Roedd James Alfred Bevan (15 Ebrill 1858 - 3 Chwefror 1938) yn chwaraewr yn safle'r tri chwarter rhyngwladol dros Gymru a chwaraeodd rygbi i glybiau Clifton a Chasnewydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gapten rhyngwladol cyntaf Cymru, tra ym Mhrifysgol Caergrawnt.

James Bevan
Enw llawn James Alfred Bevan[1]
Dyddiad geni (1858-04-15)15 Ebrill 1858
Man geni St Kilda, Victoria, Awstralia
Dyddiad marw 3 Chwefror 1938(1938-02-03) (79 oed)
Lle marw Leytonstone, Llundain
Ysgol U. Ysgol Eglwys Gadeiriol Henffordd
Prifysgol Coleg Sant Ioan, Caergrawnt
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Tri chwarter
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau

1877–1880
1882
1880–1881
Clwb Rygbi Y Fenni
Prifysgol Caergrawnt
Clwb Rygbi Clifton
Clwb Rygbi Casnewydd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1881 Cymru[2] 1 (0)

Cefndir

golygu

Ganwyd Bevan yn St Kilda, talaith Victoria, Awstralia, yn fab i Elizabeth (née Fly) a James Bevan. Roedd ei rieni yn dod o'r Grysmwnt Sir Fynwy ac wedi mynd i Victoria yn ystod y rhuthr am aur ar ddechrau'r 1850au. Roedd yn gyfaill plentyndod i Alfred Deakin, ail Brif Weinidog Awstralia; roedd eu tadau yn bartneriaid mewn busnes Coets fawr .[3] Ar 11 Ionawr 1866, bu farw rhieni Bevan pan suddodd yr SS London mewn gwynt mawr ym Mae Biscay.

Fe'i hanfonwyd yn ôl i Gymru ar ôl ddod yn amddifad i fyw gyda pherthnasau tadol. Mynychodd Ysgol Eglwys Gadeiriol Henffordd.[4]

Gyrfa rygbi

golygu

Chwaraeodd Bevan i Glwb Rygbi y Fenni [4] cyn mynychu Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, gan raddio ym 1881. Chwaraeodd Bevan i dîm Prifysgol Caergrawmt dyfarnwyd dwy Grys Glas am chwarae rygbi iddo (ym 1877 a 1880) a thra gyda Chaergrawnt cafodd ei ddewis i fod yn gapten ar y tîm cyntaf i chwarae gornest ryngwladol dros Gymru a hynny yn erbyn Lloegr.

Mynnodd yr RFU y dylid chwarae gêm Lloegr yn erbyn Cymru ar 19 Chwefror 1881. Roedd hyn yr un diwrnod ag yr oedd Abertawe yn chwarae Llanelli yng Nghastell-nedd mewn gêm gyfartal yn y rownd gynderfynol y bencampwriaeth Gymreig, gan amddifadu Cymru o sawl chwaraewr da. Hwn oedd gêm ryngwladol gyntaf Cymru, a drefnwyd cyn sefydlu Undeb Rygbi Cymru. Nid oedd y chwaraewyr erioed wedi chwarae gyda'i gilydd o'r blaen, er i un chwaraewr, yr Uwchgapten Richard Summers, gael ei ddewis i Gymru ar ei berfformiadau ychydig flynyddoedd ynghynt ar gyfer ei ysgol, Coleg Cheltenham, mewn gemau yn erbyn Caerdydd a Chasnewydd. Ni anfonwyd unrhyw wahoddiadau ffurfiol i chwaraewyr i fod yn rhan o XV Cymru. Methodd dau o'r rhai y disgwylid iddynt ymddangos, felly galwyd ar wylwyr, israddedigion prifysgol a dynion â chysylltiadau tila â Chymru, a oedd wedi teithio i Lundain i weld yr ornest, i chwarae dros Gymru.

Roedd yn golled waradwyddus i dîm Cymru ac ni chwaraeodd Bevan i Gymru byth eto (o dan werthoedd sgorio modern collodd Cymru 82-0). Mis ar ôl y gêm sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru yng Ngwesty'r Castell, Castell-nedd ar 12 Mawrth 1881.

Enwyd Tlws James Bevan er anrhydedd iddo i ddathlu 100 mlynedd o Rygbi Prawf yng Nghymru

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae

golygu

Cymru [5]

Gyrfa fel clerigwyr

golygu

Yn ddiweddarach daeth Bevan yn glerigwr Anglicanaidd. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym 1888 ac yn offeiriad ym 1889. Gwasanaethodd yn gyntaf yn Eglwys Crist, Hampstead (1888-1892) ac yn ail yn Eglwys y Drindod, Hampstead (1892-1899). Rhwng 1899 a 1936 bu'n ficer yn Eglwys San Siôr yn Great Yarmouth (Theatr San Siôr bellach).[6] Bu hefyd yn Ficer St Margaret's, Herringfleet rhwng 1906 a 1908.

Bywyd personol

golygu

Priododd ag Annie Susan Woodall ym 1882. Un o'u meibion oedd Kenneth Bevan, a ddaeth hefyd yn glerigwr, ac a aeth ymlaen i fod yn esgob cenhadol yn Tsieina. Bu farw Bevan ym 1938, yn 79 oed, yn ficerdy St Paul's, Leytonstone, lle'r oedd mab arall iddo, Ernest, yn beriglor. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Hampstead .[7]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Newport RFC player profile Archifwyd 17 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
  2. WRU player profiles Archifwyd 17 Mehefin 2008 yn y Peiriant Wayback
  3. Judith Brett (2017). The Enigmatic Mr Deakin. Text Publishing. tt. 15–22.
  4. 4.0 4.1 Smith (1980), tud. 24.
  5. Smith (1980), tud. 463.
  6. James Bevan biography Archifwyd 2021-05-11 yn y Peiriant Wayback Clifton RFC
  7. "Find a Grave: James Alfred Bevan". Cyrchwyd 22 December 2020.