Isaac Orobio de Castro
Athronydd, ffisigwr, ac apolegwr Iddewig, a anwyd yn Bragança, Portiwgal oedd Balthazar (Isaac) Orobio de Castro (oddeutu 1617 – 7 Tachwedd 1687).
Isaac Orobio de Castro | |
---|---|
Ganwyd | 1617 Bragança |
Bu farw | 7 Tachwedd 1687 Amsterdam |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Teyrnas Portiwgal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, meddyg, diffynnydd, llenor, academydd |
Cyflogwr | |
Llinach | De Castro family |
Bywyd
golyguTra'r oedd efe'n blentyn, aeth ag ef i Seville gan ei rieni, a oedd yn Iddewon cudd. Astudiodd athroniaeth yn Alcalá de Henares a daeth tyn athro metaffiseg ym Mhrifysgol Salamanca. Ar ôl hynny, ymroddodd ei hunan i astudio meddygaeth, a daeth yn ymarferydd poblogaidd yn Seville, ac yn ffisigwr cyffredin i ddug Medina-Celi.
Pan oedd yn briod ac yn dad i'r teulu, condemniwyd De Castro i'r Chwilys yn ymlynwr Iddewiaeth. Gwrthododd y peth lawer gwaith, ac o'r herwydd, rhyddhawyd ef, ond gorfodwyd iddo adael Sbaen ac i wisgo'r sambenito, neu ddilledyn edifeiriol, am gyfnod o ddwy flynedd. Aeth, felly, i Doulouse, lle daeth yn broffeswr meddygaeth yn y brifysgol yno, ac ar yr un adeg, cafodd y teitl o "councilor" gan Louis XIV; ond oherwydd roedd yn ofni rhagrith, aeth ef i Amsterdam tua 1666. Tra iddo fod yno, gwnaeth gyffes gyhoeddus ei fod yn Iddew, ac ers hynny, galwodd ei hunan yn "Isaac." Yno, parhaodd de Castro ymarfer meddygaeth, a daeth yn enwog o'i herwydd yn dra chyflym, gan gael ei ethol yn Ddirectoire cynulleidfa Sbaen-Portiwgal a sawl academi barddoniaeth eraill. Bu farw yn Amsterdam. Bu farw Esther, ei wraig, ar 5 Gorffennaf 1712.
Cyfeiriadau
golygu- Kaplan, Yosef From Christianity to Judaism. The Story of Isaac Orobio de Castro Littman Library of Jewish Civilization, 2004 (ISBN 1-904113-14-1)