Iwffoleg yw'r astudiaeth o adroddiadau, cofnodion gweledol, tystiolaeth ffisegol honedig, a ffenomenau eraill sy'n gysylltiedig â phethau hedegog (iwffo neu UFO). Mae adroddiadau iwffo wedi bod yn destun ymchwiliadau amrywiol dros y blynyddoedd gan lywodraethau, grwpiau annibynnol, a gwyddonwyr. Fodd bynnag, nid yw'r maes iwffoleg wedi cael ei chroesawu gan y byd academaidd ac yn cael ei ystyried yn ffugwyddoniaeth gan y gymuned wyddonol.

Iwffo tybiedig yn Passaic, New Jersey.

Cefndir hanesyddol

golygu
 
Mae swyddog Llu Awyr Sweden yn chwilio am "roced ysbryd" yn Lake Kölmjärv, Norrland, Sweden, ym mis Gorffennaf 1946.

Mae gan fytholeg UFO fodern tair gwreiddyn: "awyrlongau dirgel" a adroddwyd ym mhapurau newydd gorllewin yr Unol Daleithiau ar ddiwedd y 19eg ganrif, "foo fighters" a adroddwyd gan awyrenwyr y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chipolwg "soser hedfan" Kenneth Arnold yn agos i Mt. Rainier, Washington ar 24 Fehefin 1947.[1] Doedd dim llawer o adroddiadau UFO yr amser hwn o'i gymharu â'r cyfnod ar ôl y rhyfel: mae achosion nodedig yn cynnwys adroddiadau am "ehediaid ysbryd" yn Ewrop a Gogledd America yn ystod y 1930au, a nifer o adroddiadau "rocedi ysbryd" yn Sgandinafia (Sweden yn bennaf) rhwng Mai a Rhagfyr 1946.[2] Daeth cysyniad soseri hedfan i'r cyhoedd yn dilyn cyhoeddusrwydd y cyfryngau ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au yn dilyn y cipolwg Arnold.[3]

Wrth i ddiddordeb y cyhoedd mewn iwffos dyfu, ynghyd â nifer o adroddiadau amdanynt, dechreuodd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau gymryd sylw o'r ffenomen. Mae cynnydd diddordeb mewn iwffos o'r cyfnod cynnar ar ôl y rhyfel yn cyd-fynd â gwaethygiad y Rhyfel Oer a'r Rhyfel Corea.[1] Roedd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn ofni bod awyrennau cudd yr Undeb Sofietaidd, a ddatblygwyd o bosibl o dechnoleg wedi ei ddwyn o'r Almaen, y tu ôl i'r hyn a adroddwyd.[4] Os oedd hwn yn wir, roedd y grefft a achosodd y cipolygon felly o bwys i ddiogelwch cenedlaethol[5] ac roedd angen ymchwiliad systematig. Erbyn 1952 lleihaodd diddordeb swyddogol llywodraeth yr UD mewn iwffos wrth i'r prosiectau a oedd yn ymchwilio i mewn iddynt (Sign a Grudge) dod i ben, ac i Banel Robertson y CIA casglu nad oedd adroddiadau iwffo yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.[6] Daeth ymchwil swyddogol y llywodraeth i ben pan gyhoeddwyd adroddiad Pwyllgor Condon ym 1969, gyda'r casgliad nad oedd astudiaeth iwffos yr 21 mlynedd flaenorol wedi cyflawni fawr ddim, a bod astudiaeth bellach o iwffos yn ddiangen.

