Bardd a chyfieithydd oedd Paul Celan (23 Tachwedd 1920 – c.20 Ebrill 1970). Fe'i anwyd dan yr enw Paul Antschel i deulu Iddewig ond newidiodd ei enw i "Paul Celan", sef fersiwn llai Almaeneg.

Paul Celan
GanwydPaul Antschel Edit this on Wikidata
23 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
Chernivtsi Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 1970 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Rwmania Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Chernivtsi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, awdur geiriau, awdur ysgrifau, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDeath Fugue, Language Mesh Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
PriodGisèle Lestrange Edit this on Wikidata
PartnerIngeborg Bachmann Edit this on Wikidata
PerthnasauSelma Meerbaum-Eisinger Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Georg Büchner, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.celan-projekt.de Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd golygu

Fe'i ganwyd yn Cernăuţi, Bukovina, Teyrnas Rwmania, heddiw yn Chernivtsi, Wcrain. O dan ddylanwad ei dad, Leo Antschel, cafodd addysg gyfrwng Hebraeg yng ngholeg Safah Ivriah, ond oherwydd ei fam, Fritzi, cafwyd Almaeneg yn famiaith, a Rwmaneg yn iaith y gymuned. Wedi ei Bar Mitzvah yn 1933, trodd i ffwrdd o grefydd ac at sosialaeth. Astudiodd wedyn yn "Lyceum Mihai " (ysgol Chernivtsi rhif 5 bellach) o 1934-1938.

Dechreuodd astudio i fod yn feddyg yn 1938 ym Prifysgol Tours (Ffrainc). Ond dychwelodd i Rwmania ddechrau'r rhyfel i astudio ym mhrifsygol Chernivtsi er gwaethaf cwota yn cyfyngu ar Iddewon. Astudiodd ieithoedd Romans. Yn 1938 aeth i Berlin (ar adeg y Kristallnacht) lle roedd ei ewythr yn byw, sef Bruno Schrager a fu farw ychydig wedyn yn Auschwitz.

Ym Mehefin 1940 cipiwyd ardal Bukovina gan y Sofietiaid. Concrodd yr Almaenwyr yr ardal y flwyddyn ganlynol, yng Ngorffennaf 1941. Llosgwyd prif synagog Chernivtsi gan y SS Einsatzkommando ac anfonwyd Iddewon Chernivtsi i ' ghetto', man lle cyfieithodd Celan sonedau William Shakespeare. Yno y ddaeth yn gyfarwydd a chaneuon a diwylliant Iddew-Almaeneg ei bobl. Aethpwyd a'r rhan fwyaf o Iddewon Chernivtsi i wersyll yn y Wcrain lle bu farw ei rieni yn 1942, ond cadwyd Celan i weithio i'r Almaenwyr tan ei ryddhau yn Chwefror 1944 gan y Rwsiaid. Dyma'r cyfnod yr ysgrifennodd ei gerdd enwocaf Todesfuge, a gyfieithwyd i lawer o ieithoedd wedyn; gan gynnwys y Gymraeg (gan Mererid Hopwood yn y cylchgrawn Taliesin.

Gadawodd Rwmania ym 1948 am Fiena cyn symud eto i Baris. Yno, yn 1948, cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Der Sand aus den Urnen ("tywod o'r wrnau"). Datblygodd ei enwogrwydd yn raddol ac ym 1952 cyfarfu â Martin Heidegger a chanodd ei Todesfuge ("Ffiwg Angau") iddo.

O Tachwedd 1951, cafodd affêr efo Gisèle de Lestrange ym Mharis, Ffrainc, cyn ei phriodi ar Rhagfyr 21, 1952. Enillodd ei fywoliaeth ym Mharis drwy gyfieithu. Rhoddwyd iddo "Ddinasyddiaeth Ffrainc" ym 1955 , enillodd y Wobr Lenyddol Bremen ym 1958 a'r pwysicaf o'r holl wobrau Almaeneg sef Gwobr Georg Büchner ym 1960. Degawd wedyn lladdodd ei hun ar Ebrill 20, 1970.

