Bardd Gwyddelig yn yr ieithoedd Sgoteg a Saesneg oedd James Orr (177024 Ebrill 1816). Roedd yn un o'r weaver poets, beirdd y werin yn Wlster a gawsant eu dylanwadu gan Robert Burns. Ysgrifennodd mwy na 150 o gerddi.

James Orr
Ganwyd1770 Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 1816 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Teyrnas Iwerddon Teyrnas Iwerddon
Baner Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd James Orr ym mhlwyf Broadisland ger pentref Ballycarry, Swydd Antrim, yn nhalaith Wlster. Roedd yn unig blentyn i wëydd oedd yn berchen ar lain fach o dir. Dysgodd James ddefnyddio'r gwŷdd gan ei dad.

Presbyteriaid oedd teulu Orr, a ddisgynnant o'r ymsefydlwyr Albanaidd a wnaeth gwladychu Wlster yn nechrau'r 17g. Roedd Orr yn genedlaetholwr Gwyddelig brwd ac yn un o Gymdeithas y Gwyddelod Unedig. Cyfranodd at newyddiadur y Gwyddelod Unedig, y Northern Star, a gyhoeddwyd ym Melffast. Credoau radicalaidd a chwyldroadol oedd ganddo, a ysgogwyd gan ei brofiad o dlodi'r cefn gwlad, gwahaniaethu yn erbyn Anghydffurfwyr, a'r Deddfau Penyd yn erbyn Catholigion. Cofleidiodd werthoedd yr Oleuedigaeth megis rhyddid a democratiaeth.

Yn ystod Gwrthryfel Gwyddelig 1798, brwydrodd Orr gyda'r Gwyddelod Unedig a'r Amddiffynwyr Catholig, dan arweiniad Henry Joy McCracken, yn erbyn lluoedd Prydeinig yn Antrim ar 7 Mehefin 1798. Am ychydig wythnosau wedi methiant y frwydr honno, bu Orr, McCracken ac eraill ar ffo yng ngogledd Swydd Antrim. Dihangodd Orr i'r Unol Daleithiau am ychydig fisoedd, ac mae'n debyg iddo dreulio'i gyfnod yno yn Philadelphia.

Dychwelodd i'w gartref yn Ballycarry, ac yno bu'n barddoni ac yn gwehyddu hyd ddiwedd ei oes. Cleddir yn Hen Fynwent Templecorran ar gyrion Ballycarry. Codwyd cofeb ar ei fedd yn 1831 gan Seiri Rhyddion o gyfrinfeydd lleol.

Barddoniaeth ddethol golygu

  • "Donegore Hill"
  • "To the Potatoe"
  • "Tea"
  • "The Passengers"
  • "The Penitent"
  • "The Wanderer"
  • "The Irish Cottier's Death and Burial"

Darllen pellach golygu

  • Donald H. Akenson a W. H. Crawford, Local Poets and Social History: James Orr, Bard of Ballycarry (Belffast: Public Record Office of Northern Ireland, 1977).
  • Carol Baraniuk, James Orr: Poet and Irish Radical (Llundain: Pickering & Chatto, 2014).