John Jones, Ystrad
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).
Roedd John Jones, (15 Medi 1777 –10 Tachwedd 1842) yn wleidydd Torïaidd a Cheidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro, Bwrdeistref Caerfyrddin a Sir Gaerfyrddin ar wahanol adegau rhwng 1815 a 1842.[1][2]
John Jones, Ystrad | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1777 Llandeilo |
Bu farw | 10 Tachwedd 1842 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Jones ym 1777 yn ail fab i Thomas Jones, Ystrad a Chapeldewi ag Anna Maria (né Jones), merch John Jones, Crynfryn, Ceredigion.[3]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.
Roedd yn ddibriod, ond bu ganddo fab, Richard, o berthynas gordderch.
Gyrfa
golyguCafodd ei alw i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1803 a bu'n ymarfer y gyfraith yng nghylchdaith De Cymru.
Gyrfa Wleidyddol
golyguRoedd tad Jones yn asiant ystâd Gelli Aur, a daeth yn eiddo i'r Chwig yr Arglwydd Cawdor; gan hynny etholwyd Jones yn Faer Tref Caerfyrddin o dan nawdd Cawdor[4].
Gwrthododd Cawdor cefnogi uchelgais Jones i ddyfod yn Aelod Seneddol, felly safodd dros y Torïaid a diddordeb Arglwydd Dinefwr yn etholaeth Bwrdeistref Caerfyrddin yn etholiad 1812, ond ni fu'n llwyddiannus. Ar farwolaeth Syr Thomas Picton AS Penfro, ym mrwydr Waterloo ym 1815 llwyddodd Jones i gipio'r sedd dros y Torïaid yn yr isetholiad canlynol. Gorfodwyd Jones i ildio'r sedd i John Hensleigh Allen, ymgeisydd Cawdor, yn etholiad cyffredinol 1818 gan sefyll yn aflwyddiannus eto ym Mwrdeistref Caerfyrddin. Bu'n bwriad ganddo i sefyll eto yn etholiad 1820 ond darbwyllwyd iddo beidio, gan mae edling Cawdor, John Frederick Campbell oedd ymgeisydd y Chwigiaid ac roedd y Torïaid yn ofni y byddai ei wrthwynebu yn achosi brwydr ffyrnig dros Sir Gaerfyrddin lle'r oedd edling Dinefwr, George Rice Rice-Trevor, yn ymgeisio.
Bu farw Cawdor ym 1821 a dyrchafwyd AS Caerfyrddin i'r bendefigaeth. Yn yr isetholiad dychwelwyd Jones i San Steffan yn ddiwrthwynebiad. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiadau 1826 ac 1830.
Yn ystod etholiad cyffredinol 1831 bu terfysg yn etholaeth a bu rhaid rhoi'r gorau i'r etholiad wedi i ddim ond 6 phleidlais cael ei fwrw.[5] Cyflwynodd gwrthwynebydd Jones, John George Philipps, deiseb i'r Senedd i hawlio'r sedd, yn honni mae cefnogwyr Jones oedd wedi dechrau'r cythrwfl pan ddaeth yn amlwg bod Jones ar fin golli. Gwrthodwyd y ddeiseb a gorchymynnwyd cynnal isetholiad yn Awst 1831. Enillodd Jones yr isetholiad yn gyffyrddus ond derbyniodd anaf difrifol i'w ben wedi i un o gefnogwyr Philipps ei fwrw wrth i'r canlyniad cael ei gyhoeddi.
Yn y senedd roedd Jones yn ymddiddori yn bennaf a phynciau oedd o fudd iddo'i hun fel twrnai a pherchennog tir, megis dyfodol y llysoedd yng Nghymru a deddfau yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Roedd mor frwd dros ddiddymu'r dreth ar halen cafodd ei lysenwi yn Jones yr Halen. Roedd yn gefnogwr brwd o'r eglwys Anglicanaidd yn gwrthwynebu Anghydffurfiaeth ac yn pleidleisio yn erbyn rhoi hawliau i Gatholigion. Roedd yn gwrthwynebu'r iaith Gymraeg gan alw ar i'r ysgolion elusennol i beidio cynnal moddion i gadw'r iaith yn fyw. Roedd yn llugoer am Ddeddf Diwygio'r Senedd 1832[6], a phan gynhaliwyd etholiad cyffredinol 1832, er mwyn rhoi'r hawl i'r rhai oedd newydd dderbyn yr etholfraint trwy'r ddeddf pleidleisio, collodd ei sedd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol William Henry Yelverton. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Sir Gaerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1835 yn aflwyddiannus ac eto ym 1837 gan gipio'r sedd a gan ddal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1842
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn 66 mlwydd oed [7] a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Ewyllysodd ei ystâd i'w chwaer Mary Ann ar yr amod bod hi'n talu rhent i Richard, mab Jones; ond canfuwyd bod yr ystâd yn feth-dalu a bu'n rhaid gwerthu'r cyfan [8] er mwyn clirio'r dyledion.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ JONES, JOHN ( 1777 - 1842 ), Ystrad, gwleidydd
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales tud 48
- ↑ Encyclopædia of Heraldry, Or General Armory of England, Scotland and .Ireland - John Burke
- ↑ JONES, John (1777-1842), of Ystrad Lodge, Carm. The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales tud 56
- ↑ Matthew Cragoe, ‘Jones, John (1777–1842)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004, adalwyd 21 Ion 2017
- ↑ "Family Notices - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1842-11-22. Cyrchwyd 2017-01-21.
- ↑ "Advertising - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1843-04-21. Cyrchwyd 2017-01-21.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Picton |
Aelod Seneddol Penfro 1815 – 1818 |
Olynydd: John Hensleigh Allen |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: John Frederick Campbell |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1821 – 1832 |
Olynydd: William Henry Yelverton |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: James Hamlyn-Williams |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1837 – 1842 |
Olynydd: David Arthur Saunders Davies |