Wrth i lywodraeth yr UD roi'r gorau yn swyddogol i astudio cipolygon iwffos, gwnaeth yr un peth digwydd ym mwyafrif o lywodraethau'r byd. Eithriad nodedig yw Ffrainc, sy'n dal i gynnal y GEIPAN,[7] a elwid gynt yn GEPAN (1977-1988) a SEPRA (1988-2004), uned o dan Asiantaeth Ofod Ffrainc CNES. Yn ystod y Rhyfel Oer, casglodd llywodraethau Prydain,[8] Canada,[9] Denmarc,[10] Yr Eidal,[11] a Sweden[12] adroddiadau o gipolygon iwffos. Peidiodd Weinyddiaeth Amddiffyn Prydain â derbyn unrhyw adroddiadau newydd o 2010 ymlaen.[13]

Statws fel maes

golygu

Yn gyffredinol, nid yw'r byd academaidd wedi derbyn iwffoleg fel maes gwyddonol,[14][15] er oedd iwffos yn destun astudiaethau gwyddonol ar raddfa fawr yn ystod diwedd y 1940au a dechrau'r 1950au. Oherwydd diffyg derbyn iwffoleg gan y byd academaidd, gall unrhyw un honni eu bod yn "ymchwilwyr iwffo", heb adeiladu consensws gwyddonol nag adolygiad cymheiriaid (peer review). Hyd yn oed ymhlith ymdrechion ymchwil iwffo difrifol wyddonol, yn aml ymchwilwyr amatur sy'n casglu'r data.

Ymhlith y gwyddonwyr enwog sydd wedi dangos diddordeb yn ffenomen iwffo yw'r ffisegydd o Stanford Peter A. Sturrock,[16] y seryddwr J. Allen Hynek,[17] y gwyddonydd cyfrifiadurol a seryddwr Jacques F. Vallée,[18] a'r meteorolegydd o Brifysgol Arizona James E McDonald.[19]

Mae ymchwil wyddonol iwffos yn dioddef o'r ffaith nad yw'r ffenomenau sy'n cael eu harsylwi fel arfer yn gwneud ymddangosiadau rhagweladwy ar amser ac mewn lle yn gyfleus i'r ymchwilydd.[20] Dadleua'r iwffolegydd Diana Palmer Hoyt: "Mae'r broblem iwffoleg yn arddangos problemau yn agosach i feteoroleg na ffiseg. Mae'r ffenomena sy'n cael eu harsylwi yn digwydd yn anaml, nad yw'n ailgynhyrchiadwy, ac adnabyddir hwy trwy gasglu data'n ystadegol. Nid yw'n arbrofion y gellir eu hailgynhyrchu mewn labordy o dan amodau rheoledig."[21]

Ar y llaw arall, mae amheuwyr wedi dadlau nad yw iwffos yn broblem wyddonol o gwbl, gan nad oes tystiolaeth gorfforol bendant i'w hastudio.[15][20] Dadleua Barry Markovsky, ar ôl iddynt gael eu harchwilio gan ymchwilwyr cymwys, fod gan fwyafrif o'r hyn a welwyd yn iwffo esboniadau daearol pob-dydd.[22] Dywedodd y seryddwr Carl Sagan am gipolygon iwffos, "Mae'r achosion dibynadwy yn anniddorol ac mae'r achosion diddorol yn annibynadwy. Yn anffodus nid oes unrhyw achosion sy'n ddibynadwy ac yn ddiddorol."[23]

Mae beirniadaeth wyddonol wedi galw iwffoleg yn ffugwyddoniaeth rannol[24] neu ffugwyddoniaeth llawn[25][26]. Mae nifer o iwffolegwyr yn gwrthod y feirniadaeth hon.[27]

