Jiwbilî Arian Elisabeth II

25 mlynedd ers i'r Frenhines Elisabeth II gael ei choroni

Roedd Jiwbilî Arian Elisabeth II yn nodi 25 mlynedd ers dyfodiad y Frenhines Elisabeth II i'r orsedd y Deyrnas Unedig ar 6 Chwefror 1952. Fe'i dathlwyd gyda phartïon a gorymdeithiau ar raddfa fawr ledled y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad trwy gydol 1977, gan ddiweddu ym mis Mehefin gyda "Dyddiau'r Jiwbilî", a gynhaliwyd i gyd-fynd â Phen-blwydd Swyddogol y Frenhines . Cafodd y dyddiad pen-blwydd ei hun ei goffáu drwy wasanaethau eglwysig ar draws y wlad ar 6 Chwefror 1977, a pharhaodd y dathlu am weddill y mis. Ym mis Mawrth, dechreuwyd paratoi ar gyfer partïon mawr ym mhob un o brif ddinasoedd y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r pentrefi a'r trefi.

Ymweliadau Cenedlaethol a Rhyngwladol

golygu
 
Y Frenhines ar achlysur dadorchuddio Gardd Beraroglus i'r Deillion, Parc Haverstoe, Cleethorpes, 1977

Nid oedd unrhyw frenhines cyn Elizabeth II wedi ymweld â chymaint o'r Deyrnas Unedig mewn cyfnod mor fyr (parhaodd y teithiau dri mis). Ymwelodd y Frenhines a'i gŵr y Tywysog Philip â chyfanswm o 36 sir . Dechreuodd y daith gyda'r torfeydd mwyaf erioed yn ymgynnull i weld y Frenhines a'r Tywysog Philip yn Glasgow, yr Alban, ar 17 Mai. Ar ôl symud i Loegr (lle daeth miliwn o wylwyr i gyfarch y cwpl yn Swydd Gaerhirfryn, sef y nifer uchaf erioed) a Chymru, gorffennodd y Frenhines a'r Tywysog Philip y daith gyntaf yng Ngogledd Iwerddon .

Yn yr haf, cychwynnodd y Frenhines a'r Tywysog Philip ar ymweliad â'r Gymanwlad gan deithio i ynysoedd fel Fiji a Tonga am y tro cyntaf. Treuliasant gyfnodau hirach yn Seland Newydd ac Awstralia, gan aros am y tro olaf yn Papua Gini Newydd, cyn teithio i India'r Gorllewin a Chanada.

Dathliadau'r Jiwbilî

golygu
 
Trefnwyd partïon stryd ar draws y wlad, fel hon yn Plymouth .

Enwyd amryw o leoedd yn Llundain ar ôl y Jiwbilî. Ail-enwyd y "Fleet Line" ar y London Underground fel y Jubilee Line, gan droi'r lliw yn arian.

Mewn diwylliant poblogaidd

golygu

Anerchwyd digwyddiadau'r Jiwbilî mewn sawl cyfrwng ledled y Gymanwlad.

Roedd y Daily Mirror yn rhagweld mai "God Save the Queen" gan y band pync-roc Prydeinig y Sex Pistols fyddai'r rhif un. Fel y digwyddodd, daeth y record ddadleuol yn ail i sengl Rod Stewart yn ei bedwaredd wythnos ar y brig. Credai llawer fod y record mewn gwirionedd wedi bod yn gymwys ar gyfer y safle uchaf, ond bod y siart wedi'i rigio i atal helynt posib. Honnodd McLaren yn ddiweddarach fod CBS Records, a oedd yn dosbarthu’r ddwy sengl, wedi dweud wrtho fod y Sex Pistols mewn gwirionedd yn gwerthu mwy na Stewart. Mae tystiolaeth bod cyfarwyddeb eithriadol wedi'i chyhoeddi gan y British Phonographic Institute, a oruchwyliodd y ganolfan llunio siartiau, i eithrio gwerthiannau o siopau pendodol am yr wythnos honno'n unig. [1]

Ar y 7 o Fehefin, trefnodd rheolwr y Sex Pistols Malcolm McLaren, a’r label recordio Virgin i hwylio cwch preifat ar hyd yr afon Tafwys, a chael y Sex Pistols i berfformio wrth fynd heibio i Bier San Steffan a Thŷ’r Senedd. Daeth y digwyddiad, oedd yn gwawdio gorymdaith afon y Frenhines i ben mewn anhrefn. Gorfodwyd y gwch i'r lan, ac fe amgylchynodd yr heddlu'r lleoliad. Arestiwyd McLaren, Vivienne Westwood, a llawer o gefnogwyr y band. [2]

Roedd hyd yn oed yr opera sebon Coronation Street yn rhan o'r dathlu drwy drefnu bod stori am orymdaith gywrain ar gyfer y Jiwbilî yn rhan o'r gyfres.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Savage, Jon, England's Dreaming, pp. 364–365; Leigh, Spencer (20 February 1998). "Music: Charting the Number Ones That Somehow Got Away". The Independent. London. Cyrchwyd 18 March 2009.
  2. Savage, Jon, England's Dreaming, pp. 358–364; Strongman, Phil, Pretty Vacant, pp. 181–182.