Jac Morgan
Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol o Gymru yw Jac Morgan (ganwyd 21 Ionawr 2000). Mae Morgan yn chwarae yn y rheng ôl. Ers 2021 mae'n chwarae i'r Gweilch.[1][2]
Jac Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 2000 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Cwmtwrch RFC, Amman United RFC, Y Scarlets, Clwb Rygbi Aberafan, Wales national under-18 rugby union team, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Gweilch, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | blaenasgellwr, Wythwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar
golyguGaned Morgan yn Sgeti, Abertawe ac fe'i magwyd ym Mrynaman. Aeth i Ysgol Dyffryn Aman.[3] Rhoddodd y gorau i brentisiaeth peirianneg fecanyddol er mwyn dilyn gyrfa broffesiynol yn chwarae rygbi'r undeb.[4]
Gyrfa clwb
golyguCododd Morgan drwy academi’r Scarlets a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gêm Challenge Cup gyda Gwyddelod Llundain ym mis Tachwedd 2019. Sgoriodd Morgan ei gais proffesiynol cyntaf mewn gêm a gollwyd yn erbyn Ulster yn y Pro 14.[5]
Ar ôl dychwelyd o anaf i’w ben-glin ym mis Chwefror, croesodd Morgan y linell am ddau gais mewn gêm gyfartal yn erbyn Benetton, cyn gwneud 25 tacl i helpu’r Scarlets hawlio buddugoliaeth hollbwysig dros Gaeredin. O ganlyniad i hyn cafodd Morgan ei ethol yn Chwaraewr y Mis i'r Scarlets ar gyfer mis Chwefror.[6]
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd y byddai Morgan yn ymuno â thîm y Gweilch, ar ôl i’w gytundeb ddod i ben.[7]
Dechreuodd ei yrfa yn y Gweilch yn wych, gan dderbyn gwobr gŵr y gêm yn eu buddugoliaeth 18-10 dros Munster ar 23 Hydref 2021.[8] Ni chafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru yng nghyfres brawf yr Hydref, er gwaethaf cydnabyddiaeth gan y wasg ac arbenigwyr fel ei gilydd.[9]
Cafodd Morgan ei enwi’n ddyn y gêm ar 20 Ionawr 2023, gan sgorio cais wedi 88 munud wrth i’r Gweilch guro Leicester Tigers yn Welford Road, gan sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Pencampwyr 2022–23.[10]
Gall Morgan chwarae ar yr ochr ddall, rhif wyth, a blaenasgellwr ochr agored.[4] Mae'n gymharol fach o'i gymharu â'r mwyafrif,[11] ond nid pob un,[12] o'r chwaraewyr rhyngwladol gorau yn y safleoedd hyn.
Gyrfa ryngwladol
golyguYm Mhencampwriaeth Dan 20 y Chwe Gwlad 2019-20 bu’n gapten ar Gymru[13] a chyflawnodd fwy o adfeddiannu nag unrhyw chwaraewr arall yn y twrnamaint hwn.[14] Cafodd ei alw i garfan hŷn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022.[15]
Gwnaeth Morgan ei ymddangosiad cyntaf dros dîm hŷn Cymru ar 12 Chwefror 2022 yn y fuddugoliaeth 20-17 yn erbyn yr Alban.[16]
Mewn penderfyniad dadleuol cafodd Morgan ei ollwng gan hyfforddwr Cymru Wayne Pivac, cyn eu taith 2022 i Dde Affrica.[17]
Yn sgil perfformiadau cyson i’r Gweilch cafodd ei alw’n ôl i garfan Cymru ar gyfer gemau rygbi’r undeb rhyngwladol diwedd 2022. Sgoriodd Morgan bedwar cais mewn dwy gêm, gan ennill clod gan y wasg er gwaethaf cyfres wael i'r tîm.[18]
Cadwodd Morgan ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2023.[19] Dangosodd ei allu amryddawn yn gynnar yn y twrnamaint, gan ddechrau’r gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon fel blaenasgellwr ochr dall, cyn symud i rif wyth yn y gêm ganlynol yn erbyn yr Alban.[20][21]
Ceisiau rhyngwladol
golyguCais | Gwrthwynebydd | Lleoliad | Stadiwm | Cystadleuaeth | Dyddiad | Canlyniad |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | Georgia | Caerdydd, Cymru | Stadiwm y Mileniwm | 2022 Gemau Rhyngwladol yr Hydref | Tachwedd 19, 2022 | Colled |
2 | ||||||
3 | Awstralia | Caerdydd, Cymru | Stadiwm y Mileniwm | 2022 Gemau Rhyngwladol yr Hydref | Tachwedd 26, 2022 | Colled |
4 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Scarlets Academy". scarlets.wales (yn Saesneg). 5 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-12. Cyrchwyd 5 Ionawr 2020.
- ↑ "Jac Morgan". itsrugby.co.uk (yn Saesneg). 5 Ionawr 2020.
- ↑ "Amman Valley flanker to start for Wales in Six Nations opener". South Wales Guardian (yn Saesneg). 2023-01-31. Cyrchwyd 2023-08-03.
- ↑ 4.0 4.1 Orders, Mark (16 Tachwedd 2020). "The 'unbelievable' performance from a young Welsh rugby machine". WalesOnline (yn Saesneg).
- ↑ "Ulster rack up bonus point over Scarlets in game of two halves at Kingspan". Belfasttelegraph (yn Saesneg).
- ↑ "Jac voted Scarlets player of the month for February". Scarlets Rugby.
- ↑ "Ospreys confirm Morgan signing". BBC Sport (yn Saesneg).
- ↑ "Amman Valley man Jac delighted to be man of the match against Munster". South Wales Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
- ↑ James, Ben (2021-10-14). "Jac Morgan and Tommy Reffell told they don't suit Wales' style of play". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
- ↑ "Ospreys stun Leicester in dramatic fashion - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.
- ↑ e.g. Sam Cane, Tom Curry, Sam Underhill, Jerome Kaino
- ↑ e.g. Hamish Watson
- ↑ "Under-20s Six Nations: Wales 7-17 Italy". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). BBC. 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 10 Ebrill 2020.
Scarlets flanker Jac Morgan captained Wales Under-20s against Italy (picture caption)
- ↑ "Rising Stars - Welsh Wrecking Ball, Jac Morgan". www.ultimaterugby.com.
- ↑ "Dan Biggar: Wales name Lions fly-half as captain for 2022 Six Nations" (yn Saesneg). BBC. 18 Ionawr 2022. Cyrchwyd 3 Chwefror 2022.
- ↑ "Biggar leads Wales to win over Scotland". BBC Sport (yn Saesneg).
- ↑ "Ospreys surprised by Morgan omission". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-20.
- ↑ Orders, Mark (2022-11-26). "Wales player ratings as Jac a 'one-man wrecking machine' but others disappoint". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-20.
- ↑ "Owens captains new 37-man Wales squad - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). 2023-01-17. Cyrchwyd 2023-01-23.
- ↑ "Ireland cruise to Six Nations win over Wales". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-12.
- ↑ "Scotland blow away Wales to end Gatland hoodoo". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-12.