basic Income". Feminist Economics 7 (1): 97–118. doi:10.1080/13545700010022721.
- ↑ Bregman, Rutger (6 Mawrth 2017). "Utopian thinking: the easy way to eradicate poverty – Rutger Bregman". The Guardian – drwy www.theguardian.com.
- ↑ "Research at GiveDirectly". GiveDirectly. Cyrchwyd 10 Hydref 2018.
- ↑ Orfalea, Matt (11 December 2015). "Why Milton Friedman Supported a Guaranteed Income (5 Reasons)". Medium. Cyrchwyd 4 December 2018.
- ↑ King, Martin Luther Jr. (2010). Where Do We Go from Here: Chaos or Community?. King, Coretta Scott; Harding, Vincent. Boston: Beacon Press. ISBN 9780807000670. OCLC 610201386. The chapter is titled "Where We Are Going".
- ↑ "Opinion – Basic income: just what the doctor ordered". Cyrchwyd 24 April 2018.
- ↑ Paul Mason (3 Mawrth 2016). "PostCapitalism". Talks at Google. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2016.