Janu Sirsasana

asana eistedd, mewn ioga

Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Janu Sirsasana (Sansgrit: जानु शीर्षासन; IAST: jānu śīrṣāsana), Pen-ar-Ben-glin. Gellir ei ddisgrifio fel asana tro ar eistedd, gan blygu ymlaen a chaiff ei ymarfer mewn llawer o ysgolion ioga modern ac fel ymarfer corff.

Janu Sirsasana
Math o gyfrwngasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit janu (जानु, jānu) sy'n golygu "pen-glin", shirsha (शीर्ष, śīrṣa) sy'n golygu "pen", ac âsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[1]

 
Janusirsasana

Mae'r ystum yn un modern, a welwyd yn gyntaf yn yr 20g.[2] Fe'i disgrifir yn Yoga Makaranda, gan Krishnamacharya (1934)[2][3] ac yng ngweithiau ei ddisgyblion, Light on Yoga gan BKS Iyengar ym 1966[4] ac Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[2][1]

Disgrifiad

golygu

Mewn safle eistedd, mae un goes yn cael ei hymestyn gyda bysedd traed yn pwyntio ar i fyny, a'r goes arall yn cael ei phlygu gyda'r pen-glin yn pwyntio i ffwrdd o'r goes syth a gwadn y droed i mewn wrth ymyl y werddyr. Mae'r torso'n troi ac yn plygu dros y goes estynedig.[4]Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. tt. 148–151. ISBN 978-1855381667.Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. pp. 148–151. ISBN 978-1855381667.</ref>[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Janu Shirshasana A". Ashtanga Yoga. Cyrchwyd 2011-04-09."Janu Shirshasana A". Ashtanga Yoga. Retrieved 2011-04-09.
  2. 2.0 2.1 2.2 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 88, 100, 102. ISBN 81-7017-389-2.
  3. Krishnamacharya, Tirunamalai (2006) [1934]. Yoga Makaranda. tt. 77–83.
  4. 4.0 4.1 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. tt. 148–151. ISBN 978-1855381667.
  5. Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. tt. 235–236. ISBN 978-81-86336-14-4.

Dolenni allanol

golygu