Jessie Penn-Lewis
Roedd Jessie Penn-Lewis (28 Chwefror 1861 – 15 Awst 1927) yn llefarydd efengylaidd o Gymru ac yn awdur nifer o weithiau Cristnogol efengylaidd. Er mwyn hybu ei gwaith crefyddol bu hi'n ymweld â Rwsia, Sgandinafia, Canada, yr Unol Daleithiau ac India. Roedd hi'n gyfaill agos i'r diwygiwr Evan Roberts.[1].
Jessie Penn-Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1861 Castell-nedd |
Bu farw | 15 Awst 1927 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, efengylwr, golygydd |
Cefndir
golyguGanwyd Jessie Elizabeth Jones yng Nghastell Nedd yn blentyn i Elias W Jones, tirfesurydd [2] a Hezeia (née Hopkins) ei wraig. Roedd y teulu yn un oedd yn driw i achos y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd y fam yn weithgar yn yr achos dirwest, ac, yn ifanc iawn, roedd Jessie yn arwain cymdeithas dirwest i'r ifanc.[3]
Priododd William Penn Lewis, mab William Lewis, peintiwr, yn Eglwys St Thomas Castell Nedd ar 15 Medi 1880 [2] ni chawsant blant. Honnir bod William yn ddisgynnydd i William Penn, sylfaenydd Pensylfania. Oherwydd gwaith symudodd y cwpl i Richmond, Surrey.
Deffroad ysbrydol
golyguYn Richmond daeth Penn-Lewis o dan ddylanwad y Parch Evan H. Hopkins, ficer Eglwys y Drindod. Dywedodd bod clywed Hopkins yn pregethu wedi arwain iddi agor ei henaid ac am y tro cyntaf i ystyried os oedd hi wedi cael buddugoliaeth dros bechod, gan ddod i'r casgliad bod hi wedi methu.[4].
Er gwaethaf teimlo nad oedd hi wedi derbyn deffroad ysbrydol digonol, dechreuodd arwain cangen Richmond o'r Young Women’s Christian Association (YWCA).
Wedi darllen llyfrau Andrew Murray Spirit of Christ a Madame Guyon Spiritual Torrents. Daeth i ddeall ei bod yn chwilio am ormod trwy ddisgwyl rhyw profiad mawr o lawnder ysbrydol. Ar 18 Mawrth 1892 mewn cerbyd rheilffordd ger Wimbledon, profodd ymdeimlad o gysegru cyflawn. Wedi hynny profodd rhyddid wrth lefaru a nerth o weddïo. Daeth y Beibl yn fyw a daeth Crist yn real.[5]
Gweinidogaeth
golyguYchydig wedi ei thröedigaeth symudodd teulu i Gaerlŷr gan fod William wedi derbyn swydd trysorydd y ddinas. Yno datblygodd ei ddiwinyddiaeth bersonol a oedd yn pwysleisio byw bywyd o hunan wadiad fel efelychiad hunanaberth y Crist croeshoeliedig. Dechreuodd mynychu cymanfaoedd efengylaidd blynyddol Keswick gan ddyfnhau ei hargyhoeddiad mae'r unig fodd o gyflawni sancteiddrwydd personol oedd trwy broses barhaus o hunan wadiad. Mynegwyd ei chredoau'n glir yn ei thraethawd The Path to Life in God (1895), y cyntaf o dros hanner cant o bamffledi hunan cyhoeddedig a chyhoeddwyd o'i chartref yng Nghaerlŷr.
Ym 1896 aeth Penn-Lewis i Göteborg, Sweden, i fynychu'r gynhadledd Lychlynnaidd cyntaf o'r YWCA. Yn y gynhadledd cyfarfu a grŵp o bendefigion o'r Ffindir a Rwsia a chafodd gwahoddiad i efengylu ymysg bonheddwyr Rwsia. Ymwelodd â St Petersburg yn flynyddol i efengylu rhwng 1897 a 1903. Wedi ennill enw da fel cennad rhyngwladol cafodd gwahoddiad i deithio yn yr Unol Daleithiau, Canada ac India.[6]
Yn India ysgrifennodd Penn-Lewis ei llyfryn mwyaf poblogaidd The Word of the Cross (1903). Llyfryn a werthodd dros filiwn o gopïau ac a gyfieithwyd i dros 100 o wahanol ieithoedd.
