James Price William Gwynne-Holford
Roedd James Price William Gwynne-Holford (25 Tachwedd 1833 – 6 Awst 1916) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberhonddu rhwng 1870 a 1880[1]
James Price William Gwynne-Holford | |
---|---|
Ganwyd | 1833 Llansantffraed (Aberhonddu) |
Bu farw | 1916 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Gwynne-Holford yn Llansantffraed, Aberhonddu yn fab i'r Cyrnol James Price Gwynne-Holford, Neuadd Buckland a’i wraig Anna Maria Eleanor merch, Roderick Gwynne, Glebran. Bu farw’r tad ym 1844[2].
Priododd Eleanor Gordon-Canning ym 1891 yn eglwys St James, Hanover Square, Llundain[3]. Bu iddynt un ferch.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.
Gyrfa
golyguBu Gwynne-Holford yn gwasanaethu am gyfnod byr fel Cornet yng Nghatrawd y Gwaywyr. Wedi hynny bu’n cynorthwyo ei fam i redeg ystadau Buckland a’r Cilgwyn, Caerfyrddin. Etifeddodd yr ystadau ar farwolaeth ei fam ym 1888.[4]
Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Frycheiniog ym 1857.
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1870 dyrchafwyd Edward, yr Arglwydd Hyde, AS Rhyddfrydol Aberhonddu i Dŷ’r Arglwyddi. Safodd Gwynne-Holford yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo gan gipio’r sedd i’r Ceidwadwyr. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1874 ond fe’i collodd i’r Rhyddfrydwr Cyril Flower yn etholiad cyffredinol 1880[5]..
Rhwng 1888 a 1896 gwasanaethodd fel cynghorydd ar Gyngor Sir Frycheiniog.
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghrucywel yn 83 Mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys St Ffraid, Llansantffraed[6].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Debrett's House of Commons, and the judicial bench 1872 adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ "FUNERAL OF LIEUTENANT COLONEL GWYNNE HOLFORD - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1846-08-22. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "MARRIAGE OF MR GWYNNE-HOLFORD AND MISS E GORDON-CANNING - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-04-15. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ "THE LATE MR GWYNNE-HOLFORD - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1916-02-10. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 27 Awst 2017
- ↑ "THE LATE MR GWYNNE HOLFORDI - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1916-02-11. Cyrchwyd 2017-08-28.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward, yr Arglwydd Hyde |
Aelod Seneddol Aberhonddu 1870-1880 |
Olynydd: Cyril Flower |