Edward Villiers, 5ed Iarll Clarendon

cricedwr, gwleidydd (1846-1914)

Roedd Edward Hyde Villiers, 5ed Iarll Clarendon, GCB, GCVO, PC, DL (11 Chwefror 18462 Hydref 1914), a oedd yn cael ei adnabod fel yr Arglwydd Hyde rhwng 1846 a 1870, yn wleidydd Unoliaethol Rhyddfrydol Prydeinig o'r teulu Villiers. Gwasanaethodd fel Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1900 a 1905.

Edward Villiers, 5ed Iarll Clarendon
Ganwyd11 Chwefror 1846 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Watford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethcricedwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadGeorge Villiers Edit this on Wikidata
MamKatherine Grimston Edit this on Wikidata
PriodEmma Mary Augusta Hatch, Lady Caroline Agar Edit this on Wikidata
PlantGeorge Villiers, 6th Earl of Clarendon, Edith Edgcumbe, Countess Mount Edgcumbe Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cefndir ac addysg

golygu

Clarendon oedd ail fab ond hynaf i oroesi i'r gwladweinydd Rhyddfrydol amlwg George Villiers, 4ydd Iarll Clarendon a'i wraig Yr Arglwyddes Katherine Grimston, merch James Grimston, Iarll 1af Verulam. Addysgwyd ef yng Ngholeg Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.[1]

Gyrfa wleidyddol

golygu
 
Portread o Clarendon yn ei wisg fel Arglwydd Siambrlen, c.1902.

Etholwyd Clarendon i'r Senedd dros etholaeth Aberhonddu ym 1869, sedd a gadwodd tan y flwyddyn ganlynol, pan olynodd ei dad i'r iarllaeth a chymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.[2] Ym 1895 penodwyd ef yn Arglwydd preswyl yng ngweinyddiaeth Unoliaethol yr Arglwydd Salisbury, swydd a gadwodd hyd 1900, pan gafodd ei ddyrchafu'n Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd a'i dderbyn i'r Cyfrin Gyngor. Cadwodd y swydd pan ddaeth Arthur Balfour yn Brif Weinidog ym 1902. Syrthiodd y llywodraeth ym mis Rhagfyr 1905 ac nid chafodd Clarendon swydd wleidyddol arall.

Ynghyd a'i yrfa wleidyddol roedd yr Arglwydd Clarendon hefyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Hertford rhwng 1893 a 1914.

Gyrfa chwaraeon

golygu

Gwnaeth Clarendon un ymddangosiad hysbys yn chwarae criced dosbarth cyntaf [3] i Brifysgol Caergrawnt ym 1865.[4] Roedd yn fatiwr llaw dde ac yn fowliwr cyflym braich gron. Chwaraeodd pedwar o'i ewythrod James, Edward, Robert a Francis Grimston i gyd griced o'r radd flaenaf, fel y gwnaeth ei gefnder Walter Grimston. Rhwng 1890 a 1896, roedd yr Arglwydd Clarendon yn aelod o Bwyllgor Pêl-droed Clwb Chwaraeon West Hertfordshire, gan gadeirio rhai o'r cyfarfodydd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd y clwb dri Chwpan Hŷn Swydd Hertford mewn pedair blynedd, heb gystadlu yn y flwyddyn arall. Yn ddiweddarach, gelwid y tîm pêl-droed hwn yn Glwb Pêl-droed Watford.[5]

Priododd yr Arglwydd Clarendon, yn gyntaf, yr Arglwyddes Caroline Agar, merch James Agar, 3ydd Iarll Normanton, ar 6 Medi 1876. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1894 priododd yn ail, Emma Hatch, ar 5 Awst 1908. Bu iddo dau o blant o'r briodas gyntaf:

  • George Herbert Hyde Villiers, 6ed Iarll Clarendon (1877 – 1955)
  • Yr Arglwyddes Edith Villiers (1878 – 1935), priod Piers Edgcumbe, 5ed Iarll Mount Edgcumbe

Bu farw'r Arglwydd Clarendon ym mis Hydref 1914, yn 68 oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan George ei unig fab.

Anrhydeddau

golygu

Anrhydeddau Prydeinig

golygu
  • GCB : Marchog Croes Mawr yn Urdd y Baddon - 24 Hydref 1902 - a gyhoeddwyd yn rhestr Anrhydeddau'r Coroni 1902.[6] Cafodd ei urddo gan y Brenin Edward VII ym Mhalas Buckingham ar 24 Hydref 1902.[7]
  • GCVO: Marchog Croes Mawr yn Urdd Frenhinol Victoria ym 1905

Anrhydeddau tramor

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Clarendon, 5th Earl of 2nd, (Edward Hyde Villiers) (11 Feb. 1846–2 Oct. 1915)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u184693. Cyrchwyd 2020-06-19.
  2. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  3. CricketArchive record
  4. Arthur Haygarth, Scores & Biographies, Volume 9 (1865-1866), Lillywhite, 1867
  5. Phillips, Ollie (1991). The Official Centenary History of Watford FC. Watford Football Club. t. 176. ISBN 0-9509601-6-0.
  6. London Gazette rhif 27453 11 Gorffennaf 1902 adalwyd 19 Mehefin 2020
  7. The Times, Llundain; 25 Hydref 1902 "Court Circular"
  8. The Times, Llundain; Court Circular; 17 Chwefror 1900 tud 11 rhif 36068
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Howel Gwyn
Aelod Seneddol Aberhonddu
18691870
Olynydd:
James Gwynne-Holford
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
George Villiers
Iarll Clarendon
1870–1914
Olynydd:
George Villiers