Perthynas ag Evan Roberts
golyguYm 1902 gofynnodd grŵp o weinidogion Cymreig i Penn-Lewis sefydlu confensiwn efengylaidd tebyg i un Keswik yng Nghymru.[7] Cynhaliwyd y Gymanfa Llandrindod cyntaf ym 1903. Un o'r rai a fu'n mynychu'r gymanfa oedd Evan Roberts.[8] Pan gychwynnodd Diwygiad 1904 - 1905 o dan arweiniad Roberts fu Penn-Lewis yn rhoi cefnogaeth frwd i'w weinidogaeth.[9][10]
Torrodd iechyd Roberts tua diwedd cyfnod y diwygiad ac aeth i fyw i gartref Penn-Lewis yng Nghaerlŷr i geisio adferiad. Bu'n byw yng nghartrefi Penn-Lewis yng Nghaerlŷr ac wedyn yn Llundain am 20 mlynedd hyd ei marwolaeth hi ym 1927.[11]
Marwolaeth
golyguBu farw o Niwmonia yn Llundain yn 66 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym Mynwent y Crynwyr, Reigate, Surrey.
Llyfryddiaeth (rhannol)
golygu- The Path to Life in God
- War on The Saints
- The Awakening in Wales & Some of the Hidden Springs
- Dirgelwch Gogoneddus
- Spiritual Warfare
- The Centrality of the Cross
- Thy Hidden Ones
- Dying to Live
- Conquest of Canaan
- Pa Fodd i Ddal i fyny Gymundeb a Duw
- Face to Face
- All Things New
- The Word of the Cross
- Story of Job
- Fruitful Living
- Life in the Spirit
- Opened Heavens
- The Cross of Calvary
- The Magna Charta of Woman
- Power for Service
- Gwasanaeth a milwriaeth ysbrydol (gyda Evan Roberts)
- War on the Saints (gyda Evan Roberts)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hayward, R. (2004, September 23). Lewis, Jessie Elizabeth Penn- (née Jessie Elizabeth Jones) (1861–1927), missioner and revivalist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 10 Ionawr 2019
- ↑ 2.0 2.1 Trawsysgrifau cofnodion priodas a gostegion St Thomas Castell Nedd 1880 Archif Morgannwg Cyf: P/76/CW/15
- ↑ Mary N. Garrard and Jessie Penn-Lewis, Mrs. Penn-Lewis: A Memoir (London: The Overcomer Book Room, 1931), 1-4.
- ↑ Jessie Penn-Lewis, The Leading of the Lord: A Spiritual Biography (Dorset, England: The Overcomer Literature Trust, 1903
- ↑ Brynmor Pierce Jones, The Trials and Triumphs of Mrs. Jessie Penn-Lewis (North Brunswick, NJ: Bridge-Logos, 1997)
- ↑ CBE International The Life and Influence of Jessie Penn-Lewis adalwyd 10 Ionawr 2019
- ↑ "Cymanfa Llandrindod ER DYFNHAU BYWYD YSBRYDOL - Y Celt". H. Evans. 1903-07-31. Cyrchwyd 2019-01-10.
- ↑ Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion Evan Roberts in Theological Contex adalwyd 10 Ionawr 2019
- ↑ "Evan Roberts - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1905-11-30. Cyrchwyd 2019-01-10.
- ↑ Jessie Penn-Lewis, The Awakening in Wales, rev. ed. (Dorset, England: The Overcomer Literature Trust, 1905, repr. Fort Washington, PA: Christian Literature Crusade, 2002), 44.
- ↑ Rees, D. (2004, September 23). Roberts, Evan John (1878-1951), preacher and miner. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 10 Ionawr 2019