The Wanderer
Cerdd yn yr iaith Sgoteg gan y bardd Gwyddelig James Orr yw "The Wanderer". Cyhoeddwyd y gerdd yn y gyfrol Poems on Various Subjects (1804), a argraffwyd gan Smith & Lyons ym Melffast.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cerdd |
---|---|
Awdur | James Orr |
Iaith | Sgoteg |
"Wha’s there?" she ax't. The wan'rer's rap
Against the pane the lassie scaur'd:
The blast that bray'd on Slimiss tap
Wad hardly let a haet be heard.
"A frien'," he cried, "for common crimes
Tost thro' the country fore and aft."
"Mair lown," quo' she – thir's woefu' times!
"The herd’s aboon me on the laft."
"I call'd," he whisper'd, "wi' a wight
"Wham aft I've help'd wi' han' an' purse;
"He wadna let me stay a' night –
"Weel! sic a heart's a greater curse:
"But Leezie's gentler. Hark that hail!
"This piercin' night is rougher far" –
"Come roun'," she said, "an' shun the gale,
"I'm gaun to slip aside the bar."
"Waes me! How wat ye're? Gie's your hat,
An' dry your face wi' something – hae.
"In sic a takin', weel I wat;
I wad preserve my greatest fae:
"We’ll mak' nae fire; the picquet bauld
Might see the light, an' may be stap;
"But I'll sit up; my bed's no cauld,
Gae till't awee an' tak' a nap.
Cerdd hawl ac ateb ydyw, ar ffurf sgwrs rhwng merch sy'n clywed mewn bwthyn a dyn sy'n chwilio am loches. Mae'n enghraifft o farddoniaeth am grwydryn, thema oedd yn boblogaidd mewn cylchgronau'r cyfnod. Mae patrwm odlau a mydr y gerdd yn debyg i gân werin. Ychwanegodd Orr nodyn at y gerdd yn dweud y dyler ei ganu i dôn yr alaw Sgoteg "Mary's Dream". Ysgrifennir yn nhafodiaith Sgoteg Wlster, a elwid yn Braid Scotch gan Orr.
Cenedlaetholwr Gwyddelig Presbyteraidd o dras Albanaidd oedd James Orr. Mae'n debyg bod y gerdd yn seiliedig ar brofiadau'r bardd tra'n cuddio am rai wythnosau ar fynydd Slemish ger Ballymena yng ngogledd Swydd Antrim, ar ffo yn sgil methiant Gwrthryfel Gwyddelig 1798. Orr oedd un o'r y Gwyddelod Unedig a frwydrodd yn erbyn y Fyddin Brydeinig yn Antrim ar 7 Mehefin 1798. Yn hanes yr Alban, wanderer oedd yr enw a roddid ar un o'r Cyfamodwyr, mudiad Presbyteraidd a gafodd ei erlid yn ystod teyrnasiadau Siarl II ac Iago VII. Mae teitl y gerdd felly yn gyfeiriad at elfennau crefyddol Gwrthryfel 1798.[2]
Mae'r ffaith bod y crwydryn yn galw'r ferch yn Leezie, boed hynny yn ei gwir enw ai peidio, yn awgrymu bod y ddau yn gyfarwydd â'i gilydd, ac o bosib bod y bwthyn ar y mynydd yn dŷ diogel ar gyfer y rhai sydd ar ffo. Mae'r ferch yn agor y drws i'r dyn, er iddo gyfaddef ei fod yn euog o dorri'r gyfraith, ac yn gwrthod cynnau tân rhag iddo dynnu sylw'r picquet (patroliwr). Mae hi'n deall felly ei fod yn sôn am wrthryfela, neu droseddau tebyg yn erbyn yr awdurdodau, ac yn fodlon ei lochesu serch hynny. Mae'r ferch hyn yn oed yn cynnig ei gwely i'r crwydryn fwrw ei flinder. Mae ei chydweithrediad yn awgrymu sefyllfa o ddrwgdeimlad rhwng y werin a'r awdurdodau, cyd-destun sy'n glir wrth ystyried profiadau'r bardd adeg Gwrthryfel 1798.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ James Orr, Poems on Various Subjects (Belffast: Smyth and Lyons, 1804), t. 151.
- ↑ Wesley Hutchinson, "A selection of Ulster-Scots writing", Études irlandaises 38-2 (2013).
- ↑ Carol Baraniuk, James Orr: Poet and Irish Radical (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2014), t. 126.