Mae cryn ddiddordeb yn ei waith o hyd, yn arbennig yn America. Bu farw ym Mharis.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfieithiadau o'i waith golygu

  • Todesfuge/Ffiwg Angau, cyfieithwyd gan Mereirid Hopwood (2012) Talesin Gwanwyn 2012, cyfrol 145.

I'r Saesneg yn bennaf:

  • The Meridian: Final Version - Drafts - Materials, golygwyd gan Bernhard Böschenstein a Heino Schmull, cyfieithwyd gan Pierre Joris (2011)
  • The Correspondence of Paul Celan and Ilana Shmueli, cyfieithwyd gan Susan H. Gillespie (2011)
  • Paul Celan, Ingeborg Bachmann: Correspondence, cyfieithwyd gan Wieland Hoban (2010)
  • From Threshold to Threshold, cyfieithwyd gan David Young (2010)
  • Snow Part, cyfieithwyd gan Ian Fairley (2007)
  • Paul Celan: Selections, cyfieithwyd gan Pierre Joris (2005)
  • Fathomsuns/Fadensonnen and Benighted/Eingedunkelt, cyfieithwyd gan Ian Fairley (2001)
  • Poems of Paul Celan: A Bilingual German/English Edition, cyfieithwyd gan Michael Hamburger (2001)
  • Selected Poems and Prose of Paul Celan, cyfieithwyd gan John Felstiner (2000)
  • Glottal Stop: 101 Poems, cyfieithwyd gan Nikolai Popov a Heather McHugh (2000)
  • Atemwende/Breathturn, cyfieithwyd gan Pierre Joris (1995)
  • Collected Prose, cyfieithwyd gan Rosmarie Waldrop (1986)
  • "Last Poems", cyfieithwyd gan Katharine Washburn a Margret Guillemin (1986)
  • Paul Celan, 65 Poems, cyfieithwyd gan Brian Lynch and Peter Jankowsky (1985)
  • "Speech-Grille and Selected Poems",cyfieithwyd gan Joachim Neugroschel (1971)
  • Paul Celan şi "meridianul" său. Repere vechi şi noi pe un atlas central-European, Andrei Corbea Hoisie
  • Paul Celan. Biographie et interpretation/Biographie und Interpretation, golygydd Andrei Corbea Hoisie

Gwaith a gyfieithwyd gan Celan golygu

Bywgraffiadau golygu

  • Israel Chalfen, Paul Celan: A Biography of His Youth, cyf. Maximilian Bleyleben (Efrog Newydd, 1991)
  • John Felstiner, Paul Celan: Poet, Survivor, Jew (Yale University Press, 1995)
  • Jean Daive, Under The Dome: Walks with Paul Celan, cyf. Rosmarie Waldrop (Providence, RI, 2009)

Recordiadau golygu

  • Recordiaid gan paul Celan ar Youtube. http://www.youtube.com/watch?v=gVwLqEHDCQE
  • Ich hörte sagen, readings of his original compositions
  • Gedichte, readings of his translations of Osip Mandelstam and Sergei Yesenin
  • Six Celan Songs, texts of his poems "Chanson einer Dame im Schatten", "Es war Erde in ihnen", "Psalm", "Corona", "Nächtlich geschürzt", "Blume", sung by Ute Lemper, set to music by Michael Nyman
  • Tenebrae (Nah sind wir, Herr) from Drei Gedichte von Paul Celan (1998) of Marcus Ludwig, sung by the ensemble amarcord
  • Einmal (from Atemwende), Zähle die Mandeln (from Mohn und Gedächtnis), Psalm (from Die Niemandsrose), set to music by Giya Kancheli as parts II - IV of Exil, sung by Maacha Deubner, ECM (1995)

Ffynonellau golygu

Selected multimedia presentations