Ivor Davies (arlunydd)

arlunydd Cymreig

Arlunydd o Gymro yw Ivor Davies MBE (ganwyd Tachwedd 1935). Ar hyn o bryd mae'n byw ac yn gweithio ym Mhenarth.[1]

Ivor Davies
GanwydTachwedd 1935 Edit this on Wikidata
Treharris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur, MBE Edit this on Wikidata

Ganed Davies yn Nhreharris. Yn fachgen aeth Davies i Ysgol Sir Penarth. Astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd a Choleg Celf Abertawe rhwng 1952 a 1957, ac yna o 1959 i 1961 astudiodd ym Mhrifysgol Lausanne yn y Swistir. Dechreuodd ddysgu ym Mhrifysgol Cymru cyn symud ymlaen i Brifysgol Caeredin, lle cwblhaodd PhD ar yr avant-garde yn Rwsia.[2] Ymddeolodd Davies o ddysgu yng Ngholeg Addysg Uwch Gwent ym 1988.[1][3][4]

Etholwyd ef yn is-lywydd yr Academi Frenhinol Cymreig yn 1995 [3] ac mae'n aelod o'r Grŵp Cymreig.[5] Cafodd MBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2007.[6] Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002 enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain.[7][8][9]

Mae Davies yn angerddol dros ddiwylliant, iaith a gwleidyddiaeth Cymru, sy'n ysbrydoli ei waith celf. Ers nifer o flynyddoedd mae wedi noddi Gwobr Ifor Davies yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, am waith celf "sy'n cyfleu ysbryd gweithredoedd yn y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru".[10]

Roedd gweithiau cynnar Davies yn y 1960au yn defnyddio ffrwydron fel mynegiant o natur ddinistriol cymdeithas. Cymerodd Davies ran yn Symposiwm Dinistrio mewn Celf yn Llundain yn 1966.[1][3][4] Mae ei waith mwy diweddar yn cynnwys paentio a gosodiadau; mae hefyd wedi dylunio a gosod brithwaith o Ddewi Sant yn Eglwys Gadeiriol Westminster.[11][12]

Agorodd arddangosfa yn edrych yn ôl ei waith o’r 1940au ymlaen, Ivor Davies: Silent Explosion, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2015. Hon oedd yr arddangosfa fwyaf, a oedd yn ymroddedig i waith un artist cyfoes, a gynhaliwyd erioed yng Nghymru.[13]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Ivor Davies". BBC. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  2. Davies, Ivor (1975) (yn en). Certain aspects of art and theory in Russia from 1905 to 1924 in their relationship to the development of avant-garde art and ideas in the West. https://era.ed.ac.uk/handle/1842/33563.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Ivor Davies". Rcaconwy.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2015. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  4. 4.0 4.1 "Byd o Liw". S4C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2013. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  5. "Ivor Davies". The Welsh Group. 2016. Cyrchwyd 10 Mawrth 2016.
  6. "Knights Bachelor" (PDF). BBC News. 28 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  7. "Ivor Davies to open Y Lle Celf at the Vale of Glamorgan Eisteddfod | The National Eisteddfod of Wales". Eisteddfod.org.uk. 11 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mawrth 2012. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  8. "UK | Eisteddfod art turns political". BBC News. 4 Awst 2002. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  9. "The Welsh Group – Ivor Davies". thewelshgroup-art.com. Cyrchwyd 9 Ionawr 2015.
  10. "Visual Arts Exhibition, Y Lle Celf at Blaenau Gwent" (PDF). 15 Hydref 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 5 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  11. Germaine Greer (19 September 2010). "Catholic art was once the domain of Titian. Now, we get Susan Boyle | Art and design". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  12. "CatholicHerald.co.uk » Pope to bless mosaic with holy water from Wales". catholicherald.co.uk. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  13. "Ivor Daves: Silent Explosion At National Museum Cardiff", CCQ, 13 Tachwedd 2015, http://ccqmagazine.com/ivor-davies-silent-explosion-national-museum-cardiff/, adalwyd 13 Tachwedd 2015

Cyfeiriadau cyhoeddiadau

  • Certain Welsh Artists by Iwan Bala. Cyhoeddwr: Seren (1 Gorffennaf 1999); (yn cynnwys llawer o gyfeiriadau a darluniau o waith yr arlunydd ar dudalennau amrywiol drwy'r llyfr). [13]
  • Stephen Bann – “Ivor Davies – Gwaith Diweddar”, (catalog teithiol), Cyngor Sir Clwyd (1991).
  • Ivor Davies – “Nodiadau tuag at Ddiffiniad yr Artist: Ivor Davies yn archwilio gwreiddiau cynhenid ei waith’, Planet – The Welsh Internationalist Magazine, Rhif 106 tt.40–48 (1994).
  • Jan Morris ac Ivor Davies – “Ivor Davies – Chwedlau o’r Llyfr Gwyn”, (catalog teithiol) Wolseley Fine Arts Ltd., Llundain (1998).
  • Ivor Davies, 'Gwleidyddiaeth y Dirwedd Cambriaidd Pictiwrésg' (hanes byr a chefndir bywyd yr arlunydd), yn City Scape & Land Shape, symposiwm; cyhoeddwyd gan Goleg Celf a Dylunio Cumbria, tt. 1–20 (2001).
  • Artist Cymreig yn Siarad" - cyfweliad gan Tony Curtis, (Seren, 2000)
  • Roms, Heike. Ffrwydrad Tawel: Ivor Davies a Dinistrio mewn Celf. Llundain: Papurau Achlysurol, 2015ISBN 978-0-9929039-3-0

Dolenni Allanol

golygu