Jac y Jyngl (panto)
(Ailgyfeiriad o Jac Y Jyngl (panto))
Pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru o 1977/78 yw Jac y Jyngl. Dyma'r seithfed panto ar gyfer plant Cymru, a gyflwynwyd yn flynyddol gan Cwmni Theatr Cymru ers Mawredd Mawr ym 1971.
Dyddiad cynharaf | 1977 |
---|---|
Awdur | Wilbert Lloyd Roberts |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | heb ei chyhoeddi |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Cyfansoddwr | Dilwyn Roberts |
Disgrifiad byr
golyguSioe gerddorol gomig wedi'i seilio ar stori Jack And The Beanstalk.
Cefndir
golyguDilwyn Roberts, cyfansoddwr a cyfarwyddwr cerdd y panto, sy'n hel atgofion ar ei wefan : "Cefais alwad arall gan Wilbert Lloyd Roberts. Roedd Cwmni Theatr Cymru eisiau i mi ysgrifennu’r caneuon ar gyfer eu panto nesaf, Jac y Jyngl, roedd yn seiliedig ar stori Jack and the Beanstalk", ychwanegodd.[1]
Cymeriadau
golygu- Jac [2]
- Blodwen Taibach
- Syr Powys ap Tudno Le Grand
- Hawys
- Hywel
Cynyrchiadau nodedig
golygu- Jac - Mei Jones
- Blodwen Taibach - Wyn Bowen Harris
- Syr Powys ap Tudno Le Grand - Cefin Roberts
- Hawys - Nia Ceidiog
- Hywel - Valmai Jones
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979)". Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
- ↑ "Pantos Cwmni Theatr Cymru". BBC Cymru Fyw. 2014-12-23. Cyrchwyd 2024-09-12.