John Ging
Cyn swyddog o fyddin Iwerddon sydd wedi gwasanaethu fel pennaeth UNRWA (United Nations Relief and Works Agency) yn Llain Gaza ers 2006 yw John Ging (ganed 1965, Portlaoise, Gweriniaeth Iwerddon). Fel arweinydd gwaith y 10,000 o bobl sy'n gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Gaza daeth yn ffigwr cyfarwydd yn rhyngwladol fel sylwebydd ar y sefyllfa yno a ffynhonnell gwybodaeth awdurdodol yn ystod ymosodiad Israel ar Lain Gaza ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009.
John Ging | |
---|---|
Ganwyd | 1965 Port Laoise |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyflogwr |
Pennaeth UNRWA
golyguMae Ging wedi bod yn gyfrifol am arolygu cyllid $400 miliwn yr asiantaeth ddyngarol yn Llain Gaza ers Chwefror 1, 2006, gyda chyfrifoldeb am raglenni datblygu a gofalu fod anghenion sylfaenol tua 750,000 o ffoaduriaid Palesteinaidd yn cael eu cwrdd. Oherwydd ei safiad o blaid y Palesteiniaid dydy o ddim wedi bod ar dermau da â llywodraeth Israel. Yn 2007, goroesodd ymosodiad gan ddynion arfog anhysbys.[1]
Mae wedi beirniadu gweithgareddau milwrol Llu Amddiffyn Israel yn Gaza. Rhybuddiodd fod Gaza ar fin "catastroffi" mewn canlyniad i'r ymosodiad gan Israel a beirniadodd Israel am ymosod ar wersylloedd ac adeiladau y CU a safleoedd sifilaidd eraill.[2] Ar y 14eg o Ionawr 2009, cyhoeddodd fod "hanner miliwn o bobl heb ddŵr" yno a'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr peryglus. Roedd dros 1,000 o bobl wedi'u lladd erbyn hynny, llawer ohonyn nhw yn sifiliaid dinwed.[3]
Mae Ging yn un o'r rhai sydd wedi galw am ymchwiliad llawn i "droseddau rhyfel posibl gan Israel yn Llain Gaza." Ar y 15fed o Ionawr 2009, trawyd pencadlys UNRWA gan fomiau Israelaidd ac aeth y warws - a oedd yn llawn o stociau bwyd a meddyginiaethau yn aros i gael eu dosbarthu - ar dân; ymledodd y tân i storfa tanwydd UNRWA. Roedd tua 700 o bobl yn cysgodi yno ond llwyddodd pawb i ddianc. Yn ôl John Ging, defnyddiodd yr Israeliaid bomiau ffosfforws gwyn, sy'n ddeunydd anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol i'w defnyddio yn erbyn sifiliaid.[4][5] Ar 17 Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion UNRWA yn Beit Lahiya. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd John Ging am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel "troseddau rhyfel posibl".[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Attack on relief envoy denounced" 2007-03-17 UPI
- ↑ "Life in the Gaza Strip as the Israeli assault intensifies" 2009-01-04 The Guardian
- ↑ "Gaza death toll passes 1000 mark" 14.01.2009 Archifwyd 2009-01-16 yn y Peiriant Wayback Press TV.
- ↑ "Israel used phosphorous on UN center" 15.01.2009 Archifwyd 2009-01-17 yn y Peiriant Wayback Press TV.
- ↑ "Israel shells hosptitals and UN HQ" 15.01.2009 Al Jazeera
- ↑ "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009 Al Jazeera.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan UNRWA
- (Saesneg) "Nowhere left to run in Gaza: UNRWA"[dolen farw] Testun llawn cyfweliad gyda John Ging ar Press TV, 17.01.2009