Jan Baudouin de Courtenay
Ieithydd a Slafegydd o Wlad Pwyl oedd Jan Niecisław Baudouin de Courtenay (1 / 13 Mawrth 1845 - 3 Tachwedd 1929). Fe'i hadwaenir heddiw yn bennaf am ddyfeisio damcaniaeth y ffonem, term a fathwyd ganddo.
Jan Baudouin de Courtenay | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1845, 13 Mawrth 1846 Radzymin, Warsaw |
Bu farw | 3 Tachwedd 1929 Warsaw, Warsaw |
Man preswyl | St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl, Ymerodraeth Rwsia |
Addysg | doctor |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ieithydd, athro cadeiriol, Arbenigwr mewn Esperanto, ieithegydd, Slafegydd, phonetician |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Constitutional Democratic Party |
Tad | Aleksander Baudouin de Courtenay |
Priod | Baudouin de Courtenay |
Plant | Cezaria Baudouin de Courtenay Ehrenkreutz Jędrzejewiczowa, Zofia Baudouin de Courtenay |
Gwobr/au | Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, 4ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, 3ydd Dosbarth, Medal "Er cof am Deyrnasiad yr Ymerawdwr Alexander III" |
llofnod | |
Gweithiodd am ran fwyaf ei yrfa ym mhrifysgolion Ymerodraeth Rwsia, yn Kazan (1874-83), Yuryev (Tartu heddiw) (1883-93), Kraków (1893-99) a St Petersburg (1900-18). Ym 1919 dychwelodd i Wlad Pwyl, a oedd wedi ennill ei hannibyniaeth yn yr un flwyddyn, i weithio fel athro prifysgol yn Warsaw, lle gweithiodd tan ei farwolaeth ym 1929.
Cafodd ei waith ar y ffonem effaith sylweddol ar ieithyddiaeth yr ugeinfed ganrif fel sail i nifer o fframweithiau ffonolegol. Roedd ymysg y ieithyddion cyntaf i roi blaenoriaeth i ieithyddiaeth syncronig, yr astudiaeth o ieithoedd heb ystyried eu hanes, ac roedd ei waith yn ddylanwad cryf ar strwythuriaeth fel y'i datblygwyd gan Ferdinand de Saussure.