John Gruffydd Jones
Llenor a chemegydd o Gymro oedd John Gruffydd Jones (1932 – 11 Mawrth 2023).
John Gruffydd Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1932 |
Bu farw | 11 Mawrth 2023 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cemegydd diwydiannol |
Roedd yn wreiddiol o Nanhoron ym Mhen Llŷn, a bu'n byw ym Manceinion am 17 mlynedd cyn ymgartrefu yn Abergele gyda'i wraig Eirlys yn 1967. Roedd ysgrifennu yn ddiléit ganddo, a bu'n awdur prysur.[1]
O ganol yr 1970au enillodd Jones rai o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mor ddiweddar â 2018 fe enillodd wobr lenyddol yn y Brifwyl, ond cyn hynny, enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1981, Y Fedal Ddrama yn 1986 a'r Goron yn 1987.
Wedi ymddeol bu'n olygydd ar Y Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng mlynedd rhwng 2000 a 2010. Aeth ati hefyd i ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol dan gyfarwyddyd Yr Athro Angharad Price yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012.
Bu farw yn 90 oed ar ôl gwaeledd byr. Mae'n gadael merch a mab, Delyth Marian a Dafydd Llewelyn, yn ogystal â thair o wyresau.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Cariad Pur? (2014) (Gwasg y Bwthyn)
- A Breuddwydion Bardd Ydynt? (2013) (Gwasg y Bwthyn)
- Dawns Ganol Dydd (2012) (Gwasg y Bwthyn)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781907424366, Dawns Ganol Dydd". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-16.
- ↑ Y llenor John Gruffydd Jones wedi marw yn 90 oed , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2023.