Sefydliadau iwffo

golygu
  • Unol Daleithiau: Yn yr UD, mae cannoedd o grwpiau sydd â diddordeb yn iwffos, ond ychydig ohonynt sydd ag amlygrwydd yn seiliedig ar eu hirhoedledd, eu maint, a'u hymglymiad gydag ymchwilwyr â chymwysterau gwyddonol.[28] Y grŵp iwffo arwyddocaol cyntaf yn yr UD oedd y Sefydliad Ymchwil Ffenomena Awyrol (APRO), a ffurfiwyd ym 1952 gan Coral a James Lorenzen. Caeodd y sefydliad ym 1988. Ar un adeg y sefydliad mwyaf yn y wlad oedd y Pwyllgor Ymchwiliadau Cenedlaethol ar Ffenomena Awyrol (NICAP), a ffurfiodd ym 1957 ac a gaeodd yn y 1970au. Y ddau brif grŵp ymchwilio iwffos sy'n weithredol heddiw yw'r Rhwydwaith Cydfuddiannol Iwffo (MUFON), a sefydlwyd ym 1969, a'r Ganolfan Astudiaethau Iwffo (CUFOS), a sefydlwyd ym 1973 gan J. Allen Hynek.[28] Mae CUFOS wedi ceisio cyfyngu ei aelodaeth i ymchwilwyr dilys sefydledig yn unig, ond prin yw'r derbyniad academaidd. Mae Canolfan Adrodd Genedlaethol Iwffo yn cymryd adroddiadau iwffo, ac wedi bod ar waith ers 1974.[29]
  • Y Deyrnas Unedig: Cymdeithas Ymchwil Iwffo Prydain (BUFORA) yw'r hynaf o sefydliadau gweithredol iwffo Prydain.[30] Mae ganddo wreiddiau yn y Gymdeithas Ymchwil Iwffo Llundain, a sefydlwyd ym 1959, a unodd â Chymdeithas Iwffo Prydain (BUFOA) i ffurfio BUFORA ym 1964.
  • Awstralia: Biwro Soser Hedfan Awstralia (AFSB) a Chymdeithas Ymchwil Soser Hedfan Awstralia (AFSRS) oedd y grwpiau iwffo cynharaf a sefydlwyd yn Awstralia, gyda’r ddau yn cael eu sefydlu yn gynnar yn y 1950au.[31] Sefydlwyd Canolfan Astudiaethau Iwffo Awstralia (ACUFOS) ym 1974 gyda chysylltiadau â CUFOS yn America.[32] Mae grwpiau UFO Awstralaidd eraill sy'n weithredol ar hyn o bryd yn cynnwys Cymdeithas Ymchwil Iwffo Victoria (VUFORS), Rhwydwaith Ymchwil Iwffo Awstralia (AUFORN),[33] ac Ymchwil Iwffo Queensland (UFORQ).[34]
  • Y Swistir: Sefydliad di-elw yw'r Freie Interessengemeinschaft für Grenz- und Geisteswissenschaften und Ufologiestudien (Cymuned Rydd o Ddiddordebau ar gyfer y Gwyddorau Ffiniol ac Ysbrydol ac Astudiaethau Iwffolegol) (FIGU), sy'n talu treth. Sefydlwyd y sefydliad hwn gan Eduard Albert Meier (Billy Meier) ym 1996 gyda'i bencadlys wedi'i leoli yn Schmidrüti, y Swistir.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Brake, Mark (June 2006). "On the plurality of inhabited worlds;a brief history of extraterrestrialism". International Journal of Astrobiology 5 (2): 104. Bibcode 2006IJAsB...5...99B. doi:10.1017/S1473550406002989.
  2. Denzler, Brenda (2003). The lure of the edge: scientific passions, religious beliefs, and the pursuit of UFOs. University of California Press. tt. 6–7. ISBN 0-520-23905-9.
  3. Denzler (2003), p. 9
  4. Schulgen, George (October 28, 1947). "Schulgen Memo". Cyrchwyd May 3, 2010. the object sighted is being assumed to be a manned aircraft, of Russian origin, and based on the perspective thinking and actual accomplishments of the Germans.
  5. "The Air Force Intelligence Report". Cyrchwyd May 3, 2010. To implement this policy it was directed that Hq, Air Material Command set up a project with the purpose of collecting, collating, evaluating, and distributing to interested government agencies and contractors, all information concerning sightings and phenomena in the atmosphere which could be construed to be of concern to the national security.
  6. Haines, Gerald K. (April 14, 2007). "CIA's Role in the Study of UFOs, 1947-90". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-01. Cyrchwyd May 3, 2010.
  7. GEIPAN stands for Groupe d'Études et d'Informations sur les Phénomènes Aérospatiaux Non-identifiés ("unidentified aerospace phenomenon research and information group")
  8. "UFOs". nationalarchives.gov.uk.
  9. "Archived – Canada's UFOs: The Search for the Unknown – Library and Archives Canada – Archive 蒃 – Le phénomène des ovnis au Canada – Bibliothèque et Archives Canada". collectionscanada.gc.ca.
  10. "Secret UFO archives opened". The Copenhagen Post. 29 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-03. Cyrchwyd 3 Mai 2010.
  11. Italian Air Force UFO site (in Italian)
  12. "För insyn: 18 000 svenska UFO-rapporter". Expressen (yn Swedish). May 6, 2009. Cyrchwyd May 3, 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
  13. "UFO reports to be destroyed in future by MoD". Telegraph. London. 28 Chwefror 2010. Cyrchwyd 3 Mai 2010.
  14. Denzler (2003), t. 69
  15. 15.0 15.1 Why SETI Is Science and UFOlogy Is Not – A Space Science Perspective on Boundaries, Mark Moldwin, 2004
  16. Sturrock, Peter A. (2000). The UFO Enigma: A New Review of the Physical Evidence. Aspect Books. ISBN 0-446-67709-4.
  17. CUFOS. "Center for UFO Studies". cufos.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1997-10-21. Cyrchwyd 2019-11-26.
  18. Vallee, Jacques (1965). Anatomy of a phenomenon: unidentified objects in space – a scientific appraisal. NTC/Contemporary Publishing. ISBN 978-0809298884.
  19. McDonald, James. E. (1968). Statement on Unidentified Flying Objects submitted to the House Committee on Science and Astronautics at July 29, 1968, Symposium on Unidentified Flying Objects, Rayburn Bldg., Washington, D.D.
  20. 20.0 20.1 Denzler (2003), p. 35
  21. Hoyt, Diana Palmer (2000-04-20). UFOCRITIQUE: UFO's, Social Intelligence and the Condon Committees. Master's Thesis. Virginia Polytechnic Institute. p. 13. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2007-03-17. https://web.archive.org/web/20070317042001/http://scholar.lib.vt.edu/theses/available/etd-05082000-09580026/unrestricted/UFOCRITIQUE.pdf. Adalwyd 2007-05-25.
  22. Markovsky B., "UFOs", in The Skeptic's Encyclopedia of Pseudoscience, edited by Michael Shermer, 2002 Skeptics Society, p260
  23. Sagan, Carl (1975). Other Worlds. Bantam. t. 113. ISBN 0-552-66439-1.
  24. Tuomela, Raimo (1985). Science, action, and reality. Springer. t. 234. ISBN 90-277-2098-3.
  25. Feist, Gregory J. (2006). The psychology of science and the origins of the scientific mind. Yale University Press. t. 219. ISBN 0-300-11074-X.
  26. Restivo, Sal P. (2005). Science, technology, and society: an encyclopedia. Oxford University Press US. t. 176. ISBN 0-19-514193-8.
  27. Friedman, Stanton T. (2009-05-30). Pseudo-Science of Anti-Ufology. The UFO Chronicles. http://www.theufochronicles.com/2009/05/pseudo-science-of-anti-ufology.html. Adalwyd 2010-05-03.
  28. 28.0 28.1 Markovsky (2002) p. 270
  29. "The National UFO Reporting Center, Information/General (No page title at top)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-08. Cyrchwyd 4 Chwefror 2013.
  30. "About BUFORA". BUFORA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2009. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  31. "The History of VUFORS". VUFORS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-22. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  32. "Australian Centre for UFO Studies". ACUFOS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2009. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  33. "Australian UFO Research Network". AUFORN. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  34. "UFO Research Queenslandk". FORQ. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-06. Cyrchwyd 6 Mai 2010.